Cydweithio rhyngwladol, gan gynnwys gyda mecanweithiau hawliau dynol – asesu Llywodraeth y DU
Dim cynnydd
Ni chafwyd unrhyw newidiadau cyfreithiol na pholisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol o ran y mater hwn, a thystiolaeth gyfyngedig iawn sydd o’r cynnydd o ran mwynhad o'r hawliau hyn.
Mae gweithredoedd Llywodraeth y DU wrth geisio cael ei hail-ethol ar Gyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yn brawf o ymroddiad parhaus i gydweithio ar hawliau dynol. Fodd bynnag, mae derbyniad isel o ganfyddiadau ac argymhellion adolygiadau’r Cenhedloedd Unedig, a diffyg Mecanweithiau Cenedlaethol ar gyfer Gweithredu, Adrodd a Gwaith Dilynol (NMIRF), yn bygwth tanseilio’r ymrwymiad hwn i gydweithio. Mae’r gostyngiad dros dro mewn Cymorth Datblygu Swyddogol (ODA) yn codi cwestiynau ynglŷn ag ymroddiad y DU i wella hawliau dynol yn rhyngwladol.
- Mae’r gostyngiad dros dro mewn ODA a gyhoeddwyd yn Adolygiad o Wariant 2020 yn bygwth ystod o hawliau dynol yn rhyngwladol, gyda rhanddeiliaid yn pryderu’n enwedig ynglŷn ag effeithiau negyddol ar hawliau menywod a merched.
- Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno nifer o adroddiadau i fecanweithiau hawliad dynol y Cenhedloedd Unedig rhwng 2017 a 2022. Cyfrannodd pandemig y coronafeirws (COVID-19) at oedi mewn adrodd. Fodd bynnag, mae adroddiad y DU ar y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol (CERD) yn parhau heb ei gwblhau dros ddwy flynedd wedi’r dyddiad cau ar gyfer ei gyflwyno.
- Fe gefnogodd cyllid Llywodraeth y DU ar gyfer cadeirio Fforwm Sefydliadau Hawliau Dynol Cenedlaethol y Gymanwlad (NHRIau) waith meithrin capasiti ar gyfer NHRIau’r Gymanwlad, gan gynnwys ar hawliau cyfeiriadaeth rhywiol a hunaniaeth rhywedd.
- Mae Llywodraeth y DU wedi datgan nad oes ganddo unrhyw fwriad i sefydlu mecanwaith cenedlaethol i fonitro gweithrediad yr argymhellion (a gaiff ei adnabod fel NMIRF) a chydlynu adrodd i fecanweithiau hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig, er gwaethaf nifer o argymhellion y dylai wneud hynny. Mae hyn yn gwneud craffu yn fwy anodd, ac yn cyfyngu ar allu Llywodraeth y DU i weithredu rhwymedigaethau ac argymhellion hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig mewn ffordd gydlynol.
- Nid yw Llywodraeth y DU wedi cytuno y gall y Cenhedloedd Unedig dderbyn cwynion gan unigolion o dan CERD, y Confensiwn Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol, y Confensiwn Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol, y Confensiwn yn erbyn Arteithio a Thriniaethau neu Gosbau Creulon, Annynol neu Ddiraddiol Eraill neu Gonfensiwn ar Hawliau’r Plentyn, gan gyfyngu ar y ddarpariaeth o unioni ymyriadau â hawliau dynol.
- Yn 2019, fe heriodd Llywodraeth y DU yr adroddiad gan Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol a hawliau dynol a nododd fod polisïau cyni’r Llywodraeth ‘gyfystyr â mesurau atchweliadol a oedd yn ymyriadau clir â goblygiadau hawliau dynol y wlad’, gan nodi ei fod yn cyfleu ‘darlun cwbl anghywir’. Yn ogystal fe wnaeth Llywodraeth y DU ymwrthod â’r awgrym a wnaed gan y Rapporteur Arbennig ar ffurfiau cyfoes o hiliaeth, gwahaniaethu, senoffobia ac anoddefgarwch perthynol bod rhai o’i bolisïau yn gwaethygu anghydraddoldeb hiliol.
- Yn mis Mehefin 2019, fe adroddodd Llywodraeth y DU ar gynnydd wrth wireddu rhai Nodau Datblygu Cynaliadwy, megis addysg, ond nodwyd bod angen gweithredu pellach ar eraill, megis tai.
- Yn 2017, derbyniodd Llywodraeth y DU 42% (96 allan o 227) o argymhellion a wnaed trwy’r Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol (UPR), gostyngiad o 54.5% (72 allan o 132) yn 2012.
- Ni wnaeth Llywodraeth y DU dderbyn argymhellion gan UPR 2017 i ystyried cadarnhau Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiogelu Hawliau Pob Gweithiwr Mudol a’c Aelodau o’u Teuluoedd a’r Confensiwn Rhyngwladol ar Warchod Pobl rhag Diflaniad Gorfodol.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022