Trais yn erbyn menywod a merched – asesiad Llywodraeth y DU
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Fe fu diwygiadau pwysig yn ddiweddar i gryfhau’r fframwaith polisi a chyfreithiol, a bydd yn cymryd amser i’w heffaith gael ei wireddu. Fodd bynnag, mae trais yn erbyn menywod a merched yn dal i fod yn gyffredin, ac mae rhai grwpiau wedi eu heffeithio’n anghymesur. Cynyddodd adroddiadau o gam-drin domestig yn ystod y pandemig COVID-19. Mae dioddefwyr yn ei chael yn anodd cael mynediad at gyfiawnder a chymorth arbenigol. Mae cam-drin domestig a throseddau rhywiol yn dal i fod heb eu hadrodd yn ddigonol, mae’r nifer o erlyniadau wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae archwiliadau swyddogol yn argymell bod angen newid system gyfan.
- Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 2020, roedd ffigurau’n dangos bod 1.6 miliwn o fenywod yng Nghymru a Lloegr wedi profi cam-drin domestig yn y flwyddyn flaenorol. Yn y cyfnod hwn, roedd 92% o ddiffynyddion mewn erlyniadau yn ymwneud â cham-drin domestig yn ddynion tra bod 77% o’r dioddefwyr yn fenywod. Roedd 618,000 o fenywod a merched 16–74 oed wedi cael profiad o ymosodiad rhywiol, yn cynnwys trais.
- Canfu arolwg yn 2021 o gam-drin rhywiol mewn ysgolion a cholegau gan Ofsted fod aflonyddu rhywiol a cham-drin rhywiol ar-lein yn digwydd yn helaeth ac wedi ei normaleiddio, ac felly’n aml ni adroddir amdano.
- Mae’r pandemig wedi gweld cynnydd mewn adroddiadau o gam-drin domestig a chynnydd mewn galw am wasanaethau ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig.
- Mae rhai grwpiau a phobl gyda nodweddion gwarchodedig penodol yn anghymesur o debygol i fod yn destun trais yn erbyn menywod a merched, yn cynnwys menywod a merched anabl ac o leiafrifoedd ethnig.
- Dengys tystiolaeth fod cam-drin domestig a thrais rhywiol heb eu hadrodd ar bob adeg. Mae llai nag un o bob chwe dioddefwr yn adrodd am dreisio i’r heddlu tra bod amcangyfrifon swyddogol yn awgrymu bod tua un o bob pump o ddioddefwyr cam-drin domestig ddim yn ei adrodd.
- Canfu ymchwiliad swyddogol ar y cyd yn 2020 bod dioddefwyr trosedd gyda statws mewnfudo anniogel neu ansicr, yn cynnwys dioddefwyr cam-drin domestig, yn ofni y bydd eu gwybodaeth yn cael ei rannu gyda’r Swyddfa Gartref os byddant yn adrodd am droseddau i’r heddlu. Mae yna hefyd bryderon bod ceisiadau eang gan yr heddlu am ganiatâd i echdynnu data o ffonau symudol dioddefwyr yn rhwystro dioddefwyr trais rhag ceisio cyfiawnder.
- Mae ystadegau Gwasanaeth Erlyn y Goron yn parhau i ddangos cwymp mewn erlyniadau ar gyfer cam-drin domestig a threisio.
- Canfu adolygiad traws lywodraeth yn 2021 bod ‘dioddefwyr treisio yn cael eu hesgeuluso’ gan y system cyfiawnder, gyda phryderon yn cynnwys oedi helaeth (wedi ei waethygu gan y pandemig), ystrydebau ynghylch hygrededd dioddefwyr, diffyg cymorth i ddioddefwyr a chyfathrebu, a phrinder adnoddau arbenigol. Canfu archwiliad swyddogol bod angen newid sylfaenol system gyfan.
- Cyflwynodd y Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 ddiwygiadau positif, fel cynnwys plant yn y diffiniad o ddioddefwyr, gwell amddiffyniad gweithdrefnol ar gyfer goroeswyr yn y llysoedd teulu a sifil, a dyletswydd ar awdurdodau lleol yn Lloegr i ddarparu gwasanaethau cam-drin Domestig seiliedig ar lety. Fodd bynnag, nid yw’r ddyletswydd newydd yn cynnwys gwasanaethau yn y gymuned nac anghenion cefnogaeth dioddefwyr sydd â statws mewnfudo ansicr.
- Mae yna bryderon ynghylch cyllid annigonol ar gyfer gwasanaethau trais yn erbyn menywod a merched, yn arbennig darpariaeth arbenigol ar gyfer menywod o leiafrifoedd ethnig, menywod anabl, goroeswyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol ac unigolion gydag anghenion cymhleth.
- Mae’r ‘Strategaeth taclo trais yn erbyn menywod a merched’ ar gyfer Cymru a Lloegr yn addo ymateb system gyfan ac yn anelu at gynyddu cefnogaeth i ddioddefwyr, cynyddu’r nifer o gyflawnwyr sy’n cael eu dwyn i gyfiawnder, a lleihau amlder trais yn erbyn menywod a merched gyda ffocws ar atal, yn cynnwys trwy addysg ac ymwybyddiaeth gyhoeddus.
- Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal heb gadarnhau’r Confensiwn ar Atal a Goresgyn Trais yn Erbyn Menywod a Thrais Domestig, er gwaethaf ei lofnodi yn 2012.