Casglu a chofnodi data – asesiad Llywodraeth y DU
Elfen o gynnydd
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol ac mae tystiolaeth o gynnydd cynaliadwy cymedrol o ran mwynhau hawliau dynol yn gysylltiedig i'r mater hwn. Fodd bynnag, ar rai o’r hawliau hyn, neu i rai grwpiau, ni chafwyd cynnydd cymharol.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno mesurau amrywiol i wella’r ffordd y cesglir data cydraddoldeb, gyda chamau penodol i wella data ynghylch ethnigrwydd ac anabledd. Mae diffyg data cadarn wedi’u dadgyfuno yn ôl beichiogrwydd a mamolaeth, ailbennu rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol o hyd, er y bydd cynnwys cwestiynau am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd yng Nghyfrifiad 2021 yn gwella’r sylfaen dystiolaeth. Gwnaed cynnydd o ran mynd i’r afael â llawer o fylchau data a nodwyd gan gyrff cytuniad y Cenhedloedd Unedig, ond mae angen gwneud mwy o waith i wella ansawdd data a mynd i’r afael â bylchau mewn rhai meysydd, megis casglu data ar ataliaeth mewn ysgolion.
- Mae casglu data wedi’u dadgyfuno yn bwysig er mwyn sicrhau y gall pobl fwynhau eu holl hawliau, gan gynnwys yr hawliau i gydraddoldeb a dim gwahaniaethu. Cymerwyd rhai camau cadarnhaol i wella’r ffordd y cesglir data cydraddoldeb, gan gynnwys drwy’r archwiliad data cydraddoldeb a gynhaliwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Datblygwyd yr ymrwymiad i wella cynwysoldeb data yng nghynllun strategol Awdurdod Ystadegol y DU drwy sefydlu’r Tasglu Data Cynhwysol.
- Cymerwyd camau i wella’r ffordd y cesglir data ar gyfer rhai nodweddion gwarchodedig hefyd: er enghraifft, bwriedir i’r safon wedi’i chysoni ar gyfer data ar hunaniaeth rhywedd wella’r ffordd y cesglir data cymaradwy a data wedi’u dadgyfuno ar hunaniaeth rhywedd.
- Mae’r wefan Ffeithiau a Ffigurau Ethnigrwydd a ddatblygwyd gan yr Uned Gwahaniaethau ar sail Hil wedi gwella’r gwaith o gasglu data ar ethnigrwydd. Mae pandemig coronafeirws (COVID-19) hefyd wedi ysgogi camau gweithredu pellach i wella ansawdd data ar ethnigrwydd a phrosesau dadansoddi, a’r defnydd o gategorïau ethnigrwydd cyson ym mhob rhan o Lywodraeth y DU.
- Ers 2019, mae SYG wedi cyhoeddi amrywiaeth o setiau data, wedi’u dadgyfuno yn ôl math o nam, er mwyn gwella’r ffordd y cesglir data ar anabledd ledled y DU.
- Ceisiodd Cyfrifiad 2021 gasglu data am wyth o’r naw nodwedd warchodedig yn y Ddeddf Cydraddoldeb, ynghyd â ffactorau economaidd-gymdeithasol eraill ac amrywiadau daearyddol. Am y tro cyntaf, casglodd y cyfrifiad ddata mewn perthynas â chyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd.
- Mae’r diffyg data cadarn cyhoeddedig wedi’u dadgyfuno yn ôl beichiogrwydd a mamolaeth, ailbennu rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol mewn ffynonellau data cenedlaethol ledled Cymru a Lloegr yn cynrychioli rhwystr amlwg i ddadansoddi profiadau hawliau dynol y grwpiau hyn.
- Er bod pryderon o hyd mewn rhai meysydd, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud cynnydd o ran mynd i’r afael â nifer o fylchau data a nodwyd gan gyrff cytuniad y Cenhedloedd Unedig. Er enghraifft:
- Yn 2017, cyhoeddodd NHS Digital yr arolwg cyffredinrwydd cenedlaethol cyntaf mewn perthynas ag iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn Lloegr ers 2004.
- Mae SYG yn ymgymryd ag arolwg dichonoldeb i benderfynu a allai arolwg cenedlaethol ar raddfa a natur camdriniaeth plant gynnig ffynhonnell ddata well.
- Ers mis Ebrill 2017, mae data ar y defnydd o ynnau Taser wedi cael eu cynnwys yn yr ystadegau ar ddefnydd yr heddlu o rym yng Nghymru a Lloegr, ac maent wedi’u dadgyfuno yn ôl oedran.
- Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r Swyddfa Gartref yn casglu ac yn cyhoeddi data ar nifer y cwynion, yr ymchwiliadau, yr erlyniadau, yr euogfarnau a’r dedfrydau mewn achosion o drais ar sail rhywedd, gan gynnwys treisio, ymosodiadau rhywiol a cham-drin domestig.
- Er gwaethaf argymhellion gan gyrff cytuniad y Cenhedloedd Unedig, ni chaiff data eu casglu na’u cyhoeddi am gyffuriau seicotropig a ragnodir i blant ac nid oes data safonol am y defnydd o ataliaeth mewn ysgolion yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd.