Lechyd atgenhedlol a rhywiol – Gweithredu’r llywodraeth
Camau gweithredu Llywodraeth y DU
- Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddodd NHS England ganllawiau diwygiedig ar gyfyngiadau ar ymweld ag unedau mamolaeth yn ystod pandemig conronafeirws (COVID-19), gan ganiatáu i fenywod beichiog gael cymorth gan un person drwy gydol eu beichiogrwydd.
- Ym mis Rhagfyr 2020, cyheoddodd Public Health England ganllawiau i helpu i leihau anghydraddoldeb o ran canlyniadau i fenywod o leiafrifoedd ethnig a’u babanod.
- Ym mis Mawrth 2020, o ganlyniad i’r pandemig, cymeradwyodd Llywodraeth y DU fesurau dros dro yn Lloegr i alluogi menywod a merched i gymryd tabledi ar gyfer erthyliad meddygol cynnar o gartref, heb fod angen mynd i ysbyty neu glinig yn gyntaf.
- Ym mis Mawrth 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai’r cyffur ataliol (proffylacsis cyn-gysylltiad) yn cael ei gyflwyno’n llawn yn Lloegr er mwyn lleihau trosglwyddiad HIV.
- Ym mis Hydref 2019, ymrwymodd Llywodraeth y DU i gyflwyno strategaeth iechyd rhywiol genedlaethol newydd ar gyfer Lloegr.
- Ym mis Medi 2019, ehangodd Llywodraeth y DU gynllun brechlyn HPV (feirws papiloma dynol) er mwyn brechu bechgyn 12–13 oed yn Lloegr.
- Ym mis Medi 2019, gwnaeth rheoliadau newydd yn Lloegr wneud addysg perthnasoedd ‘sy’n briodol o ran oedran’ yn orfodol mewn ysgolion cynradd, addysg rhyw a pherthnasoedd yn orfodol mewn ysgolion uwchradd, ac addysg iechyd yn orfodol mewn ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth o fis Medi 2020.
- Yng ngwanwyn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynllun i ddarparu nwyddau mislif er mwyn sicrhau bod myfyrwyr mewn ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac addysg bellach yn Lloegr yn gallu cael gafael ar nwyddau mislif am ddim yn eu man astudio. Cyhoeddodd hefyd ei bod wedi creu Tasglu Tlodi Mislif i fynd i’r afael â thlodi mislif a’r stigma ehangach sy’n gysylltiedig â’r mislif.
Camau gweithredu Llywodraeth Cymru Mae gofal iechyd wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae meysydd penodol sy’n ymwneud ag iechyd atgenhedlol a rhywiol wedi’u cadw’n ôl gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys erthyliad, embryoleg a benthyg croth.
- Ym mis Mawrth 2021, cyflwynodd Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 ofyniad gorfodol i bob ysgol ddarparu addysg cydberthynas a rhywioldeb. Ym mis Mai 2021, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y cwricwlwm ar gyfer Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.
- Ym mis Hydref 2020, nododd Cynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019–2022 Llywodraeth Cymru fod gwella gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol yn flaenoriaeth.
- Yn 2020, gwnaeth Llywodraeth Cymru ehangu gwasanaethau ar-lein i archebu pecynnau profi ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, gan gynnwys HIV, i bob rhan o Gymru, yn dilyn cynllun peilot yn 2018.
- Ym mis Mawrth 2020, o ganlyniad i’r pandemig coronafeirws (COVID-19), gwnaeth Llywodraeth Cymru arfer pwerau i alluogi menywod a merched i derfynu beichiogrwydd cynnar dros dro drwy gymryd tabledi ar bresgripsiwn gartref yn hytrach na mewn ysbyty neu glinig. Daeth ymgynghoriad ar wneud y newid hwn yn barhaol i ben ym mis Chwefror 2021.
- Ym mis Gorffennaf 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth pum mlynedd ar ofal mamolaeth yng Nghymru.
- Ym mis Mawrth 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n rhoi £1 filiwn i awdurdodau lleol ac ysgolion er mwyn mynd i’r afael â thlodi mislif. Dyrannwyd £3.1 miliwn pellach yn 2020–21 er mwyn galluogi pob ysgol a choleg yng Nghymru i ddarparu nwyddau mislif am ddim, a dyrannwyd £220,000 i bob awdurdod lleol i ddarparu nwyddau mewn adeiladau cyhoeddus, megis llyfrgelloedd.
- Ym mis Mai 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru astudiaeth tair blynedd i ddarparu proffylacsis cyn-gysylltiad i unrhyw unigolyn os yw’n briodol yn glinigol er mwyn atal HIV. Ym mis Mehefin 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’r driniaeth hon ar gael yn barhaol.
- Ym mis Tachwedd 2016, comisiynodd Llywodraeth Cymru Iechyd Cyhoeddus Cymru i ymgymryd ag adolygiad o wasanaethau iechyd rhywiol yng Nghymru. Cyhoeddwyd yr adolygiad yn 2018. Yn dilyn hyn, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad pellach o wasanaethau iechyd rhywiol carchardai.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 12/07/2021