Mynediad at ofal iechyd – asesiad Llywodraeth y DU
Dim cynnydd
Ni chafwyd unrhyw newidiadau cyfreithiol na pholisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol o ran y mater hwn, a thystiolaeth gyfyngedig iawn sydd o’r cynnydd o ran mwynhad o'r hawliau hyn.
Mae rhestrau aros hirach nag erioed ac amserau aros sy’n gwaethygu gyda’r GIG ers cyn y pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi cyfyngu mynediad at ofal iechyd. Mae yna dystiolaeth bod grwpiau penodol yn profi anghydraddoldeb parhaus o ran mynediad i ofal iechyd, ond mae diffyg data yn ôl nodweddion gwarchodedig yn ei gwneud yn anodd deall y gwahaniaethau hyn yn llwyr. Er bod Cynllun Tymor Hir y GIG yn ymroi i ddelio ag amrywiaethau mewn mynediad i ofal, mae’n rhy fuan i asesu ei effaith. Mae rhaglen frechu COVID-19 wedi cyflawni cwmpas eang, ond mae mynediad i driniaeth ar gyfer cyflyrau eraill wedi ei gyfyngu’n llym oherwydd y pandemig.
- Cyrhaeddodd y nifer o bobl sy’n aros am driniaeth ysbyty yn Lloegr niferoedd uwch nag erioed yng Ngorffennaf 2021, gydag amserau aros ar draws nifer o wasanaethau iechyd yn cynyddu’n sylweddol dros y ddegawd ddiwethaf. Cyrhaeddodd y canran o gleifion yn yr Adran Ddamweiniau a dderbyniwyd, trosglwyddwyd neu rhyddhawyd o fewn pedair awr swm isaf erioed o 64% mewn Adrannau Brys ‘math 1’ ym Medi 2021.
- Roedd amserau aros cynyddol yn y pandemig COVID-19 yn rhannol oherwydd galw cynyddol, ond mae oedi parhaus yn golygu bod mwy o bobl yn methu cael mynediad i ofal iechyd pan fyddant ei angen.
- Cyn y pandemig, roedd yna anghydraddoldeb sefydledig mewn mynediad at ofal iechyd ar gyfer gwahanol grwpiau, yn cynnwys pobl gydag anableddau dysgu, ffoaduriaid a phobl yn ceisio lloches, pobl trawsryweddol, cyplau un rhyw, grwpiau lleiafrifoedd ethnig, yn cynnwys Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phobl ddigartref.
- Mae newidiadau i bolisïau tâl y GIG yn Lloegr wedi cyfyngu mynediad at ofal iechyd i bobl sydd wedi cael gwrthod lloches a grwpiau eraill o ymfudwyr.
- Mae prinder data yn cofnodi nodweddion gwarchodedig yn ei gwneud yn anodd adolygu gwahaniaethau penodol mewn mynediad.
- Mae’n rhy fuan i adolygu effaith Cynllun Tymor Hir y GIG, sy’n cynnwys cynigion i wella mynediad at wasanaethau iechyd.
- Cafwyd cynnydd mewn cyllid i’r GIG, ond mae gwariant wedi tyfu ar gyflymder hanesyddol araf ers 2009–10. Mae cyllid mewn rhai meysydd wedi lleihau, fel grant iechyd cyhoeddus, a grebachodd £850 miliwn mewn termau go iawn rhwng 2015–16 a 2019–20.
- Yn dilyn cyhoeddiadau cyllid y GIG ym Medi 2021, amcangyfrifwyd y bydd hyn yn annigonol i dalu am effaith tymor canolig y pandemig.
- Erbyn Medi 2021, roedd dros 78 miliwn o frechiadau COVID-19 wedi eu gweinyddu yn Lloegr. Fodd bynnag, mae gan rai grwpiau o’r boblogaeth â chwmpas brechu is.
- Mae’r pandemig wedi amharu ar fynediad i ofal iechyd ar gyfer grwpiau penodol yn fwy nag eraill, yn cynnwys pobl hŷn lleiafrifoedd ethnig, pobl sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol, pobl drawsrywiol, menywod a phlant ifanc. Mae arallgyfeirio adnoddau wedi cael effaith arwyddocaol ar fynediad i ofal iechyd ar gyfer pobl gyda chyflyrau eraill sy’n peryglu bywyd. Roedd pobl anabl a phobl hŷn yn fwy tebygol o adrodd amhariadau o ran cyrchu triniaeth ac fe fu adroddiadau o heriau penodol wrth gael mynediad i feddyginiaethau.
- Cyhoeddodd NHS England gefnogaeth i unigolion oedd yn profi ‘COVID hir’, ond mae tystiolaeth yn awgrymu bod yna amserau aros hir i gael mynediad i driniaeth.
- Mae rhai pobl gyda chyflyrau iechyd hirdymor yn adrodd bod y newid i wasanaethau gofal iechyd ar-lein a dros y ffôn yn ystod y pandemig wedi helpu hwyluso mynediad at ofal iechyd, tra bod eraill yn adrodd eu bod yn teimlo wedi ynysu neu eithrio gan hyn.
- Gallai’r Mesur Iechyd a Gofal hwyluso gwell cydweithrediad o ran cyflawni iechyd a gofal cymdeithasol, ond mae pryderon yn cynnwys na fydd y diwygiadau yn delio’n ddigonol â heriau fel prinder gweithlu.
- Mae cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i daclo’r ôl-groniad mewn gofal iechyd dewisol i’w croesawu, er nad yw’n amlwg eto os ydynt yn ddigonol i ddelio ag amserau aros uwch nag erioed.