Addysg, hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth mewn perthynas â hawliau dynol – asesiad Llywodraeth Cymru
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Gwnaed nifer o newidiadau deddfwriaethol a newidiadau polisi i gynyddu addysg ac ymwybyddiaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), gan gynnwys Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a hyfforddiant i swyddogion Llywodraeth Cymru ar hawliau plant. Fodd bynnag, nid yw’r cwricwlwm newydd wedi cael ei roi ar waith eto felly mae’n rhy gynnar i asesu effaith y newidiadau cwricwlaidd yn llawn. Er y gwnaed cynnydd penodol mewn perthynas â hawliau plant, mae diffyg dealltwriaeth o hawliau dynol o hyd ac ni wnaed cynnydd o ran meithrin ymwybyddiaeth ehangach o hawliau dynol.
- Canfu adroddiad o 2018 gan Gomisiynydd Plant Cymru fod y cwricwlwm ysgol cyfredol yn cynnwys rhai elfennau sy’n adlewyrchu egwyddorion a gwerthoedd hawliau dynol, er nad yw cefnogi disgyblion i ddysgu am eu hawliau yn orfodol.
- Bydd y cwricwlwm newydd i Gymru, y disgwylir iddo gael ei roi ar waith yn 2022, yn cynnwys chwe maes dysgu a phrofiad; caiff addysg ar hawliau dynol a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ei hintegreiddio yn y meysydd dysgu a phrofiad hyn. Mae canllawiau ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm yn nodi bod angen i ddisgyblion wybod am eu hawliau, ac y dylid rhoi cyfleoedd iddynt ddatblygu’r nodweddion, yr agweddau, y gwerthoedd a’r ymddygiadau i barchu hawliau eraill.
- O dan y Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn orfodol i bob disgybl ysgol yng Nghymru a bydd yn cynnwys gwybodaeth i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn deall eu hawliau ac yn eu profi, gan gynnwys yr hawl i ddim gwahaniaethu, yr hawl i wybodaeth am iechyd a’r hawl i ddiogelwch rhag cam-drin a chamfanteisio rhywiol.
- Yn 2021, adroddodd Llywodraeth Cymru ar ei chydymffurfiaeth o ran rhoi’r ddyletswydd i roi sylw dyledus i’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn ar waith. Tynnodd yr adroddiad sylw at gamau gweithredu cadarnhaol a gymerwyd i godi ymwybyddiaeth o hawliau plant rhwng 2018 a 2020, gan gynnwys ymgyrch i godi ymwybyddiaeth a gyd-darodd â digwyddiadau i ddathlu 30 mlynedd ers sefydlu CCUHP, a darparu hyfforddiant ar hawliau plant i swyddogion Llywodraeth Cymru mewn ffyrdd amrywiol.
- Dangosodd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017–18 mai dim ond 34% o oedolion oedd wedi clywed am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Roedd y ffigur yn debyg i oedolion oedd â phlant yn yr aelwyd, a’r rhai heb blant yn yr aelwyd.
- Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu amrywiaeth o ganllawiau, gan gynnwys ymgyrchoedd yn y cyfryngau a chyllid ar gyfer sefydliadau arbenigol, i godi ymwybyddiaeth o faterion megis troseddau casineb, trais yn erbyn menywod a merched a chaethwasiaeth.
- Er gwaethaf argymhellion gan gyrff cytuniad y Cenhedloedd Unedig y dylai swyddogion cyhoeddus gael hyfforddiant penodol ar faterion cydraddoldeb a hawliau dynol, ni wnaed ymdrechion sylweddol gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu, annog na darparu hyfforddiant wedi’i dargedu, ac eithrio mewn perthynas â hawliau plant.
- Mae ymchwil yn dangos bod canran uchel o’r cyhoedd yn amheus o hawliau dynol, neu fod diffyg gwybodaeth ganddynt yn eu cylch. Mae canlyniadau arolwg o 2018 yn dangos bod 43% o ymatebwyr ym Mhrydain yn gwybod ychydig iawn neu ddim o gwbl am hawliau dynol, a bod 30% o ymatebwyr o’r farn nad yw cyfreithiau i ddiogelu hawliau dynol yn gwneud unrhyw wahaniaeth i’w bywydau.