Mynediad i gyfiawnder, yn cynnwys prawf teg – asesiad Llywodraeth y DU
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cymryd camau pwysig i wella cymorth i ddioddefwyr a mynediad i gymorth cyfreithiol, yn cynnwys Cod y Dioddefwyr yn dod i rym. Fodd bynnag, mae problemau’n parhau o ran effaith y Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr (LASPO) 2012 ar fynediad at gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr. Mae tystiolaeth o rwystrau wrth i bobl anabl geisio mynediad i’r system cyfiawnder, a gallai moderneiddio’r llysoedd – gan gynnwys cyflwyniad cyflym gwrandawiadau pell – gael effaith negyddol ar gyfranogiad ar gyfer grwpiau penodol. Mae’r pandemig COVID-19 wedi rhoi straen ychwanegol arwyddocaol ar y system llysoedd a’r sector cyngor cyfreithiol, gan gynnwys trwy waethygu’r ôl-groniadau achosion cyfredol, er bod camau wedi eu cyflwyno i gefnogi adferiad.
- Er gwaethaf newidiadau i wella mynediad at gymorth cyfreithiol, mae problemau o hyd o ran effaith LASPO, yn arbennig ar gyfer rhai gyda nodweddion gwarchodedig penodol. Mae problemau yn cynnwys diddymu neu leihau argaeledd cymorth cyfreithiol sifil, diffyg hygyrchedd y cynllun ariannu achosion eithriadol, y trothwyon cymhwyster ariannol ar gyfer cymorth cyfreithiol, a rhwystrau diangen i gyfiawnder mewn hawliadau gwahaniaethu.
- Casglodd adroddiad yn 2019 gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru nad yw mynediad priodol at gyfiawnder ar gael yng Nghymru oherwydd toriadau cymorth cyfreithiol dan LASPO.
- Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu cynyddu ffioedd llysoedd dethol yn unol â chwyddiant, er bod nifer o ymatebwyr i ymgynghoriad ar y cynlluniau hyn wedi nodi y gallai cynnydd gael effaith negyddol ar fynediad at gyfiawnder.
- Mae yna dystiolaeth nad yw anghenion diffynyddion anabl gyda namau penodol yn cael eu bodloni yn y system cyfiawnder troseddol. Mae pryderon yng Nghymru a Lloegr y gallai agweddau o’r rhaglen diwygio’r llysoedd, yn arbennig y newid i wrandawiadau pell a phrosesau ar-lein, ei gwneud yn anodd i ddifinyddion anabl penodol gymryd rhan mewn prosesau cyflawnder, a hefyd yn creu anfanteision i bobl hŷn.
- Mae yna risgiau y gallai cau’r llysoedd dan y rhaglen ddiwygio greu anfantais benodol i bobl anabl, menywod gyda’r nodwedd warchodedig beichiogrwydd a mamolaeth a gofalwyr.
- Mae darpariaethau yn y Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd yn ceisio ehangu’r defnydd o ‘gyswllt byw’ mewn achosion troseddol, ond nid yw problemau cyfredol wedi eu datrys, gan gynnwys o ran casglu data a sgrinio ar gyfer anghenion cyfathrebu.
- Fe wnaeth defnydd o wrandawiadau fideo a ffôn i gefnogi’r system llysoedd ehangu yn ystod y pandemig cyn i’w heffaith gael eu gwerthuso’n llawn a chyn lliniaru ar gyfer unrhyw effeithiau negyddol.
- Mae’r cam tuag at wasanaethau cynghori ar-lein yn ystod y pandemig o bosibl yn anfanteisiol i grwpiau sydd wedi eu heithrio’n ddigidol.
- Mae sefydliadau cynghori a’r sector cymorth cyfreithiol yn wynebu heriau ariannol, tra bod galw am gyngor am ddim wedi cynyddu yn ystod y pandemig. Darparodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig rhywfaint o gyllid ar gyfer cyngor cyfreithiol yn ystod y pandemig.
- Mae’r pandemig wedi rhoi’r system llysoedd dan straen digyffelyb, gan gynyddu ôl-groniad oedd eisoes yn sylweddol o achosion ar draws llysoedd sifil a throseddol. Mae cynllun adfer Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynnwys camau i gynnal gweithrediad y system. Fodd bynnag, mae oedi yn cael effaith negyddol ar ddioddefwyr, tystion a diffynyddion, ac ar ganlyniad yr achosion.
- Sefydla Cod y Dioddefwyr safonau i gefnogi pobl sydd wedi bod yn ddioddefwyr trosedd a byddai’r ymroddiad i Gyfraith Dioddefwyr – os y’i gweithredir – yn helpu gorfodi’r safonau hyn.
- Mae addasiadau i’r Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 yn gwella amddiffyniad ar gyfer dioddefwyr mewn llysoedd sifil a theulu.
- Gellid defnyddio darpariaethau yn y Bil Adolygiad Barnwrol a’r Llysoedd i gyfyngu mynediad i, ac unioniad gan, adolygiadau barnwrol llwyddiannus, gan danseilio mynediad at gyfiawnder.