Trais, camdriniaeth ac esgeulustod, a chamfanteisio’n rhywiol ar blant – asesiad Llywodraeth y DU
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Mae Llywodraeth y DU wedi cymryd rhai camau deddfwriaethol a pholisi i ymdrin ag agweddau ar drais, camdriniaeth ac esgeulustod, gan gynnwys ei chynigion yn y Bil Diogelwch Ar-lein drafft a chadarnhau y Confensiwn ar Ddiogelu Plant rhag Camfanteisio Rhywiol a Cham-drin Rhywiol. Fodd bynnag, mae cyfraddau erlyn a chymorth i ddioddefwyr trais, camdriniaeth ac esgeulustod yn isel o hyd, ac nid yw Llywodraeth y DU wedi cymryd camau digonol i wella dulliau i ddiogelu plant, megis mynd i’r afael ag ymyriadau llawfeddygol diangen ar blant rhyngrywiol.
- Yn 2019–20, mynegwyd 475,560 o bryderon yn Lloegr o dan reolau diogelu oedolion sy’n cynrychioli cynnydd o 30% o 2016–17.
- Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020, roedd 7.5% o ddynion anabl ac 14.7% o fenywod anabl wedi profi cam-drin domestig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, o gymharu â 3.2% o ddynion nad ydynt yn anabl a 6% o fenywod nad ydynt yn anabl.
- Cofnodwyd tua 227,500 o achosion adnabyddadwy o gam-drin plant yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2019; o’r rhain, arweiniodd tua un ym mhob 25 o achosion at gyhuddiad neu wŷs. O ganlyniad i anawsterau gyda thystiolaeth, yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2019, ni wnaeth 49% o droseddau cam-drin plant a gofnodwyd gan yr heddlu fynd ymhellach drwy’r system cyfiawnder troseddol.
- Mae’n debygol y bydd pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi arwain at gynnydd yn yr achosion o gam-drin, ac mae tystiolaeth yn dangos bod nifer y cysylltiadau gan bobl a oedd yn bryderus am blant yn byw mewn cartrefi â cham-drin domestig wedi cynyddu 49% ar ôl i’r cyfyngiadau symud cenedlaethol gael eu cyflwyno yn 2020.
- Yn 2019–20, ledled y DU (ac eithrio’r Alban) cofnododd yr heddlu 10,391 o droseddau rhywiol yn erbyn plant a oedd yn cynnwys elfen ar-lein – cynnydd o 16% o’r flwyddyn flaenorol.
- Mae’r cod ymarfer dros dro ar gamfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol ar-leinyn ddatblygiad i’w groesawu, er bod cydymffurfio yn wirfoddol o hyd.
- Nid yw gwasanaethau cymorth ar gyfer goroeswyr achosion o gam-drin plant yn rhywiol yn diwallu anghenion goroeswyr, yn ôl yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol, ac nid oedd bron 73% o ymatebwyr i arolwg yn 2020 wedi defnyddio gwasanaethau cymorth.
- Canfu’r Panel Adolygu Ymarfer Diogelu Plant ym mis Mawrth 2020 na all y system ddiogelu atal digwyddiadau difrifol na marwolaeth: roedd dros hanner y 534 o blant a fu farw neu a anafwyd rhwng 2018 a 2019 eisoes yn hysbys i’r gwasanaethau cymdeithasol plant ar adeg y digwyddiad.
- Gall rhieni, a’r rhai sy’n gweithredu ‘in loco parentis’, a gaiff eu cyhuddo o ymosodiad cyffredin ar blentyn ddibynnu ar amddiffyniad ‘cosb resymol’ o hyd yn Lloegr, er bod yr amddiffyniad hwn wedi cael ei ddiddymu yng Nghymru ac yn yr Alban.
- Mae ‘trais ar sail anrhydedd’, fel y’i gelwir, yn parhau ledled y DU. Mae data arbrofol yn dangos bod yr heddlu wedi cofnodi 2,024 o achosion yn ymwneud â cham-drin ‘ar sail anrhydedd’ yng Nghymru a Lloegr yn 2019–20. Fodd bynnag, mae pryderon na roddir gwybod am lawer mwy o droseddau ac mae cyfraddau erlyn ar gyfer y troseddau hyn yn isel.
- Ni wnaed cynnydd i ddiogelu plant rhyngrywiol rhag yr ymarfer parhaus o gynnal ymyriadau llawfeddygol diangen, er gwaethaf argymhellion gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn erbyn Artaith i atal y triniaethau hyn a gwneud iawn i’r rhai yr effeithiwyd arnynt.
- Nid yw Llywodraeth y DU wedi diddymu adrannau 134(4) na (5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988, yn unol ag argymhelliad Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn erbyn Artaith, ac nid yw wedi gwahardd artaith yn llwyr, sy’n golygu bod amddiffyniadau yn erbyn erlyn am arteithio pan fydd diffynnydd yn mynnu bod ganddo awdurdod, cyfiawnhad neu esgus cyfreithlon.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 12/07/2021