Lechyd atgenhedlol a rhywiol – asesiad Llywodraeth Cymru
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi deddfu i’w gwneud yn orfodol i bob plentyn ysgol rhwng 5 ac 16 oed ddysgu am iechyd rhywiol ac atgenhedlol yn yr ysgol, er nad yw’r ddeddfwriaeth hon wedi dod i rym eto. Gwelwyd gwelliannau mewn iechyd rhywiol ac atgenhedlol dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys cyfraddau is o feichiogrwydd ymysg pobl ifanc yn eu harddegau, a gwell mynediad at broffylacsis cyn-gysylltiad i atal HIV. Fodd bynnag, mae diffyg gwasanaethau arbenigol yng Nghymru mewn sawl maes sy’n ymwneud ag iechyd atgenhedlol o hyd.
- Mae’r gyfradd beichiogi i’r rhai dan 18 oed yng Nghymru wedi lleihau’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd y gyfradd beichiogi yn7 o feichiogiadau fesul 1,000 o fenywod rhwng 15 a 17 oed ym mis Mehefin 2018, o gymharu â 35.3 ym mis Mehefin 2011.
- Mae menywod ifanc rhwng 20 a 24 oed yn fwy tebygol o gael erthyliad na grwpiau poblogaeth eraill yng Nghymru. Fodd bynnag, mae cyfradd y rhai dan 18 oed sy’n cael erthyliad wedi lleihau’n barhaus ers 2008, gan sefydlogi yn 2018 ar 8.0 fesul 1,000 ac yn 2019 ar 8.1 fesul 1,000.
- Yn ôl y ffigurau diweddaraf sydd ar gael, mae nifer yr achosion o glamydia a siffilis wedi cynyddu ers 2016–17, er bod nifer yr achosion o gonorea a herpes am y tro cyntaf wedi lleihau. Dylid trin y tueddiadau hyn â gofal oherwydd amrywiadau rhwng byrddau iechyd Cymru o ran pa mor gyflawn yw eu data.
- Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu mynediad at wasanaethau profi am STI ar-lein ledled Cymru.
- Ym mis Mehefin 2020, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai’n rhoi’r cynllun i ddarparu proffylacsis cyn-gysylltiad ar waith yn llawn er mwyn atal pobl rhag dal HIV os yw’n briodol yn glinigol.
- Canfu adolygiad yn 2018 o wasanaethau iechyd rhywiol yng Nghymru fod cynnydd yn nifer y bobl sy’n mynd i glinigau iechyd rhywiol yn rhoi pwysau ar y gwasanaethau a ddarperir, a bod gwahaniaethau rhwng y gwasanaethau a ddarperir ledled Cymru. Ers hynny, gwnaed cynnydd o ran adolygu gwasanaethau yn erbyn safonau manyleb, a datblygu cynllun i wella gwasanaethau iechyd rhywiol lleol.
- Canfu adolygiad o wasanaethau iechyd rhywiol carchardai fod gan bob carchar wasanaethau iechyd rhywiol, ond eu bod yn amrywio o ran y ffordd y cânt eu darparu. Yn dilyn y gwaith hwn, cynhaliwyd y gweithdy iechyd rhywiol cyntaf er mwyn dod â chlinigwyr allweddol sy’n gweithio yn y gwasanaethau iechyd rhywiol mewn carchardai yng Nghymru at ei gilydd.
- Ar hyn o bryd, nid oes clinigau penodol ar gyfer y rhai sy’n camesgor dro ar ôl tro yng Nghymru, a dim ond un canolfan endometriosis arbenigol sydd yng Nghymru. Mewn adolygiad yn 2018, beirniadwyd y gwasanaeth endometriosis a ddarperir mewn gofal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol am nad yw’n diwallu anghenion, gan arwain at ddiffyg mynediad at ofal priodol i fenywod ledled Cymru. Ni chafwyd diweddariad ar gynnydd y Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i ystyried argymhellion yr adolygiad.
- Yng Nghymru, caiff dau gylch llawn o driniaeth ffrwythlondeb y GIG eu hariannu ar hyn o bryd. Er bod hyn yn is na’r tri chylch a argymhellir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ar gyfer menywod cymwys, mae’r meini prawf mynediad yn gyson ledled y wlad.
- Mae cynnydd Llywodraeth Cymru o ran ymdrin â’r argymhellion yn adolygiad Estyn, yr arolygiaeth addysg, o addysg perthnasoedd iach yn 2017 wedi bod yn araf, ac ni chyflwynwyd Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) tan 2020. Yn unol â’r cwricwlwm newydd ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb i blant 5–16 oed, bydd addysg rhyw yn orfodol, ond bydd llesiant mislifol drwy gydol taith bywyd yn ddewisol.
- Nid yw Llywodraeth Cymru wedi diweddaru strategaeth iechyd rhywiol 2010–2015 na chyflwyno strategaeth newydd yn ei lle, ac nid yw wedi nodi ei bod yn bwriadu gwneud hynny ychwaith.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 12/07/2021