Canlyniadau iechyd a phrofiadau yn y system gofal iechyd – asesu Llywodraeth Cymru
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i hyrwyddo cydraddoldeb mewn canlyniadau iechyd, ac mae adroddiadau ynghylch profiadau iechyd a gofal iechyd da yng Nghymru wedi parhau yn gymharol gyson dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae disgwyliad oes wedi gostwng ac mae cyfraddau gordewdra mewn oedolion wedi cynyddu. Mae rhestrau aros ac amseroedd ymateb mewn argyfwng wedi cynyddu hefyd. Mae diffyg data sydd wedi’i ddadgyfuno ar gyfer Cymru a, lle mae data’n bodoli, dengys anghydraddoldebau mewn iechyd ar gyfer gwahanol grwpiau, gan gynnwys y rheini sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig a’r rheini sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol.
- Mae Adroddiad blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru ar gyfer 2021-22 yn pwysleisio sut y gwnaeth y pandemig coronafeirws (COVID-19) ddwysau anghydraddoldebau a chael effaith anghymesur ar bobl mewn rhai o’r sefyllfaoedd mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas yng Nghymru.
- Ym mis Gorffennaf 2022, dyrannodd Llywodraeth Cymru £3 miliwn ychwanegol i recriwtio mwy o staff ambiwlans brys er mwyn gwella amseroedd ymateb. Yn y tri mis blaenorol, cyrhaeddwyd at ychydig dros hanner (52.1%) o alwadau lle roedd bywyd yn y fantol o fewn yr amser targed o wyth munud.
- Ym mis Ebrill 2022,cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei raglen ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros yng Nghymru. Adeg cyhoeddi’r rhaglen, roedd 707,098 o gleifion yn aros i ddechrau triniaeth, – sydd gyfwerth ag un o bob pum person yng Nghymru – a gynyddodd hyd yn oed yn fwy erbyn mis Gorffennaf 2022, i 743,229, cynnydd o 62.7% ers mis Mawrth 2020.
- Canfu adroddiad is-Grŵp Economaidd Gymdeithasol COVID-19 Grŵp Cynghori Arbenigol Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Prif Weinidog Cymru ym mis Mehefin 2020 bod data ethnigrwydd gwael wedi arwain at benderfyniadau iechyd gwael a bod pobl wedi adrodd am brofiadau o hiliaeth yn y system gofal iechyd yng Nghymru.
- Yn ôl canlyniadau Arolwg Cyffredinol Cymru ar gyfer 2021/22, adroddodd 72% o oedolion fod ganddynt iechyd cyffredinol da neu dda iawn. Roedd cyfran yr oedolion a adroddodd bod eu hiechyd cyffredinol yn dda neu’n dda iawn yn is nag yn 2020/21.
- Canfu ymchwil ar ddisgwyliad oes a marwolaethau yng Nghymru yn 2020 bod oedi wedi digwydd i welliannau o ran disgwyliad oes a marwolaethau ers 2011. Cafwyd gostyngiad gweithredol mewn disgwyliad oes adeg genedigaeth ar gyfer dynion a menywod yn 2018-2020, o’i gymharu â 2015-2017.
- Mae’r gyfradd o oedolion sydd dros bwysau neu’n ordew yn parhau i gynyddu, gan gyrraedd 62% yn 2021/22. Mae’r cyfraddau ar eu huchaf ymysg dynion a’r rheini sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd mwyaf.
- Yn ôl canlyniadau Arolwg Cyffredinol Cymru ar gyfer 2021/22, roedd 86% o ymatebwyr yr arolwg a ddefnyddiodd wasanaethau iechyd yn ddiweddar yn weddol fodlon neu’n fodlon iawn â’r gofal gan eu GP, ac roedd 95% yn fodlon â’r gofal a dderbyniwyd yn eu hapwyntiad ysbyty GIG diwethaf.
- Yn 2020, gofynnwyd i Uned Cyflawni GIG Cymru reoli’r broses adrodd ar gyfer achosion diogelwch cleifion,yn rhannol er mwyn ‘gwella dysgu ar y cyd ar draws Cymru’. Fodd bynnag, nid yw’n ofynnol i gyrff GIG yng Nghymru benodi Gwarcheidwaid Rhyddid i Siarad.
- Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 yn cynnwys newidiadau sydd i’w croesawu, megis cyflwyno ‘dyletswydd gonestrwydd’ mewn perthynas â gwasanaethau iechyd a gwneud darpariaeth ar gyfer Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn cynrychioli buddiannau’r cyhoedd, ond nid yw hyn mewn grym eto.
- Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i gynnwys lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru i wahanol grwpiau, ceir tystiolaeth uniongyrchol gyfyngedig ar ganlyniadau iechyd yng Nghymru i grwpiau penodol, gan gynnwys y rhieni sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig.