Canlyniadau iechyd a phrofiadau yn y system gofal iechyd – camau gweithredu’r Llywodraeth
- Ym mis Awst 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Strategaeth Iechyd Menywod Lloegr, gan fanylu ynghylch bwriadau am welliannau i iechyd menywod a merched dros y 10 mlynedd nesaf.
- Ym mis Mehefin 2022, sefydlwyd Ymchwiliad COVID-19 annibynnol y DU. Mae ei gylch gorchwyl yn nodi y bydd yn archwilio, ystyried ac adrodd ar y paratoadau ar gyfer, a’r ymateb i’r, pandemig coronafeirws (COVID-19) yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
- Ym mis Ebrill 2022, derbyniodd y Ddeddf Iechyd a Gofal, sy’n canolbwyntio ar integreiddio gofal iechyd a chymdeithasol, Gydsyniad Brenhinol. Ymysg newidiadau eraill, mae hyn yn sefydlu’r Corff Ymchwilio i Ddiogelwch Gwasanaethau Iechyd fel corff cyhoeddus cwbl annibynnol er mwyn gyrru newidiadau systematig i ddiogelwch cleifion yn Lloegr.
- Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei ymateb i’r Comisiwn ar Wahaniaethau Hil ac Ethnig (CRED), gan ymrwymo i fynd i’r afael â’r effaith anghymesur a gafodd pandemig COVID-19 ar grwpiau lleiafrifoedd ethnig.
- Ym mis Chwefror 2022, fe sefydlodd Llywodraeth y DU y Tasglu Gwahaniaethau Mamolaeth er mwyn archwilio anghydraddoldebau mewn gofal mamolaeth ac adnabod sut gall Llywodraeth y DU wella canlyniadau i fenywod o grwpiau lleiafrifoedd ethnig.
- Ym mis Hydref 2021, fe lansiodd Llywodraeth y DU y Swyddfa Gwelliannau a Gwahaniaethau Iechyd, sy’n canolbwyntio ar wella canlyniadau iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn Lloegr.
- Ym mis Mawrth 2021, amlinellodd Llywodraeth y DU wybodaeth ynglŷn â chenhadaeth Asiantaeth Diogelwch Iechyd newydd y DU, a gymerodd le Public Health England.
- Ym mis Mawrth 2020, derbyniodd Deddf Cynllun Cyllido Hirdymor y GIG Gydsyniad Brenhinol, gan gorffori’n gyfreithiol £33.9 biliwn bob blwyddyn i’r GIG yn Lloegr erbyn 2024. Dilynodd hyn y cyhoeddiad yn 2018 am setliad cyllido pum mlynedd.
- Ym mis Mawrth 2019, fe apwyntiodd Llywodraeth y DU Gynghorydd Iechyd LGBT Cenedlaethol i arwain ar wella’r gofal mae pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LGBT) yn ei dderbyn pan yn cael mynediad i wasanaethau iechyd.
- Ym mis Ionawr 2019, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Gynllun Tymor Hir y GIG, sy’n ymrwymo i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a gwella canlyniadau iechyd ar draws ystod o flaenoriaethau clinigol.
Mae gofal iechyd wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru.
- Ym mis Ebrill 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei raglen ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros yng Nghymru.
- Ym mis Mawrth 2021, amlinellodd Llywodraeth Cymru ei flaenoriaethau a’i ymdriniaeth ar gyfer y cyfnod adfer o’r pandemig yn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru – COVID-19: Edrych tua’r dyfodol.
- Ym mis Mehefin 2020, derbyniodd Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 Gydsyniad Brenhinol. Ymysg newidiadau eraill, mae’r Ddeddf yn sefydlu Corff Llais y Dinesydd newydd a fydd yn cynrychioli safbwyntiau pobl Cymru ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dod â’r Ddeddf gyfan i rym yng ngwanwyn 2023.
- Ym mis Gorffennaf 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru weledigaeth pum mlynedd ar gyfer gofal mamolaeth yng Nghymru.
- Ym mis Mawrth 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £10 miliwn er mwyn gwella canlyniadau iechyd.
- Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nifer o gynlluniau sy’n cynnwys mesurau i leihau anghydraddoldebau iechyd i wahanol grwpiau, gan gynnwys y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (2022),Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr (2018), y Cynllun Cyflenwi a Gweithredu ar gyfer Anabledd Dysgu (2022), a’r Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches (2019).
- Yn 2018, fe ymrwymodd Llywodraeth Cymru i fuddsoddi £192 pellach yn 2019/20 er mwyn gweithredu’r cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
- Yn 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Cymru Iachach, strategaeth 10 mlynedd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar integreiddio, atal, mynediad i wasanaethau iechyd yn y gymuned a mesur canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022