Trais yn erbyn menywod a merched – gweithredu gan y llywodraeth
Llywodraeth y DU
- Yng Ngorffennaf 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei ‘Strategaeth taclo trais yn erbyn menywod a merched’ ar gyfer Cymru a Lloegr.
- Yng Ngorffennaf 2021, gwnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ymroi i gyflwyno dyletswydd newydd ar gyflogwyr yn gofyn iddynt gymryd pob cam rhesymol i atal eu gweithwyr rhag profi aflonyddu rhywiol a phob math arall.
- Ym Mehefin 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei adolygiad pen i ben o’r ymateb cyfiawnder troseddol i dreisio a throseddau rhywiol difrifol, gan sefydlu cyfres o weithredoedd i wella’r ymdriniaeth o’r troseddau hyn ar draws Cymru a Lloegr.
- Yn Ebrill 2021, deddfwyd y Ddeddf Cam-drin Domestig 2021. Fe greodd ddiffiniad statudol o gam-drin domestig a chyflwyno swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig.
- Yn Ebrill 2021, lansiodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig gynllun peilot £1.5 miliwn i gefnogi dioddefwyr sy’n ymfudwyr er mwyn darparu cefnogaeth i ymfudwyr sy’n ddioddefwyr cam-drin domestig ble nad oes ganddynt fynediad at gyllid cyhoeddus.
- Ym Mawrth 2021, gwnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ymroi i ymgynghori ar ddarparu gwasanaethau cam-drin domestig yn y gymuned o flaen llaw i gyflwyno’r Ddeddf Dioddefwyr arfaethedig. Yn dilyn yr adolygiad trais pen i ben a gyhoeddwyd ym Mehefin 2021, cafodd yr ymroddiad hwn ei ymestyn i gynnwys gwasanaethau cam-drin rhywiol cymunedol.
- Ym Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd, gan ddarparu nifer o ddarpariaethau perthnasol i drais yn erbyn menywod a merched, fel pŵer cyfreithiol ar gyfer yr heddlu a ‘phersonau awdurdodedig’ eraill i echdynnu tystiolaeth ddigidol o ddyfais electronig rhywun heb eu cytundeb, gan gynnwys dioddefwyr trais.
- Yn Hydref 2020, penododd Llywodraeth y Deyrnas Unedig Gynghorydd Annibynnol ar Atal Trais yn Erbyn Menywod a Merched.
Llywodraeth Cymru Mae trais yn erbyn menywod a merched yn fater sydd wedi ei ddatganoli’n rhannol. Er bod agweddau sy’n gysylltiedig i’r system cyfiawnder troseddol a phlismona wedi eu dal yn ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, mae gan Lywodraeth Cymru bwerau ar faterion trais yn erbyn menywod a merched sy’n gysylltiedig i dai, iechyd ac addysg.
- Ym Medi 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: ymchwil gyda goroeswyr’.
- Ym Medi 2021, cyhoeddodd Uned Atal Trais Iechyd Cyhoeddus Cymru adolygiad o dystiolaeth i nodi ymarfer effeithiol i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV).
- Ym Mehefin 2021, roedd ‘Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026’ Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymroddiad i gryfhau’r strategaeth VAWDASV i gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod yn y stryd, gweithle a’r cartref.
- Yn Nhachwedd 2020, cyhoeddodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ganllaw wedi ei ddiweddaru ar VAWDASV mewn addysg uwch.
- Ym Mehefin 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gronfa £1.5 miliwn i helpu darparwyr gwasanaeth VAWDASV i ymateb i’r pandemig conronafeirws (COVID-19), yn ychwanegol i hwb o £2.4 miliwn yn Rhagfyr 2019.
- Ym Mai 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei ganllaw statudol ar gyfer comisiynu gwasanaethau VAWDASV yng Nghymru i gefnogi comisiynu tystiolaeth yn ymyraethau seiliedig ar dystiolaeth ac integredig gan wasanaethau VAWDASV i fodloni’r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (y Ddeddf VAWDASV).
- Yn 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth genedlaethol ar VAWDASV ar gyfer 2016 i 2021 ac yn hwyrach cyhoeddodd fframwaith cyflawni ar gyfer 2018 i 2021, yn sefydlu sut y byddai’n bodloni ymrwymiadau a wnaed yn y strategaeth.
- Nod y Ddeddf VAWDASV yw gwella ymateb y sector cyhoeddus i’r mater. Cyhoeddwyd y set gyntaf o ddangosyddion cenedlaethol ym Mehefin 2019 i fesur cynnydd yn erbyn y ddeddf.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 30/09/2021