Addysg, hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth mewn perthynas â hawliau dynol – asesiad Llywodraeth y DU
Dim cynnydd
Ni chafwyd unrhyw newidiadau cyfreithiol na pholisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol o ran y mater hwn, a thystiolaeth gyfyngedig iawn sydd o’r cynnydd o ran mwynhad o'r hawliau hyn.
Er y gall cyflwyno addysg rhyw a pherthnasoedd (RSE) orfodol greu cyfleoedd pellach i ysgolion addysgu plant am hawliau dynol, nid oes angen trefniadau penodol i addysgu am hawliau dynol o fewn y cwricwlwm RSE. Nid oes gan athrawon ddigon o wybodaeth am hawliau dynol ac ni all y rhan fwyaf o blant yn Lloegr gael addysg seiliedig ar hawliau o hyd. Yn ogystal, mae Llywodraeth y DU wedi methu â chodi ymwybyddiaeth o hawliau dynol yn ddigonol na darparu hyfforddiant i swyddogion cyhoeddus.
- Mae’r cwricwlwm addysg perthnasoedd, addysg rhyw a pherthnasoedd ac addysg iechyd newydd yn Lloegr yn cynnwys addysgu am oddefgarwch mewn perthynas â chredoau pobl eraill, stereoteipiau niweidiol, hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol o ran cydraddoldeb, gan gyfeirio at nodweddion gwarchodedig. Fodd bynnag, mae gan athrawon ddisgresiwn o ran sut maent yn rhoi agweddau ar y canllawiau ar waith, gan gynnwys a ydynt am ddefnyddio dull seiliedig ar hawliau. Byddai hyn yn ymwneud ag addysgu plant am hawliau mewn ffordd sy’n eu helpu i hawlio ac arfer eu hawliau. Mae gan athrawon cynradd ddisgresiwn o ran a ydynt am gynnwys deunydd lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol (LHDT) fel rhan o addysg perthnasoedd. Mae’r dull disgresiynol hwn yn golygu, heb hyfforddiant neu gymorth digonol i athrawon, mae perygl y bydd plant yn cwblhau eu hastudiaethau â gwybodaeth gyfyngedig iawn am eu hawliau.
- Mae tystiolaeth yn awgrymu bod lefelau isel o ymwybyddiaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ymhlith athrawon, a bod athrawon yn gyndyn o drafod hawliau dynol oherwydd camsyniadau, gan gynnwys bod pynciau o’r fath yn rhy ddadleuol neu haniaethol. Nid yw Fframwaith Cynnwys Craidd Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yr Adran Addysg, y mae’n rhaid ei ymgorffori ym mhob cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon, yn cynnwys unrhyw gyfeiriadau penodol at gydraddoldeb a hawliau dynol.
- Mae pryderon nad yw’r cwricwlwm yn adlewyrchu hanes a phrofiadau lleiafrifoedd ethnig yn ddigonol. Er bod thema orfodol ar hanes trefedigaethol Prydain mewn Hanes yng Nghyfnod Allweddol 3, mae gan athrawon ddisgresiwn o ran pa bynciau maent yn eu trafod yn y thema hon, a all arwain at gryn amrywiad rhwng ysgolion.
- Mae addysg dinasyddiaeth yn orfodol mewn ysgolion uwchradd a gynhelir yn Lloegr, ond nid mewn ysgolion cynradd nac academïau. Mae’r cwricwlwm yn nodi y dylai addysgu gwmpasu’r hunaniaethau cenedlaethol, rhanbarthol, crefyddol ac ethnig amrywiol yn y DU, a datblygu dealltwriaeth disgyblion o hawliau a chyfrifoldebau dinasyddion. Fodd bynnag, mae Pwyllgor Dinasyddiaeth ac Ymgysylltiad Dinesig Tŷ’r Arglwyddi wedi beirniadu Llywodraeth y DU am ganiatáu i addysg dinasyddiaeth yn Lloegr ddirywio cymaint.
- Er gwaethaf argymhellion gan gyrff cytuniad y Cenhedloedd Unedig y dylai swyddogion cyhoeddus gael hyfforddiant penodol ar gydraddoldeb a hawliau dynol, ni wnaed ymdrechion sylweddol gan Lywodraeth y DU i ddatblygu, annog na darparu hyfforddiant wedi’i dargedu. Er bod rhai cyrff cyhoeddus yn rhoi hyfforddiant i staff ar hawliau dynol, gan gynnwys y Coleg Plismona a’r Comisiwn Ansawdd Gofal, nid oes darpariaeth ganolog gan Lywodraeth y DU.
- Mae ymchwil yn dangos bod canran uchel o’r cyhoedd yn amheus o hawliau dynol, neu fod diffyg gwybodaeth ganddynt yn eu cylch. Yn 2018, nododd Cyd-bwyllgor Senedd y DU ar Hawliau Dynol fod hawliau dynol yn cael eu cam-gyfleu mewn modd negyddol yn y cyfryngau yn rheolaidd, ac anogodd Lywodraeth y DU i wneud mwy i ymgysylltu â’r cyhoedd mewn perthynas â hawliau dynol.
- Mae canlyniadau arolwg o 2018 yn dangos bod 43% o ymatebwyr ym Mhrydain yn gwybod ychydig iawn neu ddim o gwbl am hawliau dynol, a bod 30% o’r farn nad yw cyfreithiau i ddiogelu hawliau dynol yn gwneud unrhyw wahaniaeth i’w bywydau.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 12/07/2021