Mynediad at ofal iechyd – asesiad Llywodraeth Cymru
Dim cynnydd
Ni chafwyd unrhyw newidiadau cyfreithiol na pholisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol o ran y mater hwn, a thystiolaeth gyfyngedig iawn sydd o’r cynnydd o ran mwynhad o'r hawliau hyn.
Mae yna dystiolaeth bod grwpiau penodol yn profi anghydraddoldeb parhaus o ran mynediad i ofal iechyd yng Nghymru, ond mae diffyg data yn ôl nodweddion gwarchodedig yn ei gwneud yn anodd deall y gwahaniaethau hyn yn llwyr. Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno gwasanaethau i wella mynediad at ofal iechyd i rai grwpiau, tystiolaeth gyfyngedig iawn sydd o well deilliannau. Mae rhaglen frechu coronafeirws (COVID-19) wedi cyflawni cwmpas eang, ond mae’r pandemig wedi gwaethygu oedi cyfredol mewn triniaeth ar gyfer cyflyrau eraill.
- Nid yw amserau aros y GIG yng Nghymru wedi gwella yn y blynyddoedd diwethaf. Cyn y pandemig, roedd y canran o bobl yn aros mwy na 26 wythnos i gychwyn triniaeth yn parhau i fod yn gymharol sefydlog rhwng 2016 a 2019, ac roedd y nifer o bobl yn aros mwy na 36 wythnos am driniaeth ysbyty bron wedi dyblu rhwng 2018 a 2019.
- Mae nifer o grwpiau yn wynebu rhwystrau penodol o ran cyrchu gofal iechyd. Mae pobl hŷn yn wynebu rhwystrau, fel argaeledd a hygyrchedd dewisiadau trafnidiaeth wrth deithio i wasanaethau iechyd. Mae Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn wynebu mynediad gwael at ddarpariaeth gofal iechyd. Mae ymfudwyr, ffoaduriaid a phobl sy’n ceisio lloches yn wynebu rhwystrau wrth gyrchu gwasanaethau, er bod yna rywfaint o dystiolaeth o arfer da yng Nghymru, gyda chysylltiadau rhwng y system loches a darparwyr gofal iechyd yn sicrhau parhad gofal.
- Ychydig o wybodaeth sydd ar gael am gynnydd wrth weithredu a gwerthuso gweithredoedd yn y polisïau gofal iechyd ar gyfer Sipsiwn, Roma a theithwyr ac ymfudwyr, ffoaduriaid a phobl sy’n ceisio lloches.
- Gall cleifion trawsryweddol sy’n 18 oed neu’n hŷn gael mynediad i wasanaethau yng Ngwasanaeth Rhywedd Cymru. Roedd oedi o ran agor y clinig hunaniaeth o ran rhyw, gyda chyfyngiadau yn ystod y pandemig yn cynyddu amserau aros ymhellach.
- Rhaid i’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig deithio mwy o bellter i gael mynediad i wasanaethau na’r rhai mewn ardaloedd trefol, ac mae pobl ddigartref yn wynebu anawsterau wrth gael mynediad i ofal iechyd.
- Noda diweddariad cynnydd dwy flynedd yn ddiweddarach (2020) sawl cyflawniad o ran gweithredu Cymru Iachach, yn cynnwys rhaglenni a sefydlwyd trwy’r Gronfa Trawsnewid i wella mynediad at wasanaethau. Fodd bynnagT, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi nodi bod angen i newid ddigwydd yn gyflymach, gydag Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2020 yn nodi nifer o rwystrau i fynediad at ofal iechyd.
- Rhwng Chwefror 2020 a Chwefror 2021, cynyddodd amserau aros dros 36 wythnos o 749%. Mae yna ddiffyg cyllid amcangyfrifiedig o, ar gyfartaledd, £360 miliwn y flwyddyn a fyddai ei angen i adfer rhestrau aros i lefelau cyn COVID.
- Mae yna bryderon ynghylch effaith y pandemig ar ofal iechyd nad yw’n gysylltiedig i’r coronafeirws, yn cynnwys oedi ar gyfer triniaethau canser yn arwain at ôl-groniad o gleifion, lleihad yn y niferoedd brechiadau ymysg plant, methiant i fodloni anghenion gofal iechyd pobl gydag anableddau dysgu, ac anhawster i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl.
- Mae’r pandemig wedi cynyddu rhestr aros o dros naw mis ar gyfer gwaith deintyddol o 4,230%.
- Erbyn diwedd Awst 2021, roedd 83% o oedolion yng Nghymru wedi derbyn y ddau ddos o’r brechlyn COVID-19, ac roedd 90% wedi derbyn eu dos cyntaf.
- Efallai nad oedd cyflwyniad y brechlyn wedi cyrraedd pawb yn gyfartal, gyda rhai grwpiau yn cael anawsterau mynediad penodol fel rhieni sengl, ceiswyr lloches, ffoaduriaid, pobl ddigartref a lleiafrifoedd ethnig.
- Mewn ymateb i’r pandemig, ehangodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriadau fideo meddygol rhithiol i 11,000 o ymgynghoriadau Meddyg Teulu a bron i 62,000 o apwyntiadau gofal eilaidd a chymunedol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae mwy nag un ym mhob 10 o bobl wedi eu heithrio’n ddigidol a heb fynediad ‘r rhyngrwyd, a allai effeithio ar fynediad i ofal iechyd.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 30/09/2021