Troseddau casineb ac iaith casineb – camau gweithredu’r Llywodraeth
Camau gweithredu Llywodraeth y DU:
- Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Fil Diogelwch Ar-lein er mwyn sefydlu trefn reoleiddio ar gyfer darparwyr gwasanaethau ar-lein penodol. Mae’r Bil yn cynnwys gofynion i ddarparwyr gwasanaeth fynd i’r afael â chynnwys anghyfreithlon, gan gynnwys troseddau casineb cyfredol yn y DU. Mae’r Bil yn debygol o fynd rhagddo gyda diwygiadau yn dilyn newidiadau yn Llywodraeth y DU.
- Ym mis Mawrth 2022, fe ddiweddarodd Gwasanaeth Erlyn y Goron ei ganllawiau erlyn ar wahanol fathau o droseddau casineb yng Nghymru a Lloegr: troseddau casineb hiliol a chrefyddol; troseddau casineb homoffobig, deuffobig a thrawsffobig; a throseddau casineb anabledd.
- Ym mis Rhagfyr 2021, cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith ei adroddiad ar ddiwygiadau i’r fframwaith gyfreithiol ar droseddau casineb yng Nghymru a Lloegr, yn dilyn adolygiad ar gais Llywodraeth y DU.
- Ym mis Gorffennaf 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Strategaeth Anabledd Cenedlaethol, sy’n cynnwys nifer o ymrwymiadau yn ymwneud â mynd i’r afael â throseddau casineb. Mae rhai elfennau o’r strategaeth wedi eu hoedi yn dilyn dyfarniad yr uchel lys bod Llywodraeth y DU wedi methu ag ymgynghori’n gyfreithiol â phobl anabl.
- Ym mis Tachwedd 2020, fe ddyfarnodd y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol £1.8 miliwn trwy’r cynllun Grantiau Troseddau Ffydd, Hil a Chasineb er mwyn cefnogi grwpiau cymunedol a mudiadau cymdeithas sifil yn Lloegr i redeg prosiectau byrion i ‘hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol’ a mynd i’r afael â throseddau casineb crefyddol a hiliol eu cymhelliant.
- Ym mis Hydref 2020, fe dderbyniodd Deddf Dedfrydu 2020 Gydsyniad Brenhinol. Mae Adran 66 o’r Ddeddf yn cyflwyno rheolau dedfrydu newydd yn ymwneud â gelyniaeth hiliol.
- O fis Mawrth hyd fis Mehefin 2020, cynhaliodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar fesurau i amddiffyn mannau addoli rhag troseddau casineb yng Nghymru a Lloegr.
- Ym mis Chwefror 2019, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y Cynllun Gweithredu Cymunedau Integredig, sy’n cynnwys camau i fynd i’r afael â throseddau casineb yn Lloegr, megis diweddaru’r aelodaeth o’r Gweithgor Gwrth-gasineb yn erbyn Mwslimiaid i sicrhau cynrychiolaeth eang ac arbenigol o’r gymuned.
- Ym mis Hydref 2018, cynhyrchodd Llywodraeth y DU ddiweddariad ar ei Gynllun Gweithredu Troseddau Casineb ar gyfer Cymru a Lloegr. Ym mis Mai 2022, fe ymrwymodd Llywodraeth y DU i gyhoeddi strategaeth newydd er mwyn mynd i’r afael â throseddau casineb.
- Fel yr amlinellwyd mewn adroddiad o fis Hydref 2018 ar gyflwyno cynllun gweithredu 2016 ar droseddau casineb, rhwng 2016 a 2018 fe gyllidodd adrannau Llywodraeth y DU brosiectau ar atal, ymateb i ac adrodd am droseddau casineb yng Nghymru a Lloegr. Er enghraifft, fe ymrwymodd y Swyddfa Gartref £900,000 i ‘brosiectau arddangos cymunedol’ er mwyn dod o hyd i ffyrdd newydd o ymateb i droseddau casineb.
- Ym mis Gorffennaf 2018, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU Gynllun Gweithredu LHDT er mwyn gwella bywydau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol (LHDT). Mae’n cynnwys gweithredu er mwyn gwella’r adrodd, y cofnodi a’r ymateb i droseddau LGBT yng Nghymru a Lloegr.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022