Canlyniadau iechyd a phrofiadau yn y system gofal iechyd – asesu Llywodraeth y DU

Asesiad cynnydd

Cynnydd cyfyngedig

Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.

Fe amlinellodd Llywodraeth y DU nifer o weithredoedd er mwyn lleihau anghydraddoldebau iechyd a gwella canlyniadau yng Nghynllun Tymor Hir y GIG. Roedd ymateb y GIG i’r pandemig coronafeirwrs (COVID-19) yn sylweddol, er bod dargyfeirio adnoddau wedi arwain at ôl-groniadau o ran mynediad i ofal. Cafodd anghydraddoldebau oedd eisoes wedi eu gwreiddio mewn canlyniadau a phrofiadau iechyd i wahanol grwpiau eu dwysáu gan y pandemig COVID-19.

Darllenwch ragor ynglŷn â chamau gweithredu Llywodraethau’r DU a Chymru parthed canlyniadau a phrofiadau iechyd yn y system gofal iechyd.

Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022