Mewnfudo – asesiad Llywodraeth y DU
Cam yn ôl
Gwelwyd cam cyson neu ddifrifol yn ôl o ran mwynhad hawliau dynol, neu leihad arwyddocaol mewn safonau hawliau dynol neu amddiffyniadau dan y gyfraith neu bolisi
Nododd gweithrediad polisïau mewnfudo ‘amgylchedd gelyniaethus’ leihad mewn amddiffyniadau hawliau dynol ac mae achosion llys wedi canfod methiannau o ran diogelu. Mae lleihad yn y nifer o fewnfudwyr sydd yn y ddalfa yn gadarnhaol, ond mae cyfraddau’n dal i fod yn arwyddocaol a does dim terfyn cyfreithiol o hyd ar hyd y cyfnod yn y ddalfa. Mae’r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, os y’i gweithredir, yn cyflwyno risg i hawliau dynol a gallai gael effeithiau anghymesur ar bobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig.
- Mae’r agenda polisi ‘amgylchedd gelyniaethus’ neu ‘amgylchedd sy’n cydymffurfio’ – a fwriedir i’w gwneud yn anoddach i ymfudwyr gyda statws afreolaidd i fyw, gweithio a chael mynediad i wasanaethau yn y Deyrnas Unedig – yn parhau, ac mae wedi derbyn beirniadaeth helaeth am ei effaith negyddol ar hawliau dynol.
- Canfu ein hasesiad na wnaeth y Swyddfa Gartref gydymffurfio gyda Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus wrth ddeall effaith polisïau ‘amgylchedd gelyniaethus’ ar aelodau Du y genhedlaeth Windrush. Daeth y Swyddfa Gartref i gytundeb cyfreithiol gyda ni i wella ei arferion.
- Amlygodd yr Adolygiad Windrush Lessons Learned fod unigolion oedd yn y Deyrnas Unedig yn gyfreithlon wedi colli eu swyddi a chartrefi, a bod rhai yn wynebu cael eu carcharu ac alltudio. Derbyniodd y Swyddfa Gartref y casgliadau hyn ac amlinellu camau gweithredu mewn ymateb.
- Dengys ein hymchwil bod codi ffi am ofal iechyd y GIG yn Lloegr a rhannu data ar gyfer gorfodi mewnfudo yn atal ymfudwyr rhag ceisio gofal iechyd.
- Ym Mai 2020, barnodd yr Uchel Lys bod y Swyddfa Gartref wedi methu sicrhau na fyddai cyflwyno amod ‘dim mynediad at gronfeydd cyhoeddus’ ar riant plentyn Prydeinig yn ceisio caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig yn arwain at driniaeth annynol.
- Ym Mai 2021, mynegodd Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig bryderon y byddai elfennau o’r Cynllun Newydd ar gyfer Mewnfudo yn effeithio’n negyddol ar amddiffyniad pobl sy’n ceisio lloches. Rydym hefyd wedi amlygu y gallai darpariaethau yn y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau effeithio yn benodol ar bobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig ac y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig: gymryd camau mewn ymateb.
- Mae ystadegau ar gadw mewnfudwyr yn y ddalfa wedi eu heffeithio gan y pandemig coronafeirws (COVID-19), er bod y tuedd wedi bod yn lleihau ers 2015.
- Yn y flwyddyn i Fawrth 2021, dychwelwyd llai na chwarter y bobl oedd yn gadael y ddalfa i wlad arall, sy’n awgrymu nad yw’r ddalfa yn cael ei ddefnyddio’n gyson mewn achosion ble mae gobaith realistig o alltudio yn unig.
- Yn 2020, gwrthododd Llywodraeth y Deyrnas Unedig addasiadau deddfwriaethol yn cyflwyno cyfyngiad amser statudol ar gadw yn y ddalfa.
- Er bod y nifer o blant a gedwir wedi lleihau yn y blynyddoedd diweddar, cafodd 28 o blant eu cadw o’r newydd yn y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 2021.
- Mae adolygiadau annibynnol wedi amlygu carcharu pobl sy’n anabl, yn feichiog neu’n drawsrywiol, neu sydd wedi goroesi artaith, masnachu mewn pobl neu gaethwasiaeth fodern. Mae Is-bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Atal Artaith wedi mynegi pryderon ynghylch amodau mewn lleoliadau cadw mewnfudwyr.
- Ym Mehefin 2021, dyfarnodd yr Uchel Lys bod Barics Napier, a ddefnyddiwyd i gadw pobl oedd yn ceisio lloches, yn annigonol ar gyfer eu hanghenion iechyd ac nad oedd gan y Swyddfa Gartref system effeithio i sicrhau bod pobl yn wynebu risg uwch o fod yn fregus yn cael eu lletya yno.
- Parhaodd alltudiaethau a symudiadau yn ystod y pandemig, yn groes i gyngor y Cenhedloedd Unedig. Cafodd rhaglenni adsefydlu eu hatal dros dro.
- Cafodd dros 5.8 miliwn o geisiadau’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE eu cwblhau ar 30 Medi 2021, er bod ymchwil yn dynodi rhywfaint o amserau prosesu maith.
- Yn Chwefror 2021, dyfarnodd y Llys Apêl fod y ffi dinasyddiaeth o £1,012 ar gyfer plant yn anghyfreithlon oherwydd nad oedd y Swyddfa Gartref wedi talu sylw i’r angen i ddiogelu a hyrwyddo lles plant wrth osod y ffi.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 30/09/2021