Cydweithio rhyngwladol, gan gynnwys gyda mecanweithiau hawliau dynol – asesu Llywodraeth y DU

Asesiad cynnydd

Dim cynnydd

Ni chafwyd unrhyw newidiadau cyfreithiol na pholisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol o ran y mater hwn, a thystiolaeth gyfyngedig iawn sydd o’r cynnydd o ran mwynhad o'r hawliau hyn.

Mae gweithredoedd Llywodraeth y DU wrth geisio cael ei hail-ethol ar Gyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yn brawf o ymroddiad parhaus i gydweithio ar hawliau dynol. Fodd bynnag, mae derbyniad isel o ganfyddiadau ac argymhellion adolygiadau’r Cenhedloedd Unedig, a diffyg Mecanweithiau Cenedlaethol ar gyfer Gweithredu, Adrodd a Gwaith Dilynol (NMIRF), yn bygwth tanseilio’r ymrwymiad hwn i gydweithio. Mae’r gostyngiad dros dro mewn Cymorth Datblygu Swyddogol (ODA) yn codi cwestiynau ynglŷn ag ymroddiad y DU i wella hawliau dynol yn rhyngwladol.     

Darllenwch ragor ynglŷn â chamau gweithredu Llywodraeth y DU parthed cydweithio rhyngwladol, gan gynnwys gyda mecanweithiau hawliau dynol.

Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022