Addysg, hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth mewn perthynas â hawliau dynol – Gweithredu’r llywodraeth

Camau llywodraeth

Camau gweithredu Llywodraeth y DU

  • Ym mis Hydref 2020, diweddarodd Llywodraeth y DU y safonau i benaethiaid, sy’n gosod disgwyliadau sylfaenol ar gyfer ymarfer ac ymddygiad proffesiynol, gan gynnwys dangos goddefgarwch a pharch at hawliau eraill, gan gydnabod gwahaniaethau a pharchu amrywiaeth ddiwylliannol ym Mhrydain gyfoes.
  • Ym mis Medi 2020, daeth rheoliadau i rym i wneud addysg perthnasoedd yn orfodol i ddisgyblion cynradd, addysg rhyw a pherthnasoedd yn orfodol i ddisgyblion uwchradd ac addysg iechyd yn orfodol ym mhob ysgol, heblaw am ysgolion annibynnol. Mae canllawiau statudol yn nodi y dylai hyn gynnwys pwysigrwydd parchu eraill, stereoteipiau a’r hawliau a’r cyfrifoldebau cyfreithiol o ran cydraddoldeb. Anogir dull ysgol gyfan, lle mae polisïau a diwylliant yr ysgol yn cyd-fynd â’r cwricwlwm, ac mae deunyddiau cymorth a hyfforddiant i ysgolion wedi cael eu datblygu.
  • Ym mis Gorffennaf 2020, o ganlyniad i effaith pandemig coronafeirws (COVID-19), cyhoeddodd Llywodraeth y DU ganllawiau yn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd i ysgolion yn Lloegr ddechrau’n raddol os nad oeddent yn barod i roi’r newidiadau i addysg rhyw a pherthnasoedd ac addysg perthnasoedd ar waith yn llawn o 1 Medi 2020. Roedd disgwyl i bobl ysgol gydymffurfio â’r gofynion newydd erbyn tymor yr haf, 2021.
  • Ym mis Mawrth 2021, argymhellodd y Comisiwn ar Wahaniaethau Hil ac Ethnig y dylai’r Adran Addysg weithio gyda phanel o arbenigwyr annibynnol i lunio adnoddau addysgu o ansawdd uchel er mwyn adrodd straeon niferus a chynnil am y cyfraniadau a wnaed gan grwpiau gwahanol i’r DU.
  • Ym mis Tachwedd 2018, lansiodd Llywodraeth y DU becyn hyfforddiant gwirfoddol ar hawliau plant ar gyfer gweision sifil.
Darllenwch ein hasesiad o gynnydd Llywodraeth y DU ar addysg, hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth mewn perthynas â hawliau dynol.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Er bod polisi addysg wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, mae Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn gyfrifol am agweddau eraill ar godi ymwybyddiaeth o hawliau dynol, megis hyfforddi swyddogion mewn proffesiynau fel y farnwriaeth.

Darllenwch ein hasesiad o gynnydd Llywodraeth Cymru ar addysg, hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth mewn perthynas â hawliau dynol.

Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 12/07/2021