Casgliadau i gloi ICESCR 2025, paragraff 47

UN recommendation

Argymhelliad Cymreig clir

Dylai’r Llywodraeth:
(a) Gwneud popeth posibl i sicrhau bod tai fforddiadwy a thai cymdeithasol ar gael drwy symleiddio rheoliadau cynllunio, blaenoriaethu cyllid ar gyfer gwaith adeiladu newydd a gwella tai o ansawdd gwael. Dylai’r mesurau hyn sicrhau bod y math hwn o dai ar gael i grwpiau difreintiedig, yn enwedig pobl anabl, pobl hŷn, mewnfudwyr, lleiafrifoedd ethnig ac aelwydydd incwm isel a chanolig, gan ganolbwyntio ar famau sengl;
(b) Adolygu cyfraddau treth eiddo er mwyn cynyddu nifer y tai sy’n cael eu gwerthu neu eu defnyddio ar gyfer rhentu tymor hwy. Ystyried effeithiau economaidd a chymdeithasol ymddiriedolaethau buddsoddi mewn eiddo tirol nad yw eu helw a’u henillion cyfalaf wedi’u cynnwys mewn trethi;
(c) Sicrhau’r amddiffyniadau gorau posibl i denantiaid, gan gynnwys drwy newid adran 21 Deddf Tai 1988. Sicrhau bod troi allan, pan nad oes modd osgoi hynny, yn dilyn proses briodol, yn cynnwys ymgynghori â phobl yr effeithir arnynt, ystyried opsiynau eraill, caniatáu ar gyfer apêl ac arwain at iawndal priodol neu opsiynau tai eraill;
(d) Mynd i’r afael ag achosion sylfaenol digartrefedd drwy sicrhau bod gan awdurdodau lleol yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i fynd i’r afael â digartrefedd. Blaenoriaethu atebion hirdymor sy’n cyflawni amrywiaeth o hawliau eraill yn y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR). Sicrhau amodau byw diogel a digonol mewn llety dros dro. Dylid gwneud hyn drwy reoliadau newydd a thrwy beidio â chosbi pobl sy’n cysgu allan;
(e) Sicrhau bod digon o dai ar gael i bobl ag anableddau deallusol, a chaniatáu i’r rheini mewn unedau cleifion mewnol adael er mwyn osgoi cyfnodau hirach mewn lleoliadau sefydliadol;
(f) Sicrhau llety a safleoedd aros digonol sy’n briodol yn ddiwylliannol ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Dylai hyn gynnwys mynediad at ddŵr, glanweithdra a thrydan ar y cyd ag awdurdodau lleol. Dylai’r Llywodraeth adolygu a dileu cyfreithiau neu bolisïau sy’n tanseilio eu ffyrdd traddodiadol o fyw. Er enghraifft, adran 83 Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022, sy’n troseddoli gwersylloedd diawdurdod yng Nghymru a Lloegr, a Gorchymyn Gwersylla Diawdurdod (Gogledd Iwerddon) 2005;
(g) Sicrhau amodau byw diogel, iach a digonol i fudwyr a cheiswyr lloches mewn llety dros dro a thymor hwy. Ni ddylid defnyddio llety mewn gwesty ar gyfer plant sydd ar eu pennau eu hunain. Dylai’r Llywodraeth hefyd wella mecanweithiau goruchwylio a gorfodi i atal landlordiaid rhag camfanteisio a gwahaniaethu, gan gynnwys ar gyfer ffoaduriaid;
(h) Gwneud mwy i atal a rhoi terfyn ar fygwth gan grwpiau parafilwyr yn erbyn lleiafrifoedd ethnig a mewnfudwyr yng Ngogledd Iwerddon i sicrhau bod ganddynt dai digonol ac i atal eu gwahanu. Dylid casglu data ar weithredoedd sy’n arwain at wahanu, a dylid ymchwilio i’r gweithredoedd hyn yn gyflym ac yn briodol.


Original UN recommendation

Recalling its previous recommendation, the Committee urges the State Party, along with the devolved governments of Northern Ireland, Scotland and Wales:
(a) To take all measures necessary to ensure the availability of affordable and social housing units by streamlining planning regulations, prioritizing funding for new construction, rehabilitating substandard housing and ensuring accessibility for disadvantaged groups, in particular persons with disabilities, older persons, migrants, ethnic minorities and low- and middle-income households, with a focus on single mothers;
(b) To review property tax rates with a view to increasing the supply of housing units for sale or long-term rental and carry out an assessment of the economic and social impacts of the complete exemption from tax on profits and capital gains by real estate investment trusts;
(c) To ensure the greatest possible security of tenure to tenants, including by amending section 21 of the Housing Act 1988, and guarantee that evictions, when unavoidable, comply with due process, involve consultation with the affected persons, consider alternatives, allow for appeal and result in adequate compensation or adequate alternative housing;
(d) To address the root causes of homelessness by ensuring adequate resources for local authorities, prioritizing long-term solutions that enable the exercise of other Covenant rights, guaranteeing safe and adequate living conditions in temporary accommodation, including through a comprehensive regulatory framework, and ending the punitive approach towards rough sleeping;
(e) To ensure access to adequate housing for individuals with intellectual disabilities, enabling those residing in inpatient units to be discharged and preventing their institutionalization;
(f) To ensure adequate, culturally appropriate accommodation and stopping sites for Gypsy, Roma and Traveller communities, including access to water, sanitation and electricity, in coordination with local authorities and review and repeal laws or policies that undermine their traditional ways of life, such as section 83 of the Police, Crime, Sentencing and Courts Act 2022, which criminalizes unauthorized encampments in England and Wales, and the Unauthorized Encampments (Northern Ireland) Order 2005;
(g) To ensure safe, healthy and adequate living conditions for migrants and asylum-seekers in temporary and dispersed accommodation, including, in particular, by ending the use of hotel accommodation for unaccompanied children and by improving oversight and enforcement mechanisms to prevent exploitation and discrimination by landlords in access to housing, including for refugees;
(h) To strengthen measures to prevent and combat intimidation by paramilitary groups against ethnic minorities and migrants in Northern Ireland in order to ensure their access to adequate housing and to prevent de facto segregation, to collect data on such acts and to ensure that they are promptly and effectively investigated.

Date of UN examination

12/03/2025

Diweddarwyd ddiwethaf ar 19/08/2025