Sefydliadau cyfiawnder troseddol – Gweithredu gan y llywodraeth
Gweithredu gan Lywodraeth y DU
- Ym Medi 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig bolisi newydd i gefnogi anghenion menywod amenedigol a mamau mewn carchardai, yn cynnwys cyllid ar gyfer swyddogion cyswllt arbenigol mewn carchardai menywod.
- Ym Mehefin 2021, dychwelwyd gwasanaethau prawf risg isel i ganolig i’r sector cyhoeddus dan y Gwasanaeth Prawf. Yn flaenorol roeddynt wedi eu rheoli gan gwmnïau preifat.
- Ym Mai 2021, cyhoeddodd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM (HMPPS) ‘Cydraddoldeb Hil yn y Gwasanaeth Prawf: Cynllun gweithredu’, a gytunodd i’r mwyafrif o’r argymhellion a wnaed gan Arolygiaeth Prawf EM ar wella profiad defnyddwyr a staff y gwas prawf o leiafrifoedd ethnig. Roedd yn dilyn cynllun gweithredu tebyg ar o Ragfyr 2020, a gytunodd i’r holl argymhellion o adolygiad o brofiadau carcharorion o leiafrifoedd ethnig o adsefydlu a chynllunio rhyddhau.
- Ym Mawrth 2021, cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd, yn dilyn cyhoeddi ei bapur gwyn ‘A Smarter Approach to Sentencing’ ym Medi 2020. Ymysg mesurau eraill, mae’r bil yn cynnwys darpariaethau i gynyddu’r amser mae troseddwyr (yn oedolion a phlant) yn ei dreulio yn y carchar am nifer o droseddau yn arwyddocaol.
- Yn Ionawr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y byddai 500 o lefydd newydd yn cael eu hadeiladu i fenywod mewn carchardai cyfredol, tra hefyd yn ymroi £2 filiwn i gefnogi gwasanaethau cymunedol sy’n gweithio gyda menywod bregus i’w llywio oddi wrth drosedd. Roedd hyn yn dilyn neilltuad cychwynnol o £2.5 miliwn a gyhoeddwyd yn 2020.
- Ym Mehefin 2020, mewn ymateb i’r pandemig, cyflwynwyd y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Cyfundrefnau a Gwasanaethau Carchardai dros bum mlynedd. Rhwng Mehefin 2020 a Gorffennaf 2021 roedd carchardai yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu dan amodau cam pump, neu ‘glo llwyr’.
- Ym Mai 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig weithrediad eithriad chwistrell pupur sy’n analluogi PAVA (i’w ddefnyddio ar gyfer ataliad) i bob carchar caeedig gwrywaidd i oedolion yn ystod pandemig y coronafeirws; roedd hyn cyn i fesurau diogelu a gytunwyd i atal defnydd amhriodol neu anghymesur wedi eu sefydlu. Roedd y mesurau diogelwch wedi eu cytuno yn dilyn her gyfreithiol yn 2019. Mae HMPPS yn gweithio tuag at weithredu’r mesurau diogelu newydd a gwelliannau eraill, yn cynnwys datblygu fframwaith polisi defnyddio grym newydd.
- Yn Ebrill 2020, cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddau gynllun rhyddhau carcharorion yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Roedd un yn caniatáu i droseddwyr risg isel penodol gael eu rhyddhau dros dro cyn eu dyddiadau rhyddhau awtomatig, tra bod y llall yn targedu carcharorion bregus, menywod beichiog a mamau newydd. Mae’r ddau gynllun wedi eu seibio ers hynny.
- Yn Ebrill 2020, darparodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddiweddariad ar weithrediad argymhellion yn Adolygiad annibynnol Lammy o wahaniaeth hiliol yn y system cyfiawnder troseddol. Roedd ymrwymiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynnwys sefydlu Bwrdd Hil ac Ethnigrwydd a chyhoeddi data pellach ar hil ac ethnigrwydd, sy’n waith parhaus.
- Ym Mawrth 2020, cyflawnodd NHS England gwmpas cenedlaethol llawn o wasanaethau cyswllt ac arallgyfeirio yn nalfa’r heddlu. Mae’r gwasanaethau hyn yn nodi pobl gyda chyflyrau iechyd meddwl, anableddau dysgu, camddefnydd o sylweddau neu sy’n fregus mewn ffordd arall pan fyddant yn dod i mewn i’r system cyfiawnder troseddol er mwyn iddynt dderbyn cefnogaeth briodol.
- Yng Ngorffennaf 2019, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ganllaw ar ofal a rheolaeth yn y ddalfa o bobl drawsryweddol.
- Ym Mehefin 2018, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei Strategaeth Troseddwyr Benywaidd, yn cydnabod effaith carcharu menywod ar eu plant a’r cysylltiadau rhwng troseddu benywaidd a phrofiadau o gam-drin a thrawma. Mae’r strategaeth yn ymroi i leihau’r nifer o fenywod sy’n mynd i’r system cyfiawnder troseddol, i gynyddu defnydd o ddedfrydau nad ydynt yn warchodol, ac i wella amodau yn yr ystâd carchardai.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 30/09/2021