Troseddau casineb ac iaith casineb – asesu Llywodraeth y DU
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Fe gynyddodd y nifer o droseddau casineb a gofnodwyd rhwng mis Mawrth 2021 a mis Mawrth 2022, er i ddata gael ei effeithio gan welliannau i arferion cofnodi’r heddlu a’r pandemig coronafeirws (COVID-19). Adroddodd nifer o ddioddefwyr ynglŷn â’u hanfodlonrwydd gydag ymdriniaeth yr heddlu o achosion. Mae’r fframwaith gyfreithiol ynghylch troseddau casineb yn parhau’n gymhleth ac yn rhoi amddiffynfa amrywiol i wahanol grwpiau. Nid yw Llywodraeth y DU wedi ymateb hyd yma i’r argymhellion i fynd i’r afael â hyn.
- Mae amcanion Bil Diogelwch Ar-lein Llywodraeth y DU, i wneud gwasanaethau ar-lein yn fwy diogel, yn enwedig i blant, yn bwysig. Fodd bynnag, ceir pryderon ynghylch cwmpas eang y fframwaith reoleiddio arfaethedig a’i goblygiadau o ran rhyddid mynegiant. Mae’r Bil yn debygol o fynd rhagddo, ond â diwygiadau, yn dilyn newidiadau yn Llywodraeth y DU.
- Mae cymhlethdod y fframwaith gyfreithiol, ac amrywiaeth mewn amddiffyniad i wahanol grwpiau, yn arwain at amrywiaeth o ganlyniadau i ddioddefwyr, yn gallu rhwystro ymchwiliad effeithiol ac yn arwain at gymhwyso safonau anghyson wrth erlyn a dedfrydu troseddau casineb. Nid yw Llywodraeth y DU wedi ymateb hyd yma i adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar gyfreithiau troseddau casineb sy’n argymell nifer o newidiadau, gan gynnwys gwell amddiffyniad i ddioddefwyr troseddau casineb yn erbyn pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol (LHDT). Ni wnaeth Comisiwn y Gyfraith argymell nodwedd newydd o ryw neu rywedd mewn cyfreithiau troseddau casineb.
- Mae’r nifer o droseddau casineb a gofnodir gan yr heddlu yn parhau i gynyddu yng Nghymru a Lloegr. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022, cofnododd yr heddlu 155,841 o droseddau casineb yng Nghymru a Lloegr, cynnydd o 26% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Gallai gweithredu gan yr heddlu i wella cofnodi troseddau casineb dros y blynyddoedd diwethaf fod wedi cyfrannu at y cynnydd hwn.
- Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022, roedd gan 70% o’r troseddau casineb a gofnodwyd gymhelliant hiliol. Fe gynyddodd troseddau casineb â chymhelliant hiliol o 19% rhwng y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021 a’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022. Cafodd 8,730 o droseddau casineb crefyddol eu cofnodi gan yr heddlu, gan gynrychioli cynnydd o 37%. Dyma’r nifer fwyaf o droseddau casineb crefyddol i gael eu cofnodi ers cychwyn casglu data.
- Mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn amcangyfrif bod 190,000 o achosion troseddau casineb, ar gyfartaledd, wedi digwydd yn flynyddol rhwng 2017 a 2020. Dros y tymor hirach, roedd y nifer o achosion troseddau casineb wedi gostwng, o 307,000 y flwyddyn (arolygon 2007/08 a 2008/09 wedi eu cyfuno) i 190,000 (arolygon y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2018 a’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 wedi eu cyfuno), gostyngiad o 38 y cant.
- Nid yw Llywodraeth y DU wedi ymateb hyd yma i ganfyddiadau ei ymgynghoriad ar fesurau i amddiffyn mannau addoli rhag troseddau casineb yng Nghymru a Lloegr a gynhaliwyd yn 2020.
- Yn y blynyddoedd o 2017 hyd 2020, adroddodd 55% o ddioddefwyr troseddau casineb eu bod yn teimlo’n fodlon iawn neu’n weddol fodlon â’r modd y rheolodd yr heddlu yr achos, cyfran is nag ar gyfer troseddau yn gyffredinol (66%), tra roedd 27% o ddioddefwyr troseddau casineb yn anfodlon iawn ag ymateb yr heddlu (o’i gymharu â 17% ar gyfer troseddau yn gyffredinol).
- Tra cafwyd cynnydd wrth gyflwyno Cynllun Gweithredu Troseddau Casineb Llywodraeth y DU yng Nghymru a Lloegr, nid yw Llywodraeth y DU wedi manylu ynghylch sut y byddai cynnydd yn cael ei gyflawni a’i werthuso, ac mae nifer o ddiwygiadau’n parhau heb eu cyflwyno.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022