Trais, camdriniaeth ac esgeulustod, a chamfanteisio’n rhywiol ar blant – asesiad Llywodraeth y DU

Asesiad cynnydd

Cynnydd cyfyngedig

Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.

Mae Llywodraeth y DU wedi cymryd rhai camau deddfwriaethol a pholisi i ymdrin ag agweddau ar drais, camdriniaeth ac esgeulustod, gan gynnwys ei chynigion yn y Bil Diogelwch Ar-lein drafft a chadarnhau y Confensiwn ar Ddiogelu Plant rhag Camfanteisio Rhywiol a Cham-drin Rhywiol. Fodd bynnag, mae cyfraddau erlyn a chymorth i ddioddefwyr trais, camdriniaeth ac esgeulustod yn isel o hyd, ac nid yw Llywodraeth y DU wedi cymryd camau digonol i wella dulliau i ddiogelu plant, megis mynd i’r afael ag ymyriadau llawfeddygol diangen ar blant rhyngrywiol.

Darllenwch fwy am gamau Llywodraeth y DU ar trais, camdriniaeth ac esgeulustod, a chamfanteisio’n rhywiol ar blant.

Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 12/07/2021