Cam-drin hawliau dynol dramor – Gweithredu’r llywodraeth
Camau gweithredu Llywodraeth y DU
- Ym mis Ebrill 2021, pasiodd Senedd y DUDeddf Gweithrediadau Tramor (Personél Gwasanaeth a Chyn-filwyr), a gyflwynwyd gyntaf gan Lywodraeth y DU ym mis Mawrth 2020, sy’n creu ‘rhagdybiaeth yn erbyn erlyn’ am rai troseddau yr honnir iddynt gael eu cyflawni gan bersonél milwrol y DU wrth wasanaethu ar weithrediadau tramor. Mae’r mesurau troseddol yn y Ddeddf yn berthnasol i droseddau honedig ar weithrediadau tramor yn dilyn cyfnod o bum mlynedd ers y digwyddiadau dan sylw. Mae hyn yn haneru’r cyfnod cyfyngu ar erlyn o’r deng mlynedd a gynigiwyd yn flaenorol. Mae’r Ddeddf hefyd yn gosod gwaharddiad amser absoliwt ar hawliadau sifil am anafiadau personol a marwolaeth a hawliadau hawliau dynol o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 sy’n gysylltiedig â gweithrediadau tramor. Roedd y ‘rhagdybiaeth yn erbyn erlyn’ yn berthnasol i ddechrau i droseddau gan gynnwys hil-laddiad, artaith, troseddau yn erbyn dynoliaeth a throseddau rhyfel. Dilëwyd hefyd ofyniad i ystyried amharu ar y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol mewn perthynas â gweithrediadau tramor yn y dyfodol.
- Ym mis Hydref 2020, ymrwymodd Llywodraeth y DU i ryddhau, am y tro cyntaf, fanylion yr arian a ddyrennir bob blwyddyn i wledydd yn y Gwlff o dan y Gronfa Gweithgaredd Integredig. Codwyd pryderon ynghylch darparu cyllid i wledydd sydd â hanes hawliau dynol gwael. Mae’r gronfa’n cefnogi ystod o raglenni yn y rhanbarth, er bod manylion y rhain wedi’u dal yn ôl o’r blaen. Nid oes unrhyw fanylion wedi’u rhyddhau eto.
- Ym mis Awst 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei dull diwygiedig o Ddiogelu Sifiliaid mewn gwrthdaro arfog, gan gynnwys egwyddorion penodol ar gydymffurfio â chyfraith hawliau dynol mewn sefyllfaoedd o wrthdaro. Mae’r diweddariad yn ymrwymo i gamau nas cynhwyswyd o’r blaen yn y strategaeth, gan gynnwys yn ymwneud ag amddiffyn plant sy’n byw mewn ardaloedd gwrthdaro yn benodol.
- Ym mis Gorffennaf 2020, daeth Rheoliadau Sancsiynau Hawliau Dynol Byd-eang 2020 i rym, sy’n ceisio atal a darparu atebolrwydd am dorri hawliau dynol yn ddifrifol ledled y byd.
- Ym mis Gorffennaf 2019, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei phenderfyniad i beidio â chynnal ymchwiliad annibynnol dan arweiniad barnwr i gyfranogaeth Prydain mewn artaith a herwgipio. Ar ôl lansio her gyfreithiol i’r penderfyniad hwn, ceisiodd y Llywodraeth sicrhau bod rhai o’r gweithrediadau yn cael eu clywed yn breifat o dan Ddeddf Cyfiawnder a Diogelwch 2013. Mae’r gweithrediadau hyn yn parhau.
- Ym mis Gorffennaf 2019, ar ôl galwadau iddo gael ei egluro, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fersiwn ddiwygiedig o’i ‘Ganllawiau cyfunol i swyddogion cudd-wybodaeth a phersonél gwasanaeth ar gadw a chyfweld carcharorion dramor’. Daeth y fersiwn ddiwygiedig yn dilyn adolygiad gan Swyddfa’r Comisiynydd Pwerau Ymchwilio i sut i wella’r canllawiau.
- Ym mis Mai 2018, ar ôl dyfarniad gan y Goruchaf Lys, ymddiheurodd Llywodraeth y DU i Abdul-Hakim Belhaj a Fatima Boudchar am rôl y DU wrth iddynt gael eu cipio, eu harteithio, a’u herwgipio i Libia yn 2004.
- Yn 2017, caeodd Llywodraeth y DU Dîm Honiadau Hanesyddol Irac a oedd yn adolygu ac yn ymchwilio i honiadau o gam-drin sifiliaid Irac gan bersonél lluoedd arfog y DU rhwng 2003 a 2009. Fe agorodd dros 3,000 o achosion, ond ni arweiniodd y rhain at unrhyw erlyniadau. Neilltuwyd yr holl achosion oedd yn weddill i Ymchwiliadau Etifeddiaeth Heddlu’r Lluoedd.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/05/2021