Casglu a chofnodi data – Gweithredu’r llywodraeth
Camau gweithredu Llywodraeth y DU
- Ym mis Mawrth 2021, cynhaliwyd y cyfrifiad ar gyfer Cymru a Lloegr gan ddilyn dull ‘digidol yn gyntaf’. Roedd y cyfrifiad yn cynnwys cwestiynau gwirfoddol am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd am y tro cyntaf, a chwestiwn estynedig am ethnigrwydd.
- Ym mis Hydref 2020, sefydlwyd y Tasglu Data Cynhwysol i wella’r ffordd y cesglir data cynhwysol ledled y DU. Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021, cynhaliodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ymgynghoriad ar wella cynwysoldeb tirwedd data’r DU.
- Ym mis Gorffennaf 2020, cyhoeddodd Awdurdod Ystadegau’r DU strategaeth pum mlynedd newydd sy’n cynnwys nod strategol i wella cynwysoldeb data, ystadegau a phrosesau dadansoddi.
- Ym mis Rhagfyr 2019, dechreuodd SYG gyhoeddi dadansoddiad o ystadegau ar gyfer pobl anabl mewn perthynas â phynciau amrywiol.
- Ym mis Ebrill 2019, lansiwyd Rhwydwaith Hyrwyddwyr Cysondeb Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth i ehangu cyrhaeddiad safonau cysondeb a gwneud dulliau casglu data yn fwy cymaradwy. Yn 2019 a 2020, cyhoeddwyd safonau neu ganllawiau ar y canlynol: ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, rhyw a rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hunaniaeth rhywedd, crefydd, oedran a statws priodasol neu bartneriaeth.
- Ym mis Hydref 2017, lansiodd yr Uned Gwahaniaethau ar sail Hil wefan i gasglu data Llywodraeth y DU ar ethnigrwydd mewn perthynas ag amrywiaeth o bynciau. Ym mis Gorffennaf 2020, sefydlwyd y Comisiwn ar Wahaniaethau Hil ac Ethnig, gyda’r nod o wella’r sylfaen dystiolaeth ar anghydraddoldebau hiliol.
- Ym mis Ebrill 2017, cafodd Deddf yr Economi Ddigidol 2017 gydsyniad brenhinol. Cyflwynodd fframwaith ar gyfer rhannu data personol ar draws rhannau penodol o’r sector cyhoeddus.
- Sefydlwyd y Ganolfan Cydraddoldebau a Chynhwysiant gan SYG yn 2017 i wella’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer deall tegwch ledled y DU.
- Ym mis Hydref 2018, cyhoeddodd SYG archwiliad ar gyfer y DU gyfan o ddata ar y naw nodwedd warchodedig a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Cyhoeddwyd diweddariadau pellach yn 2019 a 2021.
Camau gweithredu Llywodraeth Cymru Mae’r gwaith o gasglu a chofnodi data wedi’i ddatganoli’n rhannol, ac mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gasglu data ar rai materion datganoledig, megis iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.
- Ym mis Mehefin 2021, cafodd ymrwymiad i greu Uned Gwahaniaethau ar sail Hil ac Uned Data Cydraddoldeb ei gynnwys yn Rhaglen Lywodraethu Cymru ar gyfer 2021–2026.
- Ym mis Mawrth 2021, gwnaeth Llywodraeth Cymru ail-ategu ei hymrwymiad i ddatblygu strategaeth ddata genedlaethol ar gyfer gofal cymdeithasol i Gymru.
- Ym mis Rhagfyr 2020, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar ei Chynllun Hawliau Plant, gan gynnwys cynigion i ddatblygu strategaeth tystiolaeth hawliau plant i nodi bylchau mewn data a mynd i’r afael â nhw.
- Ym mis Mehefin 2020, datganodd Llywodraeth Cymru y byddai’n ailflaenoriaethu’r ffordd y câi data eu cyhoeddi yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19), ac yn gohirio’r rhan fwyaf o’r gwaith o gasglu data gan gyrff cyhoeddus yn 2020 a 2021 er mwyn canolbwyntio ar ddatblygu a chyhoeddi allbynnau ystadegol newydd i hysbysu’r cyhoedd yn ystod y pandemig.
- Ym mis Medi 2019, lansiodd Llywodraeth Cymru ei llwyfan data agored newydd, gyda dolenni i ddata cydraddoldeb gan gyrff cyhoeddus mewn fformat data agored. Bu Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyrff cyhoeddus yn flaenorol drwy rannu canllawiau ar gyhoeddi tablau data agored.
- Yn 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fframwaith strategol ar gyfer arolygon Llywodraeth Cymru, gan amlinellu’r ffaith bod angen i ddata o arolygon fod yn addas at y diben.
- Ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Data Agored, gan ymrwymo i ehangu mynediad at ei data er mwyn gwella tryloywder ac atebolrwydd ac ysgogi arloesedd.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 12/07/2021