Cydweithio rhyngwladol, gan gynnwys gyda mecanweithiau hawliau dynol – camau gweithredu’r Llywodraeth
Camau gweithredu Llywodraeth y DU:
- Rhwng mis Mai a mis Awst 2022, cyflwynodd Llywodraeth y DU sawl adroddiad i’r Cenhedloedd Unedig (CU): ei adroddiad ar gyfer y pedwerydd Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol yn y DU; ei adroddiad i Bwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn; a’i adroddiad i Bwyllgor y CU ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol.
- Ym mis Tachwedd 2021, cynhaliodd y DU 26ain Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP26), lle cafwyd cytundeb ar Gytundeb Hinsawdd Glasgow.
- Ym mis Gorffennaf 2021, cyhoeddodd y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu ei Adroddiad Hawliau Dynol a Democratiaeth 2020 yn amlinellu’r camau a gymerwyd er mwyn gwarchod hawliau dynol yn rhyngwladol.
- Ym mis Mehefin 2021, cyflwynodd Llywodraeth y DU ei adroddiad diweddaraf ar hawliau sifil a gwleidyddol i Bwyllgor Hawliau Dynol y CU.
- Ym mis Mai 2021, cyflwynodd Llywodraeth y DU wybodaeth ddilynol i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Gwahaniaethu yn erbyn Menywod, yn dilyn adolygiad y Pwyllgor o’r DU yn 2019.
- Ym mis Tachwedd 2020, mewn ymateb i’r pwysau ariannol a achoswyd gan bandemig coronafeirws (COVID-19), cyhoeddodd Llywodraeth y DU ostyngiad dros dro mewn Cymorth Datblygu Swyddogol o 0.7% o incwm gwladol gros i 0.5% yn 2021/22. Ym mis Gorffennaf, fe wnaeth Tŷ’r Cyffredin gymeradwyo’r profion cyllidol sydd angen cwrdd â hwy er mwyn adfer y targed o 0.7%.
- Ym mis Hydref 2020, cafodd Llywodraeth y DU ei ailethol i Gyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer 2021-2023.
- Ym mis Medi 2020, fe ailadroddodd Llywodraeth y DU ei gefnogaeth i waith Gweithgor Penagored y Cenhedloedd Unedig ar Heneiddio, sy’n ystyried y fframwaith ryngwladol gyfredol ar hawliau dynol pobl hŷn er mwyn adnabod bylchau mewn gwarchodaeth.
- Ym mis Medi 2020, cafodd y Swyddfa Dramor a Chymanwlad ei huno â’r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol i greu’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO).
- Ym mis Awst 2020, cyflwynodd Llywodraeth y DU adroddiad dilynol i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn erbyn Arteithio ar weithredu argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor yn 2019.
- Ym mis Mai 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddiweddariad ar ei weithrediad o Egwyddorion Arweiniol y Cenhedloedd Unedig ar Fusnes a Hawliau Dynol.
- Ym mis Ebrill 2020, fe gollodd Llywodraeth y DU y dyddiad cau ar gyfer adrodd i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Gwahaniaethu Hiliol. Mae ei Adroddiad Gwladwriaeth yn parhau heb ei gwblhau.
- Ym mis Mehefin 2019, daeth Llywodraeth y DU yn gyd-gadeirydd y Gynghrair Hawliau Cyfartal rhynglywodraethol sy’n ceisio amddiffyn hawliau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a rhyngrywiol (LGBTI). Daeth cyfnod y DU fel cyd-gadeirydd i ben ym mis Medi 2022.
- Ym mis Mehefin 2019, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Adolygiad Cenedlaethol Gwirfoddol o’r ymdrechion i weithredu Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig a fabwysiadwyd yn 2015.
- Ym mis Mai 2019, crëodd Llywodraeth y DU rôl newydd Llysgenad Rhyngwladol Hawliau Dynol.
- Ym mis Rhagfyr 2018, fe gymeradwyodd Llywodraeth y DU Compact Byd-eang y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ymfudo Diogel, Trefnus a Rheolaidd, sy’n cydnabod bod yn rhaid parchu, amddiffyn a gwireddu hawliau dynol ymfudwyr.
- Rhwng 2018 a 2021, fe wnaeth y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu ariannu’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ei rôl fel cadeirydd Fforwm Sefydliadau Hawliau Dynol Cenedlaethol y Gymanwlad.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022