Lechyd atgenhedlol a rhywiol – asesiad Llywodraeth y DU
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Mae toriadau ariannol i grant iechyd y cyhoedd wedi effeithio ar gyllidebau iechyd rhywiol ac atgenhedlol. Mae mynediad at wasanaethau ledled Lloegr yn amrywio ac nid yw Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei strategaeth genedlaethol ar iechyd rhywiol eto. Er bod cyfradd gyffredinol y gostyngiad mewn marwolaethau mamol wedi arafu, mae gwahaniaethau ethnig wedi cynyddu. Mae pobl ifanc a’r rhai o ardaloedd difreintiedig yn fwy tebygol o gael erthyliad. Fodd bynnag, mae darparu proffylacsis cyn-gysylltiad yn fesur pwysig i leihau trosglwyddiad HIV ac mae’n bosibl y bydd cyflwyno addysg perthnasoedd, rhyw ac iechyd orfodol yn Lloegr yn gwella gwybodaeth pobl am iechyd atgenhedlol a rhywiol.
- Mae cyfradd y gostyngiad mewn marwolaethau mamol wedi arafu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ledled y DU, ac ni newidiodd lawer rhwng 2013 a 2018. Rhwng 2016 a 2018, roedd gwahaniaeth pedwarplyg mewn cyfraddau marwolaeth ymhlith menywod Du, a bron dwywaith cymaint o wahaniaeth ymhlith menywod Asiaidd, o gymharu â menywod Gwyn.
- Mae rhannu cyfrifoldebau dros iechyd rhywiol ac atgenhedlol rhwng awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau’r GIG a grwpiau comisiynu clinigol yn Lloegr wedi arwain at ‘loteri cod post’, lle mae rhai ardaloedd wedi’u diogelu’n well rhag beichiogrwydd heb ei gynllunio nag eraill.
- Ym mis Gorffennaf 2021, nododd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tŷ’r Cyffredin fod Lloegr yn gwneud cynnydd da tuag at haneru cyfradd y marw-enedigaethau a marwolaethau newyddanedigion erbyn 2025. Fodd bynnag, beirniadodd y pwyllgor yr amrywiad parhaus o ran ansawdd gofal mamol ledled Lloegr, a’r diffyg cynnydd o ran lleihau anghydraddoldebau mewn canlyniadau mamol a newyddenedigol.
- Mae pobl ifanc rhwng 20 a 24 oed a menywod o ardaloedd difreintiedig yn fwy tebygol o gael erthyliad na grwpiau poblogaeth eraill yn Lloegr. Fodd bynnag, mae cyfradd y rhai dan 18 oed sy’n cael erthyliad wedi bod yn lleihau’n barhaus ers 2009. Mae’r gyfradd beichiogi i rai dan 18 oed wedi parhau i ostwng.
- Mae pryderon bod diffyg ymwybyddiaeth o gynllun tlodi mislif Llywodraeth y DU wedi effeithio ar y nifer sy’n manteisio arno. Canfu un arolwg, yn ystod y cyfyngiadau symud ym mis Mawrth 2020, fod bron un rhan o dair o ferched a menywod ifanc 14-21 oed wedi’i chael hi’n anodd fforddio nwyddau mislif, neu gael gafael arnynt, gan fod yr angen i gau ysgolion a chanolfannau ieuenctid wedi amharu ar gynllun y llywodraeth i ddarparu nwyddau am ddim.
- Mynegwyd pryderon ynghylch effaith pandemig coronafeirws (COVID-19) ar wasanaethau cynenedigol, amenedigol a mamolaeth, a defnyddiwyd dull gweithredu anghyson yn ymddiriedolaethau ac ysbytai’r GIG wrth ailddechrau cymorth yn y cnawd a phartneriaid geni, er gwaethaf canllawiau gan y GIG.
- Mae cyflwyno addysg perthnasoedd, addysg rhyw a pherthnasoedd, ac addysg iechyd orfodol yn cynnwys pwyslais ar iechyd atgenhedlol, cam-drin rhywiol a rhywioldeb.
- Mae gan rieni hawl statudol i ofyn am i’w plentyn gael ei esgusodi o addysg rhyw. Er nad yw’r hawl hon yn gymwys i addysg perthnasoedd nac addysg iechyd, mae pryderon y gallai beri risg diogelu ddiangen – mae’n bwysig cydbwyso hawliau rhieni i ddewis sut y caiff eu plant eu haddysgu â hawliau plant, gan gynnwys yr hawl i addysg.
- Mae toriadau ariannol i faes ehangach iechyd y cyhoedd wedi effeithio’n sylweddol ar gyllidebau iechyd rhywiol ac atgenhedlol. Er gwaethaf buddsoddiadau o fwy na £600 miliwn y flwyddyn mewn gwasanaethau iechyd rhywiol, mae’r Gymdeithas Llywodraeth Leol wedi cyfeirio at bwysau cynyddol ar rai cynghorau.
- Er ei fod wedi cael ei ohirio o ganlyniad i’r pandemig, bydd y cynllun i ddarparu’r cyffur gwrth-retrofeirysol, proffylacsis cyn-gysylltiad yn ehangu mynediad at driniaeth ataliol ar gyfer HIV yn Lloegr.
- Nid yw Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei strategaeth genedlaethol ar iechyd rhywiol eto, er iddi ymrwymo i ddatblygu strategaeth newydd yn 2019.