Casgliadau i gloi ICESCR 2025, paragraff 25

UN recommendation

Argymhelliad Cymreig clir

Dylai’r Llywodraeth:
(a) Sicrhau bod cyfreithiau gwrth-wahaniaethu a chydraddoldeb trylwyr a chyflawn ar waith, yn enwedig yng Ngogledd Iwerddon. Dylai’r gyfraith gydymffurfio ag erthygl 2(2) o’r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR), a dylai gael ei harwain gan gyngor y CU ar ymladd gwahaniaethu mewn hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol;
(b) Gweithredu’r rhannau o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 nad ydynt mewn grym eto, yn enwedig yr adran ar y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried sut mae eu gweithredoedd yn effeithio ar anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol, a’r adran ar wahaniaethu cyfun;
(c) Atal a brwydro yn erbyn gwahaniaethu, hiliaeth, stereoteipiau ac anghydraddoldebau a brofir gan bobl anabl, lleiafrifoedd ethnig (gan gynnwys Sipsiwn, Roma a Theithwyr), pobl o gefndir Affricanaidd neu Asiaidd, aelodau o gymunedau Iddewig, Mwslimaidd a Hindŵaidd, a mewnfudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Dylai hyn gynnwys ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gyhoeddus wedi’u targedu a dulliau gweithredu sy’n helpu i ddarparu cyfleoedd i’r grwpiau hyn yn benodol, mewn meysydd fel gwaith teilwng, nawdd cymdeithasol, tai, gofal iechyd ac addysg. Dylid gwneud hyn er mwyn i bawb allu mwynhau eu hawliau’n llawn o dan y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR) heb wahaniaethu yn eu herbyn.


Original UN recommendation

The Committee recommends that the State Party, along with the devolved governments, the overseas territories and the Crown dependencies:
(a) Ensure the adoption of a comprehensive anti-discrimination and equality law, particularly in Northern Ireland, in accordance with article 2 (2) of the Covenant and guided by the Committee’s general comment No. 20 (2009) on non-discrimination in economic, social, and cultural rights;
(b) Enact the outstanding provisions of the Equality Act 2010, in particular part 1 (1), on the public sector duty regarding socioeconomic inequalities, and section 14, on combined discrimination;
(c) Prevent and combat discrimination, racism, stereotypes and inequalities faced by persons with disabilities, ethnic minorities, including Gypsies, Roma and Travellers, persons of African or Asian descent and members of Jewish, Muslim and Hindu communities, and migrants, refugees and asylum-seekers by implementing targeted awareness-raising campaigns and affirmative action measures in such areas as decent work, social security, adequate housing, healthcare and education to ensure that all persons fully enjoy Covenant rights without discrimination.

Date of UN examination

12/03/2025

Diweddarwyd ddiwethaf ar 21/08/2025