Cyfranogiad gwleidyddol a dinesig, gan gynnwys cynrychiolaeth weleidyddol –asesu Llywodraeth Cymru
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Gwnaed newidiadau i’r polisi a’r fframwaith gyfreithiol er mwyn cynyddu cyfranogiad gwleidyddol a gwella amrywiaeth cynrychiolaeth wleidyddol. Mae hyn yn cynnwys ymestyn yr hawl i bleidleisio i bobl ifanc 16-17 oed a dinasyddion tramor cymwys, a rhaglenni penodol er mwyn cynyddu cynrychiolaeth wleidyddol lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi datblygu cynllun gweithredu er mwyn cynyddu amrywiaeth penodiadau cyhoeddus yng Nghymru ac wedi cyllido ystod o fentrau mentora dros y tair blynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl yn parhau i gael eu tangynrychioli mewn gwleidyddiaeth ac ar fyrddau cyhoeddus, yn enwedig mewn uwch rolau.
- Bwriad diwygiadau arfaethedig Senedd Cymru Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cwotâu rhywedd, yw cynyddu amrywiaeth ymysg cynrychiolwyr gwleidyddol.
- Cafodd y fenyw gyntaf o gefndir ethnig lleiafrifol ei hethol i’r Senedd yn 2021. Cafodd cyfanswm o 26 o fenywod eu hethol, gan gynrychioli 43% o’r Senedd.
- Mae menywod, pobl o leiafrifoedd ethnig, pobl anabl, lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws (LGBT) a phobl iau, a’r rheini ag incymau is, wedi eu tangynrychioli’n sylweddol mewn llywodraeth leol. Yn etholiadau lleol mis Mai 2017, roedd 34% o’r ymgeiswyr yn fenywod, 98% yn Wyn a 15% yn anabl.
- Cynyddodd y nifer o bobl a fwrodd bleidlais yn etholiadau’r Senedd yn 2021 o 45% i 46.6%, sef y ffigwr uchaf erioed.
- Mae cyfranogiad ac ymgysylltiad pobl ifanc wedi cynyddu trwy gyflwyniad Senedd Ieuenctid Cymru gan y Llywydd a’r Senedd. Cofrestrodd dros 25,000 o bobl ifanc i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd Ieuenctid yn 2018. Bydd yr estyniad diweddar i ganiatáu pobl ifanc 16-17 oed i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau lleol yn Neddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 a’r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, yn y drefn honno, yn symud cyfranogiad gwleidyddol ymysg pobl ifanc yn ei flaen ymhellach.
- Er gwaethaf ymrwymiadau blaenorol gan Lywodraeth Cymru, nid yw eto wedi cyflwyno deddfwriaeth i ymestyn yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol i garcharorion a ddedfrydwyd i lai na phedair blynedd o garchar, sy’n golygu na all carcharorion yng Nghymru sydd wedi eu dedfrydu i garchar bleidleisio o hyd.
- Roedd cyfran y penodiadau ac ailbenodiadau cyhoeddus a wnaed gan Lywodraeth Cymru i fenywod yn 48.5% yn 2020/21, i fyny o 42.2% yn 2019/20. Fodd bynnag, roedd cyfan y penodiadau ac ailbenodiadau cyhoeddus a wnaed gan Lywodraeth Cymru i bobl o leiafrifoedd ethnig yn llai na 5% yn 2020/21, i lawr o 8.1% yn 2019/20.