Safon byw a thlodi digonol – asesiad Llywodraeth y DU
Cam yn ôl
Gwelwyd cam cyson neu ddifrifol yn ôl o ran mwynhad hawliau dynol, neu leihad arwyddocaol mewn safonau hawliau dynol neu amddiffyniadau dan y gyfraith neu bolisi
Er bod cyfraddau tlodi cymharol wedi parhau’n sefydlog ar gyfer oedolion oed gwaith, mae’r nifer o blant yn byw mewn tlodi cymharol a chyfraddau tlodi mewn gwaith wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf. Mae newidiadau i’r system les wedi cael effaith negyddol arwyddocaol ar y bobl dlotaf ac maent wedi effeithio’n anghymesur ar rai gyda nodweddion gwarchodedig penodol. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyflwyno mesurau dros dro arwyddocaol i ddiogelu incwm a swyddi yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19). Mae’r pandemig yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar hawliau economaidd-gymdeithasol, er nad yw’r effaith lawn wedi ei deall eto.
- Mae yna 14.5 miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig mewn tlodi cymharol, a 11.7 miliwn o bobl mewn tlodi llwyr wedi costau tai, yn cynrychioli pumed o’r boblogaeth.
- Cafwyd cynnydd yn y gyfran o bobl mewn tlodi mewn gwaith ers 2012-13. Mae tlodi mewn gwaith ymysg teuluoedd gyda thri neu fwy o blant wedi cyrraedd 42%, yn rhannol oherwydd cost gynyddol tai a gofal plant. Mae mwy na miliwn o blant i weithwyr rheng flaen nawr yn byw mewn tlodi, gyda gwahaniaethau rhanbarthol.
- Mae tlodi yn effeithio’n anghymesur ar rai lleiafrifoedd ethnig, gyda 55% o unigolion Bangladeshaidd a 47% o unigolion Pacistanaidd yn byw mewn tlodi o gymharu â 19% o unigolion gwyn, sydd â’r lefel isaf o gyfraddau tlodi o’r holl grwpiau ethnig.
- Mae tlodi plant cymharol wedi cynyddu ers 2010, ac ar hyn o bryd mae’n 31%.
- Mae effaith newidiadau anflaengar i nawdd cymdeithasol ers 2010 yn dod yn weladwy mewn data tlodi, yn cynnwys effaith y cyfyngiad dau blentyn ar gefnogaeth budd-daliadau ar dlodi plant. Gallai newidiadau o’r fath fod wedi cyfrannu ar 683,000 o blant ychwanegol yn byw mewn tlodi cymharol rhwng 2010–11 a 2019–20.
- Roedd yna gynnydd o 142% yn y nifer o gyflenwadau bwyd argyfwng a ddarparwyd gan fanciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell ar draws Lloegr rhwng 2015-16 a 2020-21.
- Rhwng 2017–18 a 2020–21 cododd y canran o blant oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o 14% i 20%, gan gyrraedd 26% yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr.
- Cafwyd adroddiadau o gynnydd yn y nifer o ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n wynebu tlodi, ac mae pobl ac aelwydydd heb fynediad at gyllid cyhoeddus (NRPF) yn wynebu lefelau uchel o ddigartrefedd ac amddifadrwydd.
- Ym Mai 2020, dyfarnodd yr Uchel Lys, yn achos rhiant i blentyn Prydeinig oedd yn ceisio caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig, bod yr amod mewnfudo NRPF yn groes i’r Ddeddf Hawliau Dynol 1998, sy’n gwahardd triniaeth annynol ac israddol. Yn Ebrill 2021, dyfarnodd yr Uchel Lys bod amod NRPF Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn anghyfreithlon wrth wadu mynediad i fudd-daliadau i blant ymfudwyr.
- Mae’r pandemig wedi effeithio’n anghymesur ar bobl sydd eisoes yn wynebu safonau byw is.
- Gwnaeth y nifer o hawlwyr Credyd Cynhwysol gynyddu o dri miliwn ym Mawrth 2020 i chwe miliwn yn Ebrill 2021 ac mae’r diffyg codiad cyfatebol i ‘fudd-daliadau etifeddiaeth’ (oedd yn bodoli’n flaenorol) ynghyd â’r codiad i Gredyd Cynhwysol a Chredydau Treth Gwaith wedi gadael rhai hawlwyr anabl yn methu talu costau ychwanegol y pandemig.
- Disgwylir i benderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i derfynu’r codiad dros dro mewn Credyd Cynhwysol a Chredyd Treth Gwaith yn 2021 wthio 500,000 o bobl i dlodi, gyda’r aelwydydd tlotaf yn wynebu lleihad o 7% mewn incwm, ac fe allai dramgwyddo ar safonau hawliau dynol rhyngwladol.
- Adroddodd Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Tŷ’r Cyffredin yng Ngorffennaf 2021 bod strategaeth codi’r gwastad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn brin o ddiffiniad ac eglurder.