Casgliadau i gloi ICESCR 2025, paragraff 51
Argymhelliad Cymreig clir
Dylai’r Llywodraeth:
(a) Gwneud mwy i sicrhau darpariaeth iechyd gyffredinol. Mae hyn yn cynnwys cynyddu adnoddau ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), hyfforddi a chadw staff meddygol, a sicrhau mynediad at offer a seilwaith, lleihau amseroedd aros a gwella gwasanaethau mewn ardaloedd anghysbell a gwledig. Dylai mesurau ddileu stigma a rhwystrau i fynediad at iechyd i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, mudwyr heb ddogfennau a cheiswyr lloches, ac i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol a rhyngrywiol mewn perthynas â gofal iechyd sy’n gysylltiedig â hunaniaeth rhywedd, yn enwedig yn yr Alban. Dylai camau gweithredu gael eu harwain gan gyngor y CU ar yr hawl i’r safon iechyd uchaf y gellir ei chyrraedd;
(b) Gwella gwasanaethau iechyd meddwl trwy sicrhau bod ganddynt ddigon o adnoddau a chefnogaeth well yn y gymuned. Dylai’r Llywodraeth gyflwyno mentrau i ddileu stigma iechyd meddwl a gweithredu camau wedi’u targedu ar gyfer grwpiau sy’n cael eu heffeithio’n anghymesur gan gyflyrau iechyd meddwl.
Original UN recommendation
Date of UN examination
12/03/2025
Original UN document
Lawr lwytho casgliadau i gloi gwreiddiol 2025 y ICESCR ar wefan y CU.