Sefydliadau cyfiawnder troseddol – asesiad Llywodraeth y DU
Cam yn ôl
Gwelwyd cam cyson neu ddifrifol yn ôl o ran mwynhad hawliau dynol, neu leihad arwyddocaol mewn safonau hawliau dynol neu amddiffyniadau dan y gyfraith neu bolisi
Mae amser cyfyngedig tu allan i’r celloedd, gorlenwi, amodau gwael, defnyddio grym, carchariad unigol a hunan-niweidio yn gyffredin mewn carchardai ac, mewn rhai achosion, yn gynyddol gyson. Mae cyfyngiadau a gyflwynwyd yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19) yn parhau i gael effaith negyddol arwyddocaol ar safonau hawliau dynol. Mae cyfraddau carcharu yn uchel, pobl o leiafrifoedd ethnig wedi eu gor-gynrychioli, a gwasanaethau iechyd meddwl yn dal i fod yn annigonol. Bydd cynigion ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd yn cynyddu’r amser a dreulir dan glo yn arwyddocaol, ac mae’n debygol o arwain at boblogaeth fwy yn y carchardai. Cafwyd rhai datblygiadau polisi cadarnhaol, fel diwygiadau i’r gwasanaeth prawf a’r Strategaeth Troseddwyr Benywaidd, er bod gweithrediad y strategaeth yn dal i fod yn araf.
- Yn y flwyddyn i Fawrth 2021, roedd cyfartaledd poblogaeth carchardai Cymru a Lloegr yn 79,043. Yn ôl data o 2020, dyma un o’r cyfraddau carcharu uchaf, fesul 100,000 o drigolion, yn Ewrop.
- Mae cyfyngiadau a gyflwynwyd i reoli’r risgiau o haint COVID-19 wedi gwaethygu problemau cyfredol ac wedi cael effaith negyddol arwyddocaol ar safonau hawliau dynol yn y ddalfa, yn cynnwys cynyddu amser mewn celloedd, atal ymweliadau, gweithgareddau ac addysg gwaethygu iechyd meddwl, a lleihau craffu annibynnol.
- Ym Medi 2020, adroddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus bod 60% o garchardai oedolion yn orlawn. Mae gan nifer o garchardai amodau byw gwael.
- Mae pobl o leiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol na diffynyddion Gwyn o dderbyn dedfryd o garchar, ac wedi eu gor-gynrychioli’n sylweddol yn y carchar.
- Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymroi i weithredu argymhellion o Adolygiad Lammy, ac adroddwyd rhywfaint o gynnydd. Fodd bynnag, mae angen gweithredu arwyddocaol i ddiddymu anghymesuredd hil.
- Gwnaeth Is-Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Atal Artaith neu Driniaeth neu Gosb Greulon, Annynol neu Israddol argymhellion yn 2021 i ddelio, er enghraifft, gyda gor-gynrychiolaeth grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn y system cyfiawnder troseddol.
- Mae nifer arwyddocaol o garcharorion yn treulio dros 22 awr y dydd yn eu celloedd, sy’n cyfateb i garchariad unigol yn groes i safonau hawliau dynol.
- Mae achosion hunan-niweidio yn y ddalfa wedi cynyddu’n arwyddocaol ers 2016.
- Mae’r nifer a gofnodwyd o farwolaethau ymddangosiadol hunanachosedig yn y ddalfa yn dal i fod yn uchel o gymharu gyda gwledydd Ewropeaidd eraill, gyda 79 wedi eu cofnodi yn y flwyddyn hyd at Fedi 2021 yng Nghymru a Lloegr.
- Nododd Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi lefelau uchel o ddefnyddio grym ar garcharorion yn 2019–20. Cynyddodd y defnyddio grym yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2020 mewn mwy na hanner y carchardai gwrywaidd yr ymwelwyd â nhw, ac yn aml roedd llywodraethu yn wan.
- Roedd pryderon gwirioneddol y byddai methiannau cyfredol i nodi a delio ag anghenion iechyd meddwl y rhai yn y carchar wedi eu gwaethygu gan y pandemig. Mae grwpiau dan risg penodol yn cynnwys pobl drawsrywiol, menywod, rhai ar remand, a lleiafrifoedd ethnig, yn arbennig menywod o leiafrifoedd ethnig.
- Gallai’r penderfyniad i gyflwyno chwistrellydd PAVA mewn carchardai caeedig gwrywaidd yng Nghymru a Lloegr heb y mesurau diogelu a gytunwyd, gynyddu’r risg o dramgwyddo ar hawliau dynol y carcharorion.
- Dengys dadansoddiad bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gweithredu llai na hanner yr ymrwymiadau yn y Strategaeth Troseddwyr Benywaidd. Mae ei gyhoeddiad o 500 o lefydd newydd mewn carchardai i fenywod o bosibl yn tanseilio ymroddiad y strategaeth i symud y pwyslais o’r ddalfa i’r gymuned. Yn ogystal, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisoes yn rhagweld cynnydd o 50% yn y boblogaeth carchardai benywaidd erbyn 2026.
- Bydd Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd, os caiff ei basio, yn arwain at gynnydd mewn dedfrydau o garchar a rhai hirach, gan gynnwys ar gyfer troseddau lefel isel. Mae’r cynigion yn debygol o arwain at gynnydd ym mhoblogaeth y carchardai, ar ben rhagolygon twf cyfredol.