Cyfranogiad gwleidyddol a dinesig, gan gynnwys cynrychiolaeth weleidyddol – camau gweithredu’r Llywodraeth
Camau gweithredu Llywodraeth y DU:
- Ym mis Ebrill 2022, fe dderbyniodd y Ddeddf Etholiadau Gydsyniad Brenhinol. Pwrpas penodol y Ddeddf yw gwella diogelwch, hygyrchedd a thryloywder etholiadau ac ymgyrchoedd. Fe gyflwynodd ofynion am gerdyn adnabod â llun i bleidleiswyr mewn gorsafoedd pleidleisio adeg etholiadau seneddol ym Mhrydain Fawr ac etholiadau lleol yn Lloegr.Yn ogystal, fe wnaeth bygwth ymgeiswyr ac ymgyrchwyr yn drosedd etholiadol newydd.
- Ym mis Mehefin 2019, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU Gynllun Gweithredu Amrywiaeth ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus ym Mhrydain wedi ei diweddaru ochr yn ochr â’i ymateb i Adolygiad yr Arglwydd Holmes yn 2018 i wneud penodiadau cyhoeddus yn agored i bobl anabl. Mae’r cynllun yn ymrwymo i wella ansawdd y data ar benodiadau cyhoeddus ac i gynyddu’r lefelau o amrywiaeth ymysg penodeion erbyn 2022.
- Ym mis Rhagfyr 2018, cafodd y Gronfa EnAble ar gyfer Swyddi Etholiadol ei lansio er mwyn cynorthwyo pleidiau gwleidyddol i roi gwell cefnogaeth i ymgeiswyr anabl trwy ddarparu grantiau sy’n berthnasol i gostau’n ymwneud ag anabledd yn Lloegr. Caëwyd y gronfa ar 31 Mawrth 2020.
- Ym mis Mawrth 2018, fe gyflwynodd Llywodraeth y DU newidiadau i gofrestriadau pleidleiswyr dienw i’w gwneud yn haws i oroeswyr cam-drin domestig ledled Prydain gofrestru i bleidleisio’n ddienw.
- Fe gynhaliodd Llywodraeth y DU gynlluniau peilot ar gyfer pleidleiswyr mewn pum awdurdod lleol yn Lloegr yn ystod yr etholiadau llywodraeth leol yn 2018, gan ei gwneud yn ofynnol i bleidleiswyr gyflwyno dulliau adnabod personol cyn bwrw’u pleidlais. Cynhaliwyd cynlluniau peilot tebyg ym mis Mai 2019.
- Yn 2018, fe ddiwygiodd Llywodraeth y DU y canllawiau i alluogi carcharorion ar drwydded dros dro yng Nghymru a Lloegr i bleidleisio, mewn ymateb i ddyfarniad Llys Hawliau Dynol Ewrop yn Hirst v Y Deyrnas Unedig.
- Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Gynllun Ymgysylltu Democrataidd yn amlinellu sut y byddai’n cynyddu cyfranogiad ymysg grwpiau a oedd wedi tan-gofrestru.
Darllenwch ein hasesiad o gynnydd Llywodraeth y DU parthed cyfranogiad gwleidyddol a dinesig, gan gynnwys cynrychiolaeth weleidyddol.
Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru:
Mae rhai agweddau o gyfranogiad yn gyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru, ond mae nifer o feysydd sy’n ymwneud ag etholiadau a phleidiau gwleidyddol wedi eu neilltuo i Lywodraeth y DU.
- Ym mis Mai 2022, fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei ymroddiad i nifer o ddiwygiadau Senedd Cymru, gan gynnwys cwotâu rhywedd, fel rhan o’r cydweithio rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru.
- Ym mis Chwefror 2021, fe gyllidodd Llywodraeth Cymru gynllun peilot Mynediad at Gronfa Sefyll mewn Etholiad er mwyn cefnogi ymgeiswyr anabl â’r costau ychwanegol sydd ynghlwm â sefyll mewn etholiad.
- Ym mis Ionawr 2021, fe dderbyniodd y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) Gydsyniad Brenhinol. Mae’r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau ar gyfer diwygio cyfranogiad mewn democratiaeth leol a threfniadau etholiadol ar gyfer llywodraeth leol, ac yn estyn yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau lleol i bobl ifanc rhwng 16 ac 17 oed a ‘dinasyddion tramor cymwys’.
- Ym mis Medi 2020, fe lansiodd Llywodraeth Cymru gam dau ei raglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth, gyda’r bwriad o gynyddu’r nifer o ymgeiswyr llywodraeth leol o gefndiroedd amrywiol.
- Ym mis Chwefror 2020, fe lansiodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer penodiadau cyhoeddus, oedd yn amlinellu’r gweithredoedd i’w cymryd yn 2020/21 er mwyn gwella’r amrywiaeth ymysg arweinwyr cyhoeddus yng Nghymru.
- Ym mis Mehefin 2019, fe gytunodd Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i alluogi carcharorion sydd wedi cael dedfryd o lai na phedair blynedd i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Fodd bynnag, nid yw hynny wedi ei symud ymlaen.
Darllenwch ein hasesiad o gynnydd Llywodraeth Cymru parthed cyfranogiad gwleidyddol a dinesig, gan gynnwys cynrychiolaeth weleidyddol.
Mae’r rhestr hon yn grynodeb o’r prif gamau gweithredu ac ni fwriedir iddi fod yn hollgynhwysfawr.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022