Cyfiawnder ieuenctid – asesu Llywodraeth y DU
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Rydym yn croesawu’r gostyngiad yn y nifer o blant yn y ddalfa yn ystod y blynyddoedd diwethaf, tuedd a gyflymodd yn dilyn brigiad achosion COVID-19. Ar gyfer y rheini yn y system cyfiawnder ieuenctid, mae’r defnydd o rym, carchariad unigol, trais a hunan-niwed yn gyffredin. Mae isafswm oed cyfrifoldeb troseddol yn parhau’n anghyson â safonau rhyngwladol. Mae gor-gynrychiolaeth o blant o leiafrifoedd ethnig yn y ddalfa; mae’r defnydd o ataliaeth sy’n achosi poen yn parhau; ac mae’r defnydd o remánd wedi cynyddu.
- Gallai darpariaethau yn Neddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 gynorthwyo i atal y defnydd amhriodol o remandio yn y ddalfa. Fodd bynnag, mae’r Ddeddf hefyd yn cynnwys mesurau allai arwain at blant sy’n cael eu dedfrydu am droseddau penodol yn treulio mwy o amser yn y ddalfa.
- Ceir pryderon y bydd cyflwyniad gweithdrefnau pledion ar-lein ac ysgrifenedig ar gyfer diffynyddion sy’n blant, trwy Ddeddf Adolygiad Barnwrol a’r Llysoedd 2022, yn tanseilio’u hawl i achos teg.
- Cododd arolygwyr bryderon difrifol ynglŷn â Chanolfan Hyfforddi Ddiogel Oakhill ym mis Hydref 2021. Roedd lefelau’r defnydd o rym yn uchel iawn, gan gynnwys achosion lle nad oedd cyfiawnhad dros ddefnyddio grym ar blant.
- Yng Nghymru a Lloegr, yr isafswm oed ar gyfer cyfrifoldeb troseddol yw 10 oed. Mae hyn yn anghyson â safonau hawliau dynol rhyngwladol, sy’n galw am isafswm oed o 14.
- Yn 2020/21, yng nghyd-destun pandemig COVID-19, fe ostyngodd y nifer o blant yn y ddalfa i’w lefel isaf mewn 20 mlynedd, gan barhau â’r tuedd ar i lawr. Nid yw wedi cynyddu’n arwyddocaol yn ystod 2021/22.
- Mae gor-gynrychiolaeth o blant Du a bechgyn yn y ddalfa. Fe gynrychiolodd plant Du 29% o’r boblogaeth yn y ddalfa yn 2020/21. Mae cyfran y plant yn y ddalfa sy’n Ddu wedi cynyddu dros y 10 mlynedd diwethaf.
- Mae nifer o blant sydd yn y ddalfa yn treulio amser cyfyngedig allan o’u celloedd. Mae amser allan o’r celloedd yn amrywio’n helaeth yn ôl y sefydliad, gyda rhai plant ond yn treulio pedair awr allan o’u cell ar ddyddiau’r wythnos a dwy awr dros y penwythnos. Yn ystod pandemig COVID-19, gwnaed defnydd helaeth o garchariad unigol estynedig, mewn rhai achosion hyd at 22 awr y dydd.
- Mae cyfraddau ymosodiadau ieuenctid yn y ddalfa wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, ond gwelwyd gostyngiad yn ystod pandemig COVID-19. Ar y cyfan, fe wnaeth cyfraddau hunan-niwed ostwng yn 2020/21, yng nghyd-destun pandemig COVID-19. Fodd bynnag, mae data’n dangos i gyfraddau gynyddu ar gyfer merched yn enwedig a’u bod yn parhau’n uchel iawn o’u cymharu â bechgyn.
- Mae’r defnydd o rym yn y ddalfa yn uchel ac mae’r cyfraddau wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, er iddynt ostwng yn 2020/21 yng nghyd-destun pandemig COVID-19. Fe adwaenodd adolygiad yn 2019 or-ddefnydd helaeth o ataliaeth. Gall hyn gynnwys technegau sy’n achosi poen, y mae Llywodraeth y DU wedi methu â’u gwahardd er gwaethaf galwadau i wneud hynny gan y Cenhedloedd Unedig (CU).
- Ceir pryderon bod gor-ddefnydd yn cael ei wneud o’r ddalfa ac nad yw’n cael ei drin fel dewis olaf i blant yn unol ag argymhellion y Cenhedloedd Unedig. Yn 2020/21, roedd nifer cyfartalog y plant a gafodd eu dal ar remánd yn cyfri am 40% o’r holl blant yn y ddalfa ieuenctid.
- Caiff deddfwriaeth newydd i ddiwygio’r system cofnodion troseddol ei chroesawu. Fodd bynnag, mae’r drefn ar gyfer datgelu cofnodion troseddol ieuenctid yn parhau’n debyg i’r drefn a ddefnyddiwyd ar gyfer oedolion. Gall troseddau a gyflawnwyd gan blant aros ar eu cofnodion troseddol weddill eu hoes a gallant gael effaith sylweddol ar eu dyfodol.
- Er gwaethaf ymrwymiad Llywodraeth y DU i adeiladu dwy ysgol ddiogel mewn ymateb i Adolygiad Taylor 2016, mae’r cynnydd wedi bod yn araf. Cynlluniwyd bod yr ysgol gyntaf yn agor yn 2022 ond ni ddechreuwyd ar y gwaith adeiladu nes fis Gorffennaf 2022.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022