Casglu a chofnodi data – asesiad Llywodraeth Cymru
Dim cynnydd
Ni chafwyd unrhyw newidiadau cyfreithiol na pholisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol o ran y mater hwn, a thystiolaeth gyfyngedig iawn sydd o’r cynnydd o ran mwynhad o'r hawliau hyn.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ac yn dadansoddi rhywfaint o ddata yn ôl nodweddion gwarchodedig, ond mae cryn fylchau yn y data o hyd. Yn gyffredinol, mae bylchau yn y data a data cyfyngedig wedi’u dadgyfuno yn ei gwneud yn anodd asesu effaith polisïau Llywodraeth Cymru, neu’r ffordd y mae polisïau wedi effeithio ar grwpiau penodol. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhai camau i ddechrau mynd i’r afael â bylchau yn y data a nodwyd gan gyrff cytuniad y Cenhedloedd Unedig. Mae ymrwymiadau i gyflwyno uned data cydraddoldeb ac uned gwahaniaethau ar sail hil yn galonogol, a dylai gwaith i fonitro ac asesu’r broses o weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 barhau i wella data wedi’u dadgyfuno mewn perthynas ag amrywiaeth o faterion.
- Yn ei hadroddiad Llesiant Cymru blynyddol, mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ei chynnydd tuag at gyflawni saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r adroddiadau llesiant blynyddol hyn yn ystyried cynnydd yn erbyn 46 o ddangosyddion cenedlaethol ac yn dadansoddi data yn ôl saith nodwedd warchodedig ynghyd ag anfantais economaidd-gymdeithasol. Ni chaiff ailbennu rhywedd na beichiogrwydd a mamolaeth eu cynnwys.
- Amcangyfrifodd ffigurau rhwng 2017 a 2019 nifer y bobl â nodweddion gwarchodedig gwahanol sy’n byw mewn ardaloedd o fewn pob grŵp ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru – dull o fesur amddifadedd yn ôl ardaloedd lleol bach ledled Cymru.
- Yn 2018, gwnaethom nodi bod diffyg data mewn meysydd polisi penodol yng Nghymru mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, a beichiogrwydd a mamolaeth, gan arwain at dystiolaeth gyfyngedig o’r ffordd y mae polisïau Llywodraeth Cymru wedi effeithio ar y grwpiau penodol hyn.
- Rydym wedi nodi bod diffyg data mewn meysydd polisi penodol yng Nghymru. Er enghraifft:
- Nid oes unrhyw ddata cyhoeddus ar gael ar hyn o bryd ynghylch triniaeth annheg, bwlio ac aflonyddu mewn gweithleoedd.
- Mae diffyg data wedi’u dadgyfuno ar ganlyniadau iechyd ac nid oes tystiolaeth ddiweddar mewn perthynas â chanlyniadau iechyd pobl drawsryweddol, mudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
- Ni chaiff data eu casglu’n rheolaidd ar gyfran yr Aelodau o Senedd Cymru sy’n anabl, o leiafrifoedd ethnig, neu sy’n lesbiaidd, yn hoyw, yn ddeurywiol neu’n drawsryweddol.
- Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i ddechrau mynd i’r afael â rhai bylchau yn y data a nodwyd gan gyrff cytuniad y Cenhedloedd Unedig, ond nid pob un ohonynt.
- Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud rhywfaint o waith i fynd i’r afael â bylchau yn y data mewn perthynas â thrais rhywiol a thrais ar sail rhywedd cynigion i wella prosesau casglu data a gwerthuso gwasanaethau cyflawnwyr.
- Yn 2016–17, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i dreialu protocol rhannu data ar draws y system cyfiawnder troseddol er mwyn cefnogi gwaith gyda chyflawnwyr troseddau casineb penodol; ond nid oes tystiolaeth o gynnydd y cynllun peilot hwn na gwerthusiad ohono.
- Er gwaethaf ymrwymiadau yn 2017, nid yw Llywodraeth Cymru wedi sefydlu system i gasglu a chofnodi data eto er mwyn darparu gwybodaeth well am bobl ifanc dan oed ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches yng Nghymru.
- Yn dilyn beirniadaeth gan Fwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru, mae data ar atgyfeiriadau ac amseroedd aros bellach yn cael eu casglu a’u cyhoeddi ar gyfer gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol a gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed (CAMHS) arbenigol.