Trais, camdriniaeth ac esgeulustod, a chamfanteisio’n rhywiol ar blant – asesiad Llywodraeth Cymru
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhai camau deddfwriaethol a pholisi cadarnhaol, gan gynnwys amrywiaeth o gamau i fynd i’r afael ag adfyd plentyndod. Data cyfyngedig sydd ar gael am gyfraddau trais, camdriniaeth ac esgeulustod, ond mae tystiolaeth sydd ar gael yn dangos bod cyfraddau trais a cham-drin domestig, a throseddau rhywiol a gofnodwyd yn erbyn plant yng Nghymru, yn uchel o hyd. Mae tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg yn dangos bod nifer yr achosion o gam-drin domestig y rhoddwyd gwybod amdanynt wedi cynyddu yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19), a bod nifer cynyddol o alwadau i linellau cymorth ar gyfer cam-drin.
- Mae data o’r arolwg troseddu ar gyfer Cymru yn dangos bod 18.2% o ddynion a 24.9% o fenywod rhwng 16 a 74 oed wedi nodi eu bod wedi cael eu cam-drin cyn eu pen-blwydd yn 16 oed.
- Amcangyfrifir y gallai 138,000 o bobl hŷn yng Nghymru fod yn cael eu cam-drin. Mae diffyg data wedi’u dadgyfuno a’r ffaith nad yw pobl yn rhoi gwybod am ddigwyddiadau yn golygu ei bod yn anodd cael darlun cywir.
- O ganlyniad i’r pandemig, mae galwadau i linellau cymorth cam-drin domestig wedi cynyddu’n sylweddol ac, yn yr hirdymor, mae’n debygol y bydd mwy o alw ar wasanaethau cymorth arbenigol yng Nghymru sydd eisoes dan bwysau.
- Yn 2020, roedd gan 16,580 o blant yng Nghymru gynllun gofal a chymorth, ac roedd 2,310 o’r rhain ar y gofrestr amddiffyn plant hefyd.
- Yn 2019, cofnododd yr heddlu yng Nghymru 667 o droseddau yn ymwneud â chyfathrebu o natur rywiol â phlentyn yn ystod y ddwy flynedd a hanner ers i hyn ddod yn anghyfreithlon.
- Mae troseddau rhywiol a gofnodwyd gan yr heddlu yn erbyn plant dan 16 oed wedi mwy na dyblu yng Nghymru, o 33.9 fesul 10,000 o blant yn 2014–15 i 69.5 fesul 10,000 o blant yn 2019–20. Hon yw’r gyfradd uchaf a gofnodwyd yn y DU. Er y deellir bod mwy o ymwybyddiaeth a phrosesau cofnodi gwell wedi cyfrannu at y cynnydd hwn, disgwylir na roddir gwybod am lawer o achosion o gam-drin plant o hyd.
- Mae Cymorth i Ferched Cymru wedi nodi bod y gwasanaethau cymorth arbenigol a ddarperir i blant a phobl ifanc yn amrywio ledled Cymru a bod angen mwy o ddarpariaeth arbenigol.
- Yn 2018, gwnaeth yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol argymhellion i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys datblygu polisi cenedlaethol i hyfforddi a defnyddio hebryngwyr yn ystod triniaethau mewn gwasanaethau gofal iechyd plant. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr holl argymhellion a’u hymgorffori yng nghynllun gweithredu cenedlaethol 2019.
- Yn 2020, argymhellodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau bod ymyrryd yn gynnar ac adfyd plentyndod, gan gynnwys camdriniaeth ac esgeulustod, yn flaenoriaeth i bob gwasanaeth.
- Nododd canfyddiadau o adolygiad o’r polisi ynghylch profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yng Nghymru yn 2021 fod ymwybyddiaeth o brofiadau o’r fath mewn llawer o feysydd polisi ond nad yw effaith y polisi penodol ar ganlyniadau bywyd plant yn glir eto.
- Er bod ymwybyddiaeth o arferion niweidiol – megis anffurfio organau cenhedlu benywod, priodasau dan orfod a thrais ar sail anrhydedd, fel y’i gelwir – yn cynyddu, mae’n annhebygol y bydd nifer yr achosion a gofnodir wir yn adlewyrchu nifer y plant sy’n wynebu risg. Er enghraifft, nododd arweinwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru ar anffurfio organau cenhedlu benywod y cafodd 271 o achosion eu cofnodi yng Nghymru yn ystod y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2018.
- Yn 2020, adroddodd Llywodraeth Cymru ar gynnydd o ran rhoi ei chynllun gweithredu i ddiogelu plant a phobl ifanc ar-lein ar waith. Er bod y rhan fwyaf o’r camau gweithredu yn mynd rhagddynt, gwnaed cynnydd o ran darparu ffilmiau diogelwch ar-lein ar gyfer gofalwyr a theuluoedd, a darparu adnodd archwilio prosesau diogelu i ysgolion.