Mynediad i gyfiawnder, yn cynnwys prawf teg – Gweithredu gan y llywodraeth
Gweithredu gan Lywodraeth y DU
- Yn Awst 2021, ymatebodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ymgynghoriad ar gynyddu ffioedd llys dethol.
- Yng Ngorffennaf 2021, cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y Bil Adolygiad Barnwrol a’r Llysoedd, yn dilyn ymgynghoriad ar newidiadau i’r gyfraith a gweithdrefnau ar gyfer adolygiad barnwrol.
- Yn Ebrill 2021, derbyniodd y Ddeddf Cam-drin Domestig gysyniad brenhinol. Mae’n cynnwys darpariaethau i wella amddiffyniad dioddefwyr cam-drin domestig rhag croesholi uniongyrchol personol gan rai sydd wedi eu cyhuddo o gam-drin mewn achosion teuluol a sifil.
- Yn Ebrill 2021, daeth Cod y Dioddefwyr i rym ac fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ymroi i ddwyn Cyfraith Dioddefwyr ymlaen i sicrhau bod dioddefwyr trosedd yn cael gwell cefnogaeth gan yr heddlu, llysoedd ac asiantaethau eraill.
- Ym Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd, sy’n cynnig newidiadau i sut mae’r llysoedd yn gweithredu.
- Yn Ionawr 2021, cyhoedodd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi gynllun gweithredu bregus i alluogi pobl mewn sefyllfaoedd bregus i gael mynediad i’r system cyfiawnder yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19).
- Yn Rhagfyr 2020, lansiodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig adolygiad annibynnol i gynaliadwyedd hirdymor y farchnad cymorth cyfreithiol troseddol.
- Yn Nhachwedd 2020, gwnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig groesholi wedi ei recordio ymlaen llaw ar gael ym mhob llys y goron.
- Yng Ngorffennaf 2020, cyhoeddodd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi gynllun adferiad i gynnal gweithrediad y system cyfiawnder yn ystod y pandemig. Roedd hyn yn cynnwys agor ‘Llysoedd Nightingale’ dros dro i gynyddu capasiti ac ‘uwch lys’ i glywed achosion cymhleth.
- Yng Ngorffennaf 2020, cyhoeddodd Cyngor Dedfrydu Cymru a Lloegr yr arweiniad i farnwyr ar ddedfrydu troseddwyr gydag anhwylderau datblygu neu namau niwrolegol.
- Ym Mai 2020, darparodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig £5.4 miliwn i ddarparwyr cyngor cyfreithiol arbenigol nid er elw, trwy’r grant Cynllun Gwasanaethau Cyngor Arbenigol COVID-19. Cyhoeddwyd £2 miliwn yn ychwanegol yng Ngorffennaf 2021 i ddarparu help cyfreithiol trwy’r Gronfa Cyfiawnder Cymunedol i bobl sydd wedi colli eu swydd, wedi eu dal mewn ôl-daliadau rhent, neu mewn dyled o ganlyniad i’r pandemig.
- Ym Mai 2020, cyflwynodd y Rheoliadau Cymorth Cyfreithiol Sifil (Gweithdrefn) (Addasiad) 2020 newidiadau i’r gofynion tystiolaeth i fod yn gymwys i dderbyn cymorth cyfreithiol mewn achosion o gam-drin domestig, a thynnu’r porth ffôn gofynnol i gael mynediad at gyngor cyfreithiol sifil yn ôl mewn achosion addysg, gwahaniaethu a dyledion.
- Yn Hydref 2019, addasodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr (LASPO) 2012 i ddod â materion mewnfudo a dinasyddiaeth nad ydynt yn ymwneud â lloches i gwmpas cymorth cyfreithiol ar gyfer rhai dan 18 nad ydynt dan ofal rhiant, gwarchodwr neu awdurdod cyfreithiol.
- Yn Chwefror 2019, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig adolygiad yn dilyn gweithredu o LASPO ynghyd â Chynllun Gweithredu Cymorth Cyfreithiol, oedd yn ymroi i nifer o gamau i wella mynediad at gymorth cyfreithiol ac adolygiad o’r prawf modd ar gyfer cymorth cyfreithiol.
- Yn Nhachwedd 2018, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig raglen diwygio’r llysoedd a chyhoeddi buddsoddiad o £1 biliwn yn y system cyfiawnder. Nod y diwygiadau yw cynyddu gweithio digidol yn y llysoedd troseddol; ehangu gwasanaethau datrys ar-lein mewn awdurdodaethau sifil, teulu a thribiwnlys, a gwella prosesau ar draws awdurdodaethau.
- Yng Ngorffennaf 2018, gwnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig newidiadau i’r arweiniad y cyllid achosion eithriadol i’w gwneud yn haws i deuluoedd ymgeisio am gyllid cymorth cyfreithiol ar gyfer gwrandawiadau cwest.
- Yn 2017, diddymodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ffioedd ar gyfer cyflwyno hawliadau tribiwnlys cyflogaeth gan weithwyr, yn dilyn dyfarniad gan y Goruchaf Lys a ganfu bod y gyfundrefn ffioedd yn atal mynediad at gyfiawnder yn anghyfreithlon.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 30/09/2021