Safon byw a thlodi digonol – Gweithredu gan y llywodraeth
Gweithredu gan Lywodraeth y DU
- Yng Ngorffennaf 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei bapur gwyrdd iechyd ac anabledd i archwilio sut gall y system les fodloni anghenion pobl anabl a’r rhai gyda chyflyrau iechyd yn well.
- Ym Mai 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig benodiad ‘cynghorydd codi’r gwastad’ ac mae’n bwriadu cyhoeddi papur gwyn ar godi’r gwastad yn hwyrach yn y flwyddyn i gyflwyno mentrau i wella cyfleoedd a bywoliaethau ar draws y wlad gyfan.
- Ym Mawrth 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig fesurau dros dro i ddelio a’r pandemig coronafeirws (COVID-19), yn cynnwys:
- y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws, yn galluogi cyflogwyr i hawlio grant i dalu 80% o gyflogau ‘gweithwyr ar ffyrlo’. O Orffennaf 2021 cafodd lefel y grant ei leihau’n fisol nes i’r cynllun ddod i ben ym Medi 2021
- y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig
- cynnydd mewn cyfraddau Credyd Cynhwysol a Chredyd Treth Gwaith, a ddaeth i ben ym Medi 2021 ac Ebrill 2021 yn y drefn honno
- creu ‘cronfa caledi’ £500 miliwn
- darparu cymorth bwyd i’r rhai oedd yn wynebu’r risg clinigol mwyaf o COVID-19
- ymestyn prydau ysgol am ddim i rai plant mewn grwpiau ble nad oes ganddynt fynediad at gronfeydd cyhoeddus.
- Yn Ebrill 2016, cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y Cyflog Byw Cenedlaethol. Mae hyn wedi cynyddu pob blwyddyn ers hynny, a’r gyfradd uchaf (Ebrill 2021) oedd £8.91 yr awr ar gyfer gweithwyr 23 oed neu hŷn.
- Ym Mawrth 2016, gwnaeth y Ddeddf Diwygio Lles a Gwaith 2016 newidiadau arwyddocaol i’r system nawdd cymdeithasol, yn cynnwys:
- lleihau’r cap ar fudd-daliadau o 23% ar gyfer teuluoedd a 26% ar gyfer hawlwyr unigol
- rhewi lefel budd-daliadau nawdd cymdeithasol a chredydau treth penodol rhwng 2016 a 2020
- cyfyngu’r hawl i elfen plentyn Credyd Treth Plant neu Gredyd Cynhwysol i ddau o blant ym mhob aelwyd
- diddymu targedau rhwymol i leihau tlodi plant.
Gweithredoedd Llywodraeth Cymru Mae ymdrechion i leihau tlodi yn ymwneud â materion a gadwyd yn ôl a datganoledig. Er bod nawdd cymdeithasol, nifer o drethi a chyfraith cyflogaeth wedi eu cadw yn ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, mae gan Lywodraeth Cymru gymhwyster dros rai meysydd perthnasol, yn ogystal â chael rhywfaint o bwerau codi trethi a benthyca.
- Ym Mehefin 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘Raglen Lywodraethu 2021 i 2026’, yn sefydlu ei hymrwymiadau i hyrwyddo cyfiawnder economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.
- Ym Mai 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i ddatblygu cynllun incwm sylfaenol cyffredin peilot i gefnogi’r rhai gyda’r angen mwyaf.
- Yn Chwefror 2021, cyflwynodd Llywodraeth Cymru estyniad ar gyfer y cynllun mynediad Grant Datblygu Disgyblion – sy’n helpu’r rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (FSM) i dalu am wisg ysgol, offer a gweithgareddau – i ddwy flynedd ychwanegol yn yr ysgol gynradd a thair yn yr ysgol uwchradd.
- Yng Ngorffennaf 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £1.4 miliwn yn ychwanegol i hybu incwm cartrefi a rheoli dyledion trafferthus.
- Ym Mai 2020, mewn ymateb i’r pandemig, cynyddodd Llywodraeth Cymru ei Chronfa Gymorth Ddewisol, sy’n cefnogi pobl yn wynebu caledi ariannol, o £11 miliwn, ac ymlacio’r meini prawf cymhwyster ar gyfer Taliadau Cymorth Argyfwng. Cyhoeddwyd £10.5 miliwn yn ychwanegol yng Nghyllideb 2021–22.
- Yn Ebrill 2020, mewn ymateb i’r pandemig, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru estyniad yn y ddarpariaeth FSM i gynnwys gwyliau’r ysgol, ac annog awdurdodau lleol i ymestyn y ddarpariaeth i blant o deuluoedd heb fynediad at gronfeydd cyhoeddus. Darparwyd £23 miliwn yn ychwanegol i ymestyn darpariaeth i wyliau’r ysgol yn 2021–22.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 30/09/2021