Cam-drin hawliau dynol dramor – asesiad Llywodraeth y DU
Cam yn ôl
Gwelwyd cam cyson neu ddifrifol yn ôl o ran mwynhad hawliau dynol, neu leihad arwyddocaol mewn safonau hawliau dynol neu amddiffyniadau dan y gyfraith neu bolisi
Mae Llywodraeth y DU wedi parhau i geisio cyfyngu ar ei hatebolrwydd am ymateb i honiadau o gam-drin hawliau dynol a chyfranogaeth dramor, gan gynnwys trwy gyflwyno bar amser absoliwt ar hawliadau hawliau dynol sy’n gysylltiedig â gweithrediadau tramor, a darpariaethau sydd â’r nod o’i gwneud hi’n anoddach dwyn achos troseddol yn erbyn personél milwrol sydd wedi’u cyhuddo o rai troseddau dramor. Ni fu unrhyw ymchwiliad trosfwaol i gam-drin sifiliaid Irac gan luoedd arfog y DU, er gwaethaf tystiolaeth iddo ddigwydd. Mae tystiolaeth hefyd yn dangos cyfranogaeth personél y DU wrth gam-drin carcharorion tramor.
- Mae pryderon ynghylch Deddf Gweithrediadau Tramor Llywodraeth y DU (Personél Gwasanaeth a Chyn-filwyr), yn benodol ei chyflwyniad o far amser absoliwt ar hawliadau hawliau dynol a hawliadau sifil sy’n gysylltiedig ag anaf personol a marwolaeth, sy’n codi o weithrediadau tramor y DU. Mae pryderon hefyd bod ei ‘ragdybiaeth yn erbyn erlyn’ yn gyfystyr â statud o gyfyngiadau, gan ei gwneud yn anoddach dwyn achos troseddol mewn perthynas â rhai troseddau. Mae’r Ddeddf hefyd yn cyfyngu ar allu personél gwasanaeth Prydain i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn eu cyflogwr.
- Mae Ymchwiliadau Etifeddiaeth Heddlu’r Lluoedd, sy’n ymchwilio i honiadau o gam-drin yn erbyn sifiliaid Irac gan luoedd arfog y DU rhwng 2003 a 2009, wedi cau 1,213 o achosion gyda 74 yn dal i gael eu hystyried. Gwnaed cannoedd o honiadau sifil o gamdriniaeth, gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD) yn talu dros £20 miliwn mewn iawndal i sifiliaid Irac.
- Mae diffyg ymchwiliad trosfwaol i’r honiadau o gam-drin yn Irac yn golygu nad ymchwiliwyd yn annibynnol i broblemau systemig posibl – megis diffygion mewn polisi, hyfforddiant neu oruchwyliaeth.
- Yn 2020, cadarnhaodd y Llys Troseddol Rhyngwladol fod ‘sail resymol i gredu’ bod troseddau rhyfel wedi’u cyflawni gan luoedd Prydain yn Irac, ond caeodd ei archwiliad ar y sail nad oedd Llywodraeth y DU yn ‘anfodlon’ ymchwilio ac erlyn camwedd.
- Honnodd ymchwiliad yn 2019 gan BBC Panorama a’r Sunday Times fod y Weinyddiaeth Amddiffyn ac elfennau o’r Lluoedd Arfog yn cuddio tystiolaeth o droseddau rhyfel, ac na aethpwyd ar drywydd erlyniadau er gwaethaf tystiolaeth gredadwy.
- Yn 2018, canfu Pwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch Senedd y DU ei bod yn ymddangos bod personél y DU naill ai wedi bod yn dyst i gamdriniaeth carcharorion mewn cannoedd o gyfweliadau dan arweiniad yr Unol Daleithiau, neu wedi cael gwybod amdanynt, ond eto wedi parhau i gydweithredu â holwyr.
- Nid yw canllawiau diwygiedig Llywodraeth y DU ar gyfer personél cudd-wybodaeth a’r lluoedd arfog ar gadw a chyfweld carcharorion dramor yn mynd i’r afael â phryderon bod y canllawiau’n cynnwys dim ond ‘rhagdybiaeth’ yn erbyn gweithredu lle mae ‘risg wirioneddol’ o artaith, lladd anghyfreithlon neu herwgipio anghyffredin.
- Yn 2018, rhannodd Llywodraeth y DU wybodaeth â Llywodraeth yr UD am ddau aelod ISIS drwgdybiedig heb gael sicrwydd diplomyddol yn gyntaf na fyddai’r wybodaeth yn cael ei defnyddio i orfodi’r gosb eithaf, yn groes i’r arfer arferol. Dyfarnodd y Goruchaf Lys yn ddiweddarach fod Llywodraeth y DU wedi gweithredu’n anghyfreithlon ar sail diogelu data.
- Rhwng 2018 a 2019, cynyddodd gwerthiannau arfau’r DU i wledydd sydd o bryder mwyaf ynghylch hawliau dynol 390% i £849 miliwn.
- Methodd Llywodraeth y DU â gweithredu yn unol â Barn Ymgynghorol 2019 gan y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol, a Phenderfyniad Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, a oedd yn mynnu bod y DU yn tynnu ei gweinyddiaeth yn ôl o ynysfor Chagos i gwblhau’r broses o ddadwladychu a chaniatáu i’r bobl frodorol ddychwelyd ar ôl eu symud yn orfodol.