Cyfranogiad gwleidyddol a dinesig, gan gynnwys cynrychiolaeth weleidyddol –asesu Llywodraeth y DU
Dim cynnydd
Ni chafwyd unrhyw newidiadau cyfreithiol na pholisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol o ran y mater hwn, a thystiolaeth gyfyngedig iawn sydd o’r cynnydd o ran mwynhad o'r hawliau hyn.
Mae menywod, lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl yn parhau i gael eu tangynrychioli mewn gwleidyddiaeth, ac mae data amrywiaeth yn annigonol, er bod y nifer o ASau benywaidd yn Senedd y DU yn parhau i godi. Mae ymgeiswyr sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig penodol yn destun difrïo a bygythiadau anghymesur, ac mae angen cyllid hirdymor er mwyn sicrhau cyfranogiad cyfartal pobl anabl. Ceir pryderon hefyd y bydd gofynion newydd dulliau adnabod i bleidleiswyr yn ei gwneud yn anoddach i rai pobl bleidleisio.
- O 7 Medi 2022 hyd 25 Hydref 2022, cafodd menywod a phobl o leiafrifoedd ethnig eu cynrychioli gan y pedwar Archswyddog Gwladol – y Prif Weinidog, Canghellor y Trysorlys, Yr Ysgrifennydd Gwladol a’r Ysgrifennydd Cartref – am y tro cyntaf erioed yn hanes Llywodraeth y DU.
- Gallai gofynion ID pleidleiswyr newydd gynyddu’r rhwystrau i bleidleisio. Mae ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU yn dangos bod pobl anabl, pobl ddi-waith, y rheini sydd heb gymwysterau a’r rheini sydd heb bleidleisio o’r blaen yn llai tebygol o fod ag unrhyw fath o gerdyn adnabod â llun.
- Nid oes modd i bobl o dan 18 oed bleidleisio yn etholiadau Seneddol y DU nac etholiadau lleol yn Lloegr.
- Fe dderbyniodd Cyngor Pwyllgor Gweinidogion Ewrop bod cynnig Llywodraeth y DU i ganiatáu carcharorion ar drwydded dros dro i bleidleisio yn cydymffurfio â dyfarniad Llys Hawliau Dynol Ewrop yn Hirst v Y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, mae pryderon yn parhau ynglŷn ag a yw’r dull cyfyngedig hwn yn cwrdd â goblygiadau Llywodraeth y DU i sicrhau’r hawl i bleidleisio o’i ystyried ochr yn ochr â’r angen i sicrhau bod carcharorion yn cael eu hadsefydlu.
- Tra bo’r prif bleidiau gwleidyddol yn cynnwys amrywiaeth gynyddol o ymgeiswyr,mae diffyg amrywiaeth mewn cynrychiolaeth wleidyddol yn parhau’n bryder ar y cyfan, gyda menywod, pobl anabl, a phobl o gefndiroedd ethnig yn parhau i gael eu tangynrychioli ymysg ymgeiswyr seneddol, ASau a chynghorwyr lleol yn Lloegr.
- Nid yw data ar amrywiaeth ASau yn cael ei gasglu’n systematig. Nid yw Llywodraeth y DU wedi cyflwyno adran 106 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol gasglu a chyhoeddi data amrywiaeth ymgeiswyr.
- Mae canfyddiadau gwael y cyhoedd o wleidyddiaeth a bygythiadau yn erbyn seneddwyr yn rhwystrau i amrywiaeth mewn cynrychiolaeth wleidyddol. Mae ymgeiswyr seneddol sy’n fenywod, o leiafrifoedd ethnig neu grefyddol, ac sy’n lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws (LGBT) yn destun bygythiadau anghymesur, a cheir tystiolaeth bod ASau benywiadd Du ac Asiaidd yn derbyn mwy o ddifrïo ar-lein nag ASau sy’n fenywod Gwyn.
- Nid yw Llywodraeth y DU wedi cyflwyno unrhyw beth yn lle’r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru i bobl anabl, a ddaeth i ben yn 2015. Fe redodd y Gronfa EnAble interim hyd 2020. Mae cyllid hirdymor yn ofynnol er mwyn sicrhau y gall pobl anabl sefyll ar gyfer swyddi etholedig.
- Yn 2020/21, roedd cyfradd y menywod a’r rheini o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig ymysg penodiadau ac aibenodiadau cyhoeddus ar ei isaf ers nifer o flynyddoedd. Yn y flwyddyn flaenorol, 2019/20, roedd y cyfran o benodeion benywaidd cyhoeddus yn uwch na 50% am y tro cyntaf.
- Ni chafwyd cynnydd mewn perthynas â phenodiadau cyhoeddus pobl anabl. Darganfu adroddiad dilynol ym mis Rhagfyr 2020 i Adolygiad yr Arglwydd Holmes fod Llywodraeth y DU ond wedi cwblhau dau o’r 25 ymrwymiad a amlinellwyd yn ei Gynllun Gweithredu Amrywiaeth Penodiadau Cyhoeddus yn 2019.
- Er i’r ganran o bobl a bleidleisiodd mewn etholiad cyffredinol yn Lloegr gynyddu o 66% i 69.1% yn 2017, fe ostyngodd i 67.5% yn 2019. Mae pobl iau a lleiafrifoedd ethnig yn llai tebygol o bleidleisio. Mae pobl anabl yn fwy tebygol o fod ar y gofrestr etholiadol ond maent yn profi rhwystrau i bleidleisio.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022