Cyfiawnder ieuenctid – camau gweithredu’r Llywodraeth
Camau gweithredu Llywodraeth y DU:
- Ym mis Gorffennaf 2022, cyhoeddodd Swyddfa’r Cabinet ei Adroddiad Blynyddol ar Brif Brosiectau 2021/22. Dynododd statws Oren i raglen ddiwygio cyfiawnder ieuenctid Llywodraeth y DU, gan olygu bod cyflawni’r prosiect yn llwyddiannus yn ‘bosibl’ er bod ‘materion sylweddol yn parhau i fodoli’.
- Ym mis Ebrill 2022, derbyniodd Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dyfarnu a’r Llysoedd 2022 Gydsyniad Brenhinol. Mae’r Ddeddf yn effeithio ar nifer o agweddau o gyfraith droseddol sy’n berthnasol i blant, gan gynnwys dedfrydu, remánd, cofnodion troseddol ac ysgolion diogel.
- Ym mis Ebrill 2022, derbyniodd y Ddeddf Adolygiad Barnwrol a’r Llysoedd 2022 Gydsyniad Brenhinol. Mae’r ddeddf yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn bosibl i blant bledio’n euog i droseddau ar-lein neu’n ysgrifenedig, heb ymddangosiad llys, ac i benderfyniadau gael eu gwneud yn absenoldeb y ddiffynnydd sy’n blentyn.
- Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Inclusive Britain, ei ymateb i’r Comisiwn ar Wahaniaethau Hil ac Ethnig. Mae’r adroddiad yn cynnwys ymrwymiad i fynd i’r afael â gwahaniaethu ethnig wrth droseddoli pobl ifanc.
- Ym mis Ionawr 2021, fe eithriodd Llywodraeth y DU blant o reoliadau newydd sy’n ymestyn yr amser y gall person gael ei gadw yn y ddalfa cyn sefyll ei brawf yn llys y goron.
- Ym mis Tachwedd 2020, mewn ymateb i ddyfarniad y Goruchaf Lys, fe gyflwynodd Llywodraeth y DU ddarnau o ddeddfwriaeth er mwyn diwygio’r system gofnodion troseddol trwy newid y rheolau sy’n llywodraethu datgeliad ar gyfer rolau sensitif. Mae’r diwygiad yn atal y gofyniad am hunan-ddatgeliad a datgeliadau awtomatig ar gyfer rhybuddiadau, ceryddon a rhybuddion ieuenctid.
- Ym mis Mehefin 2020, fe dderbyniodd Llywodraeth y DU yn rhannol neu yn llawn nifer o argymhellion gan adolygiad annibynnol o’r defnydd o dechnegau achosi poen mewn sefydliadau diogel i ieuenctid, gan gynnwys diwygio’r rhaglen hyfforddi ar gyfer rheoli ataliaeth er mwyn cael gwared ar dechnegau sy’n achosi poen.
- Ym mis Ebrill 2020, fe gyflwynodd Llywodraeth y DU ddeddfwriaeth er mwyn caniatáu troseddwyr penodol, gan gynnwys plant, i gael eu rhyddhau dros dro o’r carchar yng ngoleuni’r pandemig coronafeirws (COVID-19).
- Ym mis Chwefror 2020, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU ddiweddariad ar ei gynnydd wrth fynd i’r afael â gwahaniaethau ar sail hil yn y system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys cyflwyno argymhellion adolygiad annibynnol o hil yn y system cyfiawnder troseddol. Fe ddarparodd hyn ddiweddariad ar ystod o faterion, gan gynnwys cyfiawnder ieuenctid.
- Ym mis Chwefror 2020, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai Sefydliad Troseddwyr Ifanc Feltham yn derbyn cefnogaeth wedi’i deilwra trwy’r Rhaglen Cefnogi Perfformiad Carchardai a fyddai’n darparu staff ychwanegol, hyfforddiant ar safonau uwch a mesurau diogelwch llymach. Ym mis Gorffennaf 2019, fe osododd Llywodraeth y DU waharddiad dros dro ar gadw carcharorion newydd yn Feltham yn dilyn dirywiad sydyn mewn amodau. Cafodd y gwaharddiad hwn ei godi ym mis Hydref 2019.
- Ym mis Hydref 2019, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Adolygiad Diogelu Gwasanaeth Ieuenctid yn y Ddalfa, a wnaeth gyfres o argymhellion ar gyfer gwella’r system, megis datblygu fframweithiau diogelu sydd wedi eu harwain gan anghenion ac sy’n canolbwyntio ar y plentyn.
- Yn 2017, fe grëodd Llywodraeth y DU y Gwasanaeth Ieuenctid yn y Ddalfa, sy’n gyfrifol am gynnal sefydliadau diogel i ieuenctid ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 10 ac 17 oed yng Nghymru a Lloegr. Yn 2019 cyhoeddwyd cyfres o ddiwygiadau perthnasol, gan gynnwys rhoi cynlluniau cefnogaeth yn y ddalfa ar waith er mwyn darparu swyddog dynodedig i bob person ifanc i fonitro’u cynnydd.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022