Trais yn erbyn menywod a merched – asesiad Llywodraeth Cymru
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Mae cyflwyno’r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (Deddf VAWDASV) a’r strategaeth genedlaethol ar VAWDASV yn gamau i’w croesawu. Fodd bynnag, nid yw’r dangosyddion cenedlaethol terfynol ar gyfer y Ddeddf VAWDASV yn eu lle eto, mae angen cryfhau mecanweithiau llywodraethu ac atebolrwydd, ac mae cynnydd ar weithredu’r strategaeth genedlaethol wedi dod i stop oherwydd y pandemig COVID-19. Mae trais yn erbyn menywod a merched yn parhau i fod yn fater arwyddocaol yng Nghymru. Cynyddodd adroddiadau cam-drin domestig yn ystod pandemig, ac mae dioddefwyr yn ei chael yn anodd cael mynediad i gefnogaeth arbenigol.
- Fe gafwyd cynnydd mewn cofnodion o gam-drin domestig gan yr heddlu yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
- Mae’r pandemig wedi gweld cynnydd mewn adroddiadau o gam-drin domestig yn y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru, roedd ymweliadau i dudalen hafan y llinell gymorth genedlaethol Byw Heb Ofn wedi codi o 690 ym Mawrth 2020 i 1,683 yn Ebrill 2020. Roedd yna hefyd gynnydd mawr mewn galw ar gyfer gwasanaethau cefnogaeth yng Nghymru rhwng Ebrill a Mehefin 2020, gyda chynnydd o 41% yn y nifer o oroeswyr a gefnogwyd a chynnydd o 59% yn y nifer o atgyfeiriadau o gymharu â’r un cyfnod yn 2019.
- Casglodd adolygiad o gynnydd Llywodraeth Cymru o ran gweithredu’r Ddeddf VAWDASV gan Swyddfa Archwilio Cymru yn Nhachwedd 2019 fod goroeswyr ‘yn aml yn cael eu siomi oherwydd system anghyson, cymhleth a thameidiog’.
- Er i Lywodraeth Cymru gyhoeddi set gyntaf o ddangosyddion cenedlaethol ar gyfer y Ddeddf VAWDASV ym Mehefin 2019, roedd cynlluniau i gyhoeddi set derfynol o ddangosyddion cenedlaethol erbyn haf 2020 wedi eu gohirio gan y pandemig, sy’n golygu nad oes dangosyddion o’r fath ar waith eto.
- Yn 2020, cyhoeddodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru adroddiad ar ymyraethau cam-drin domestig yng Nghymru, gan ganfod er bod mesurau llywodraethu ac atebolrwydd wedi gwella, maent yn dal ddim yn bodloni gofynion y Ddeddf VAWDASV, a bod angen mwy o arweinyddiaeth ar lefel leol a mecanweithiau atebolrwydd ar lefel genedlaethol.
- Nododd cynghorwyr cenedlaethol Cymru ar VAWDASV gynnydd ym mhob ffrwd gwaith i weithredu’r strategaeth genedlaethol ar VAWDASV yn ystod 2019–20, ond amlygwyd bod y pandemig wedi dod â chynnydd ar ei weithrediad i stop yn 2020–21.
- Yn 2019–20, nid oedd yn bosibl i wasanaethau arbenigol seiliedig ar loches gefnogi 671 o oroeswyr, yn bennaf oherwydd diffyg capasiti ac adnoddau i ddarparu gwasanaeth.
- Mae Llywodraeth Cymru wedi methu datblygu strategaeth gyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau goroeswyr ac mae’r pandemig wedi cynyddu pryderon y sector ynghylch y mater hwn.
- Amcangyfrifir nad oedd 77% o blant a phobl ifanc a gafodd eu cam-drin yn y cartref yn 2018 yn cael unrhyw gymorth arbenigol.
- Er gwaethaf dyraniad cyllid ychwanegol i gefnogi’r sector wrth ymateb i’r pandemig, mae pryderon o hyd bod grwpiau penodol – yn cynnwys menywod lleiafrifoedd ethnig, ymfudwyr ac anabl – yn wynebu rhwystrau penodol wrth gael mynediad i wasanaethau cefnogaeth arbenigol.