Plismona – Gweithredu’r llywodraeth
Camau gweithredu Llywodraeth y DU
- Ym mis Mawrth 2021, cafodd Deddf Ffynonellau Cuddwybodaeth Ddynol (Ymddygiad Troseddol) 2021 gydsyniad brenhinol. Mae’n caniatáu i ffynonellau cuddwybodaeth ddynol awdurdodi ymddygiad troseddol, er nad yw’r Ddeddf wedi dod i rym eto.
- Ym mis Mawrth 2021, cyflwynodd Llywodraeth y DU Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2021. Mae’r Bil yn cynnwys mesurau amrywiol gan gynnwys pwerau stopio a chwilio newydd, cyfyngiadau ar brotestio, ac estyniad i bwerau’r heddlu er mwyn ymateb i wersylloedd diawdurdod.
- Ym mis Mawrth 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU £6.7 miliwn o gyllid ychwanegol i swyddogion yr Heddlu gario gynnau Taser, a allai ganiatáu i fwy nag 8,000 o swyddogion ychwanegol yng Nghymru a Lloegr eu cario.
- Ym mis Mawrth 2020, cyflwynodd Llywodraeth y DU Ddeddf y Coronafeirws 2020, a nododd bwerau’r heddlu mewn perthynas ag unigolion a allai fod yn heintus (adran 51) a digwyddiadau, cynulliadau a mangreoedd (adran 52). Nid yw pwerau o dan adran 52 wedi cael eu rhoi ar waith. Rhoddodd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Camau) (Lloegr) 2020 bwerau i’r heddlu orfodi rheolau’r cyfyngiadau symud, cyfyngu ar gynulliadau a symudiadau’r cyhoedd, a’i gwneud yn ofynnol i fusnesau a mangreoedd gau. Roedd rheoliadau pellach yn cynnwys rhwymedigaethau eraill i’w gorfodi, megis gwneud gorchuddion wyneb yn orfodol mewn rhai lleoliadau.
- Ym mis Ionawr 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddogfen ‘Armed policing and police use of less lethal weapons: code of practice’, gan gyfeirio at egwyddorion sylfaenol y Cenhedloedd Unedig ar ddefnydd swyddogion gorfodi’r gyfraith o rym ac arfau tanio.
- Ym mis Medi 2019, ymrwymodd Llywodraeth y DU i ddarparu dros £750 miliwn i recriwtio 20,000 o swyddogion newydd i’r heddlu dros dair blynedd.
- Ym mis Awst 2019, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bwriad i roi cynllun peilot stopio a chwilio ar waith dros gyfnod estynedig yng Nghymru a Lloegr, gan ganiatáu i swyddogion stopio a chwilio unrhyw un, heb amheuaeth resymol mewn rhai amgylchiadau, er mwyn atal troseddau treisgar.
- Ym mis Hydref 2018, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ganllawiau ar gyflwyno uwch-gwynion mewn perthynas â’r heddlu, gan gynnig gwybodaeth i gyrff dynodedig ar sut i gwyno am faterion systemig ym maes plismona.
- Ym mis Ionawr 2018, sefydlodd Llywodraeth y DU Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu i ddisodli Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu, yn unol â diwygiadau i system gwyno’r heddlu yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Plismona a Throsedd 2017. Ym mis Chwefror 2020, ehangwyd pwerau Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu er mwyn iddi allu ymchwilio i ddigwyddiadau heb iddynt gael eu hatgyfeirio gan yr heddlu.
- Ym mis Hydref 2017, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ganllawiau statudol ar gyfer Lloegr, sef dogfen Concordat on Children in Custody gan y Swyddfa Gartref, yn amlinellu’r ymrwymiad i leihau nifer y plant a gedwir dros nos, gan nodi y dylai celloedd yr heddlu gael eu defnyddio fel y dewis olaf i blant.
- Ym mis Hydref 2017, ymatebodd Llywodraeth y DU i’r Adolygiad Annibynnol o Farwolaethau a Digwyddiadau Difrifol yn Nalfa’r Heddlu, a oedd yn cynnwys 110 o argymhellion, gan gynnwys mewn perthynas ag ystadegau, amgylchedd y ddalfa, ataliaeth ac iechyd a llesiant.
- Ers mis Ebrill 2017, mae wedi bod yn ofynnol i heddluoedd ledled Cymru a Lloegr gofnodi amrywiaeth o ddata am y defnydd o rym, sef y rheswm dros ddefnyddio grym a nodweddion yr unigolyn sy’n destun grym – megis ethnigrwydd, oedran, rhywedd a chyflwr iechyd ymddangosiadol – ynghyd â chanlyniad y digwyddiad, unrhyw anafiadau i’r staff a’r unigolyn dan sylw, a’r lleoliad.
- Yn Neddf Plismona a Throsedd 2017 gwaharddwyd gorsafoedd yr heddlu rhag cael eu defnyddio fel ‘mannau diogel’ i blant dan 18 oed sy’n cael argyfwng iechyd meddwl.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 12/07/2021