Mewnfudo – Gweithredoedd y llywodraeth
Gweithredu gan Lywodraeth y DU
- Yng Ngorffennaf 2021, cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig Fil Cenedligrwydd a Ffiniau gyda’r nod ddatganedig o wneud y system loches a mewnfudo yn fwy teg ac yn fwy effeithiol, gan rwystro mynediad anghyfreithlon a’i gwneud yn haws i gael gwared ar bobl nad oes ganddynt hawl i fod yn y Deyrnas Unedig. Mae’n dilyn ymgynghoriad ar y Cynllun Newydd ar gyfer Mewnfudo rhwng Mawrth a Mai 2021. Cyhoeddwyd asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer y bil ym Medi 2021.
- Cafodd y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE – a sefydlwyd i alluogi gwladolion penodol o’r UE, AEE a’r Swistir ac aelodau eu teulu i sicrhau’r statws mewnfudo gofynnol maent ei angen i barhau i fyw yn y Deyrnas Unedig – ei gau ar gyfer ceisiadau ar 30 Mehefin 2021, gyda rhai eithriadau.
- Diweddarodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei ganllaw statudol ym Mai 2021 i’w gwneud yn ofynnol i swyddogion dalu ‘sylw penodol’ i’r ffactorau risg ar gyfer coronafeirws (COVID-19) wrth asesu os yw rhywun yn ‘oedolyn mewn perygl’ yn y ddalfa. Roedd hyn yn dilyn canllaw yn 2020 ar nodi risgiau yn y ddalfa, gofalu am bobl yn y ddalfa sydd dan risg o COVID-19 ac atal a rheoli COVID-19.
- Ym Mai 2021, cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ganllaw atodol yn dod â dioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern yn gyfan gwbl o fewn cwmpas y polisi ar ‘oedolion mewn perygl’ mewnfudwyr yn y ddalfa.
- Yn Ebrill 2021, daeth y Swyddfa Gartref i gytundeb cyfreithiol gyda ni i ddelio â’i methiant i gydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus wrth ddatblygu, gweithredu a monitro’r agenda polisi ‘amgylchedd gelyniaethus’. Roedd hyn yn dilyn ein hasesiad a gyhoeddwyd yn Nhachwedd 2020.
- Ym Medi 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig gynllun gwelliant cynhwysfawr mewn ymateb i’r adolygiad annibynnol Windrush Lessons Learned.
- Yn Ebrill 2020, ymatebodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r archwiliad blynyddol o ‘oedolion mewn perygl’ yn y ddalfa, gan dderbyn mwyafrif yr argymhellion yn llawn neu’n rhannol, yn cynnwys camau i leihau’r nifer o bobl wedi eu cadw a chryfhau’r ymagwedd tuag at fregusrwydd.
- Ym Medi 2019 ymatebodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cartref ar gadw ymfudwyr ac ymroi i adolygu sut mae pobl dan risg o nifer yn y ddalfa yn cael eu nodi a chynyddu tryloywder mewn adroddiadau ar farwolaethau yn y ddalfa, ymysg camau eraill.
- Ym Mai 2019, adolygodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei arweiniad ar asesiadau oedran i helpu sicrhau nad yw plant mudol yn cael eu cadw fel oedolion.
- Yng Ngorffennaf 2019 ymatebodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ymchwiliad y Cydbwyllgor ar Hawliau Dynol. ar gadw mudwyr, gan dderbyn yn rhannol neu’n llawn saith o’r 17 argymhelliad, yn cynnwys mesurau i atal camdriniaeth.
- Yn Rhagfyr 2018, lansiodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig gynllun peilot i gefnogi menywod ymfudol yn y gymuned a fyddai fel arall yn wynebu perygl o gael eu cadw.
- O 2017, roedd Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) yn gofyn i ysbytai atal gwasanaethau nad ydynt yn rhai brys nes bydd y ffi ar gyfer ymwelwyr tramor (yn amodol i eithriadau), a osodir ar 150% o dariff cenedlaethol y GIG, wedi ei dalu’n llawn.
- Yng Ngorffennaf 2016, cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyfyngiadau ar gadw menywod beichiog.
- Cyflwynodd y Ddeddf Mewnfudo 2016 dramgwydd troseddol ar gyfer landlordiaid sy’n caniatáu yn fwriadol i bobl heb ‘hawl i rentu’ i rentu eu heiddo ac yn dramgwydd troseddol i gyflogwyr sy’n cyflogi pobl yn fwriadol heb fod ganddynt hawl i weithio. Roedd hyn yn adeiladu ar y mesurau yn Neddf Mewnfudo 2014 ac yn ffurfio rhan o gyfres ehangach o bolisïau i gynyddu gwiriadau ar statws mewnfudo i gael mynediad i wasanaethau.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 30/09/2021