Mynediad at ofal iechyd – Gweithredu gan y llywodraeth
Gweithredu gan Lywodraeth y DU
- Ym Medi 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yr Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd i helpu talu am gynlluniau i wella gofal iechyd yn Lloegr gan gynnwys taclo’r ôl-groniad mewn gofal dewisol.
- Yng Ngorffennaf 2021, cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y Mesur Iechyd a Gofal i’r Senedd i gefnogi integreiddiad y system iechyd a gofal ac i hybu atebolrwydd, ynghyd ag amcanion eraill.
- Yn Ionawr 2021, dechreuodd yr Arsyllfa Hil ac Iechyd y GIG newydd weithio i daclo anghydraddoldebau hil mewn iechyd a gofal.
- Yn Ionawr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig gynllun cyflawni brechlynnau COVID-19.
- Yn Hydref 2020, cyhoeddodd NHS England gefnogaeth arbenigol ar gyfer pobl oedd yn dioddef ‘Covid Hir’, gan ddilyn gyda chynllun GIG targedig a chyllid atodol ym Mehefin 2021.
- Yng Ngorffennaf 2020, cyhoeddodd y GIG ei Gynllun Pobl ar gyfer 2020–21, oedd yn delio ag effaith y pandemig ar, er enghraifft, ddulliau o gyflenwi gofal.
- Yn Ebrill 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig £6 biliwn o gyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd i gefnogi’r ymateb i’r pandemig, gan ddilyn gyda £3 biliwn yn ychwanegol yn yr Adolygiad o Wariant 2020, a £6.6 biliwn ym Mawrth 2021.
- Ym Mawrth 2020, pasiwyd Deddf y Coronafeirws 2020, yn galluogi gweithwyr iechyd blaenorol i ddychwelyd i’r gwaith, yn cyflwyno mesurau iechyd cyhoeddus, a chyfyngu ar asesiadau gofal iechyd parthau y GIG.
- Ym Mawrth 2019, cyhoeddodd NHS England adroddiad dros dro ar Adolygiad Dan Arweiniad Clinigol o Safonau Mynediad y GIG, yn cynnig newidiadau i’r safonau amser aros.
- Mae Cynllun Tymor Hir y GIG, a gyhoeddwyd yn Ionawr 2019, yn ymroi i daclo anghydraddoldeb iechyd.
- Ym Mehefin 2018, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig setliad ariannu newydd ar gyfer y GIG o £20.5 biliwn mewn telerau go iawn – cynnydd cyfartalog o 3.4% y flwyddyn hyd at 2023–24.
- Yng Ngorffennaf 2017, cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig addasiad i gyfundrefn taliadau’r GIG sy’n gofyn i ymwelwyr o dramor, mewnfudwyr yn bennaf, dalu o flaen llaw am ofal nad yw’n frys.
Gweithredoedd Llywodraeth Cymru Mae mynediad at ofal iechyd yn fater sydd wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru.
- Yn Awst 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £551 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, wedi ei anelu at dalu costau parhaus y pandemig a thaclo amserau aros.
- Yn Ebrill 2021, sefydlodd Llywodraeth Cymru y Pwyllgor Brechu Teg i sicrhau mynediad teg i’r rhaglen brechu coronafeirws COVID-19.
- Ym Mawrth 2021, cwblhaodd Llywodraeth Cymru adolygiad o weithredoedd yn ‘Cymru Iachach’, cynllun a gyhoeddwyd yn 2018 i wella hygyrchedd i wasanaethau gofal iechyd. Crëwyd y Gronfa Trawsnewid £100 miliwn i gefnogi ei weithrediad. Ychwanegwyd gweithredoedd newydd yn 2021 i ffocysu ar anghydraddoldeb iechyd.
- Yn Nhachwedd 2020, llofnododd Llywodraeth Cymru femorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Sefydliad Iechyd y Byd i hyrwyddo a gwella cydraddoldeb iechyd.
- Yn Awst 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru estyniad o 12-mis ar gyfer y Gronfa Gofal Integredig a’r Gronfa Trawsnewid tan Ebrill 2022.
- Ers Rhagfyr 2020, wedi cael ei seibio ym mis Mawrth, mae byrddau iechyd wedi gallu penderfynu’n lleol pryd i ail-afael mewn apwyntiadau cleifion allanol nad ydynt yn frys, derbyniadau llawfeddygol a thriniaethau.
- Yn 2019, cyflwynodd Llywodraeth Cymru un targed amser aros unigol ar gyfer cleifion canser.
- Rhwng 2016 a 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru nifer o gynlluniau a rhaglenni i leihau anghydraddoldeb iechyd ac i drechu rhwystrau i gael mynediad i ofal iechyd ar gyfer gwahanol grwpiau. Mae’r rhain yn cynnwys Cynllun Gweithredu ar Bobl Drawsryweddol (2016), ‘Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr’ (2018), Rhaglen Anableddau Dysgu: Gwella Bywydau (2018), a Chynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches (2019).
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 30/09/2021