Canlyniadau iechyd a phrofiadau yn y system gofal iechyd – asesu Llywodraeth y DU
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Fe amlinellodd Llywodraeth y DU nifer o weithredoedd er mwyn lleihau anghydraddoldebau iechyd a gwella canlyniadau yng Nghynllun Tymor Hir y GIG. Roedd ymateb y GIG i’r pandemig coronafeirwrs (COVID-19) yn sylweddol, er bod dargyfeirio adnoddau wedi arwain at ôl-groniadau o ran mynediad i ofal. Cafodd anghydraddoldebau oedd eisoes wedi eu gwreiddio mewn canlyniadau a phrofiadau iechyd i wahanol grwpiau eu dwysáu gan y pandemig COVID-19.
- Roedd data o fis Awst 2022 yn dangos bod record o 7 miliwn o bobl yn aros am ofal a gynlluniwyd dan arweiniad meddyg ymgynghorol yn Lloegr, er bod NHS England wedi gwneud cynnydd wrth ddileu’r amseroedd aros hiraf.
- Fe gyflwynodd Deddf Iechyd a Gofal 2022 fesurau deddfwriaethol yn Lloegr â’r bwriad o’i gwneud yn haws i sefydliadau iechyd a gofal ddarparu gofal cydgysylltiedig i bobl sy’n dibynnu ar nifer o wahanol wasanaethau.
- O 2010, fe arafodd y cynnydd mewn disgwyliad oes adeg genedigaeth yn Lloegr, yn enwedig mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Yn 2020, cafwyd gostyngiad sydyn mewn disgwyliad oes adeg genedigaeth – o 1.3 o flynyddoedd i ddynion ac 1 flwyddyn i fenywod – sydd â chysylltiad tebygol â’r pandemig COVID-19.
- Ceir anghydraddoldebau arwyddocaol mewn perthynas â disgwyliad oes, yn enwedig i’r rheini sy’n byw yn yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf. O 2018 hyd 2020, roedd dynion oedd yn byw yn yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf yn byw 9.7 mlynedd yn llai na dynion oedd yn byw yn yr ardaloedd o amddifadedd lleiaf, gyda bwlch o 7.9 o flynyddoedd i fenywod.
- Yn 2021, roedd yr oedran canolrifol adeg marwolaeth 22 mlynedd yn iau i ddynion ag anabledd dysgu nag i ddynion o’r boblogaeth gyffredinol, a 26 mlynedd yn iau i fenywod ag anabledd dysgu.
- Mae marwolaethau’n gysylltiedig â beichiogrwydd a genedigaeth wedi gostwng ers 2010. Fodd bynnag, mae’r perygl o farwolaethau mamol bedair gwaith yn uwch i fenywod Du a dwywaith yn uwch ar gyfer menywod Asiaidd o’u cymharu â’r perygl i fenywod Gwyn yn Lloegr. Bwriad Tasglu Gwahaniaethau Mamolaeth y Llywodraeth, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2022, yw ymchwilio a mynd i’r afael â’r gwahaniaethau hyn yn Lloegr.
- Ym mis Awst 2020, canfu Public Health England bod y pandemig COVID-19 wedi ailadrodd anghydraddoldebau iechyd oedd eisoes yn bodoli ac mewn rhai achosion wedi eu gwneud yn waeth.
- Cyn y pandemig COVID-19, roedd yna anghydraddoldebau hirdymor a chroestoriadol mewn canlyniadau iechyd. Mae gan bobl ag anabledd dysgu, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, pobl draws, grwpiau lleiafrifoedd ethnig penodol, gan gynnwys Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phobl ddigartref ganlyniadau iechyd corfforol a meddyliol gwaeth o’u cymharu â’r boblogaeth gyffredinol.
- Mae tystiolaeth yn dangos atchweliad mewn rhai dangosyddion iechyd i blant. Mae gordewdra plant a derbyniadau i’r ysbyty oherwydd diffyg maethiad yn parhau i gynyddu, ceir tystiolaeth o rywfaint o ostyngiad mewn cyfraddau brechu, ac mae tystiolaeth yn dangos bod gan y DU y mewn plant a achosir gan lygredd aer yn Ewrop.
- Canfu adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Awst 2020 bod y perygl o farw o COVID-19 yn uwch i bobl hŷn, pobl anabl, lleiafrifoedd ethnig a’r rheini sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd. Amcangyfrifwyd bod y gyfradd farwolaeth ymysg pobl ag anabledd dysgu yn Lloegr hyd at chwe gwaith yn uwch nag ar gyfer gweddill y boblogaeth.
- Mae’r symud tuag at ddarparu mwy o ofal trwy apwyntiadau digidol a ffôn yn ystod ac yn dilyn y pandemig COVID-19 wedi cael ei dderbyn yn gadarnhaol gan nifer o bobl. Fodd bynnag, mae hyn wedi creu rhwystrau mynediad i’r rheiny sydd wedi eu hallgáu yn ddigidol.
- Mae Cynllun Tymor Hir y GIG wedi ymrwymo i wella canlyniadau ar draws nifer o flaenoriaethau clinigol.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022