Safon byw a thlodi digonol– asesiad Llywodraeth Cymru
Cam yn ôl
Gwelwyd cam cyson neu ddifrifol yn ôl o ran mwynhad hawliau dynol, neu leihad arwyddocaol mewn safonau hawliau dynol neu amddiffyniadau dan y gyfraith neu bolisi
Mae gan Gymru y lefelau uchaf o dlodi yn y Deyrnas Unedig, heb unrhyw welliannau arwyddocaol yn neilliannau pobl yn y blynyddoedd diweddar. Mae’r nifer o bobl sy’n dibynnu ar fanciau bwyd wedi codi, ac mae’r canran o bobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol yn parhau i fod yn uchel. Mae’r pandemig coronafeirws (COVID-19) yn debygol o gynyddu lefelau tlodi ymhellach, er nad yw’r effaith lawn wedi ei deall eto. Er y cafwyd ymdrechion i leihau costau ac ymestyn cefnogaeth ariannol i’r rhai sy’n byw mewn tlodi, nid yw’r achosion gwraidd yn cael sylw mewn modd cynhwysfawr a systematig. Mae’r prif bolisi ac ysgogiadau cyllidol yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
- Rhwng 2017–18 a 2019–20, roedd 23% o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol, (tua 710,000 o bobl) – y gyfradd uchaf o holl genhedloedd y Deyrnas Unedig. Mae plant yn wynebu’r risg mwyaf o fyw mewn tlodi; yn ystod yr un cyfnod, roedd 31% o blant yn byw mewn tlodi incwm cymharol.
- Mae anabledd a bod o grŵp lleiafrif ethnig wedi ei gysylltu â thebygolrwydd uwch o dlodi incwm cymharol.
- Rhwng 2017–18 a 2019–20, roedd 120,000 o oedolion oed gwaith yng Nghymru mewn tlodi cymharol wedi costau tai, er gwaethaf byw mewn aelwydydd ble roedd pob oedolyn yn gweithio. Roedd 71% o blant yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn byw mewn aelwydydd ble roedd o leiaf un person yn gweithio.
- Canfu adroddiad Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol COVID-19 (2020) fod ffactorau sy’n dylanwadu ar ganlyniadau negyddol COVID-19 ar gyfer pobl lleiafrifoedd ethnig yn cynnwys hiliaeth strwythurol a systemig, yn ogystal ag ansicrwydd incwm a chyflogaeth.
- Nid yw effaith economaidd y pandemig wedi taro’n gyfartal ar draws Cymru. Mae mwy nag un o bob pum aelwyd gydag incwm net o lai nag £20,000 wedi gweld cwymp yn eu hincwm ers Ionawr 2021, tra bod tua’r un nifer o aelwydydd gydag incwm net o fwy na £40,000 wedi gweld cynnydd mewn incwm. Mae rhentwyr, rhieni unigol, pobl anabl ac oedolion iau hefyd yn fwy tebygol o fod wedi profi dirywiad mewn safonau byw.
- Roedd yna gynnydd o 69% yn y cyflenwadau bwyd argyfwng a ddarparwyd gan fanciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell ar draws Cymru rhwng 2015-16 a 2020-21.
- Yn Ebrill 2020, roedd cynnydd o 89% yn y nifer o bobl a gefnogwyd gan fanciau bwyd, a chynnydd o 101% yn y nifer o blant a gefnogwyd ganddynt, o gymharu ag Ebrill 2019.
- Cynyddodd y nifer blant oedd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim yng Nghymru o 30% rhwng 2016–17 a 2020–21.
- Roedd tua 16% o’r boblogaeth oedran gwaith yn gweithio mewn sector a gafodd ei gau i lawr oherwydd y pandemig. Rhagwelwyd y byddai hyn yn lleihau enillion oedolion ifanc, nifer o leiafrifoedd ethnig, menywod a’r rhai ar yr incwm isaf.
- Yn 2016, datganodd Llywodraeth Cymru na fyddai’n bodloni ei darged o derfynu tlodi plant yng Nghymru erbyn 2020 ac, o ganlyniad, nid yw Llywodraeth Cymru bellach yn gweithio’n benodol tuag at ddiddymu tlodi plant.
- Er gwaethaf galwadau mynych gan Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Senedd Cymru i ddatblygu strategaeth tlodi croestoriadol, cynhwysfawr, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr argymhelliad ar ddau achlysur.
- Helpodd ymgyrch hawlio budd-daliadau lles Llywodraeth Cymru, a lansiwyd ym Mawrth 2021, bobl i hawlio dros £650,000 mewn incwm budd-daliadau lles.
- Mae strategaeth ‘Rhaglen Lywodraethu 2016 i 2021’ Llywodraeth Cymru, ‘Ffyniant i Bawb’, yn ffocysu ar hyrwyddo ffyniant economaidd, ond datganodd Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol a hawliau dynol yn 2019 ‘nad oes ganddo ffocws strategol … ac nad oes targedau perfformiad na dangosyddion cynnydd clir’.