Trais, camdriniaeth ac esgeulustod, a chamfanteisio’n rhywiol ar blant – Gweithredu’r llywodraeth
Camau gweithredu Llywodraeth y DU
- Ym mis Mehefin 2021, cyhoeddodd Ofsted ganfyddiadau adolygiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU o gam-drin rhywiol mewn ysgolion a cholegau.
- Ym mis Mai 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Fil Diogelwch Ar-lein drafft i fynd i’r afael â chynnwys anghyfreithlon a niweidiol ar-lein a gwella dulliau i ddiogelu unigolion, yn enwedig plant.
- Ym mis Ebrill 2021, cafodd Deddf Cam-drin Domestig 2021 gydsyniad brenhinol. Mae’r Ddeddf yn cydnabod bod plant dan 16 oed yn ddioddefwyr cam-drin domestig pan fyddant yn gweld, yn clywed neu’n profi effeithiau camdriniaeth.
- Ym mis Ionawr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Strategaeth Mynd i’r Afael â Cham-drin Plant yn Rhywiol i Gymru a Lloegr, er mwyn helpu i nodi achosion o gam-drin a’u hatal, sicrhau treialon effeithiol a gwella cymorth i oroeswyr.
- Ym mis Rhagfyr 2020, cyflwynodd Llywodraeth y DU y cod ymarfer gwirfoddol dros dro ar gamfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol ar-lein, gan roi canllawiau i gwmnïau technoleg ar sut i fynd i’r afael â throseddau, gan gynnwys meithrin perthynas amhriodol â phlant ar-lein, ffrydio achosion o gam-drin plant yn rhywiol yn fyw a dosbarthu’r cynnwys hwn.
- Ym mis Medi 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ganllawiau statudol diwygiedig ar gadw plant yn ddiogel mewn addysg i ysgolion a cholegau yn Lloegr, gan gynnwys arwyddion o gamdriniaeth ac esgeulustod, ac ymatebion i adroddiadau o drais rhywiol yn erbyn plant a honiadau yn erbyn staff.
- Ym mis Mai 2019, cyflwynodd Llywodraeth y DU Raglen Gymorth ar Fynd i’r Afael â Chamfanteisio ar Blant ar gyfer Lloegr, gyda’r nod o roi cymorth wedi’i deilwra i blant sydd fwyaf agored i droseddau treisgar, achosion o gamfanteisio neu gangiau.
- Ym mis Ionawr 2019, lansiodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad yn ceisio tystiolaeth o anghenion a phrofiadau pobl sydd ag amrywiadau mewn nodweddion rhyw. Roedd hyn yn dilyn argymhellion gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i atal triniaethau llawfeddygol diangen rhag cael eu cynnal yn rheolaidd ar blant rhyngrywiol. Ni chyhoeddwyd diweddariad ers hynny.
- Ym mis Mehefin 2018, cadarnhaodd Llywodraeth y DU Gonfensiwn Cyngor Ewrop ar Ddiogelu Plant rhag Camfanteisio Rhywiol a Cham-drin Rhywiol.
Camau gweithredu Llywodraeth Cymru Mae gan Lywodraeth Cymru rywfaint o gymhwysedd deddfwriaethol dros faterion sy’n ymwneud â thrais, camdriniaeth ac esgeulustod, gan gynnwys gofal cymdeithasol plant. Fodd bynnag, mae cyfiawnder a phlismona wedi’u cadw’n ôl gan Lywodraeth y DU.
- Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau statudol ar ddiogelu plant rhag camfanteisio rhywiol.
- Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad ar berfformiad ei pholisi polisi ynghylch profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a sut y gellid ei ddatblygu ymhellach.
- Ym mis Chwefror 2020, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgyrch i helpu pobl i adnabod arwyddion cam-drin rhywiol.
- Ym mis Ebrill 2020, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r cyngor a’r cymorth sydd ar gael i’r rhai sy’n dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19), neu sy’n ymwybodol o achosion o’r fath.
- Ym mis Ionawr 2020, daeth Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 i rym, gan ddiddymu gallu rhieni neu warcheidwaid i ddefnyddio ‘cosb resymol’ fel amddiffyniad dros ymosod ar blentyn.
- Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun gweithredu cenedlaethol atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol. Mae’n ofynnol i fyrddau diogelu lleol gyflwyno adroddiad ar y broses o roi’r 31 o argymhellion yn y cynllun ar waith erbyn 31 Rhagfyr 2021.
- Yn 2018, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ganllawiau statudol ar yr hyn a ddylai ddigwydd pe bai gan unigolyn bryderon am lesiant oedolyn sy’n cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu sydd mewn perygl o ddioddef hyn.
- Yn 2016, sefydlwyd Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol i adrodd a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch diogelu plant ac oedolion.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 12/07/2021