Fframweithiau sefydliadol, polisi ac economaidd – asesiad Llywodraeth y DU
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Mae Llywodraeth y DU wedi cymryd rhai camau gweithredu gyda’r nod o gryfhau fframweithiau sefydliadol, polisi ac economaidd sy’n ymwneud â hawliau dynol a chydraddoldeb, megis creu canolfan cydraddoldeb, sef uned benodol sy’n cydlynu sawl maes polisi sy’n ymwneud â chydraddoldeb. Fodd bynnag, mae llawer o gamau gweithredu yn anghyflawn neu ar gam cynnar. Er enghraifft, nid yw’r strategaeth i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau i Sipsiwn, Roma a Theithwyr wedi cael ei chyhoeddi eto, ac nid oes cynnydd clir o sylwedd o ran rhoi’r cynllun ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau ar waith. Mae pryderon hefyd ynghylch yr effaith bosibl y bydd colli cyllid gan yr UE yn ei chael ar hawliau dynol.
- Er bod Llywodraeth y DU wedi rhoi cartref parhaol i Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth yn Swyddfa’r Cabinet, a chreu’r Ganolfan Cydraddoldeb, nid yw wedi cyhoeddi gwybodaeth am flaenoriaethau’r Ganolfan Cydraddoldeb na chydberthnasau rhwng ei rhannau hanfodol, a fydd yn angenrheidiol er mwyn sicrhau tryloywder, effeithiolrwydd ac atebolrwydd.
- Nid yw Llywodraeth y DU wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran rhoi’r cynllun ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau ar waith na’r Cynllun Gweithredu LHDT. Cyhoeddwyd yr adroddiad blynyddol diwethaf ar gynnydd y Cynllun Gweithredu LHDT yn 2019. Ymddengys nad yw’r cynllun ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn cael ei roi ar waith yn ymarferol, ac nid oes adroddiadau blynyddol ar gynnydd i Senedd y DU wedi cael eu cyhoeddi.
- Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddileu’r rhwystrau sy’n atal pobl anabl rhag cymryd rhan lawn a chyfartal mewn cymdeithas drwy strategaeth anabledd genedlaethol. Fodd bynnag, mae sawl sefydliad i bobl anabl wedi beirniadu dull Llywodraeth y DU o ymgysylltu â phobl anabl wrth ddatblygu’r strategaeth, a chafodd adolygiad barnwrol ei lansio ynghylch methiant Llywodraeth y DU i gynnal ymgynghoriad ffurfiol.
- Nid yw Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi gwybodaeth am gynnydd o ran datblygu’r strategaeth genedlaethol ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a wynebir gan Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
- Roedd adroddiad y Comisiwn ar Wahaniaethau Hil ac Ethnig ym mis Mawrth 2021 yn cynnwys argymhellion i leihau gwahaniaethau hiliol. Nid yw Llywodraeth y DU wedi ymateb yn ffurfiol i’r adroddiad eto.
- Mae Cyd-bwyllgor Senedd y DU ar Hawliau Dynol, ac eraill, wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi strategaeth cydraddoldeb hiliol gydgysylltiedig a thrawslywodraethol ar waith. Fodd bynnag, nid yw’r Llywodraeth wedi mynd ati i wneud hyn eto.
- Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau nad oes cynlluniau ganddi i sefydlu cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer hawliau dynol.
- Mae Llywodraeth y DU yn cyhoeddi asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer rhai polisïau o bwys, a all fod yn adnodd tryloywder pwysig ar gyfer cydraddoldeb. Fodd bynnag, mae’r asesiadau hyn wedi cael eu cyhoeddi ar ôl i bolisïau gael eu rhoi ar waith weithiau, nid ydynt bob amser yn esbonio’n llawn sut yr effeithiodd y dadansoddiad ar y polisi, a gall tystiolaeth o ymgynghori â grwpiau sy’n cynrychioli nodweddion gwarchodedig fod yn brin. Er enghraifft, cafodd dadansoddiad cydraddoldeb Llywodraeth y DU o Ddeddf y Coronafeirws 2020 ei gyhoeddi bedwar mis ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym.
- Mae pryderon ynghylch yr effaith bosibl y bydd colli cyllid gan yr UE yn ei chael ar brosiectau sydd â goblygiadau i hawliau dynol. Ychydig o gyfeiriadau a geir at ystyriaethau cydraddoldeb ym mhrosbectws Cronfa Adfywio Cymunedol y DU – y bwriedir iddi gefnogi cymunedau nes y caiff Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ei lansio yn 2022 – ac nid yw’n cynnwys unrhyw wybodaeth am hawliau dynol.
- Mae’n rhy gynnar i asesu effaith y buddsoddiad mewn seilwaith drwy Gronfa Codi’r Gwastad a gyhoeddwyd yng Nghyllideb 2021.
- Nid yw Llywodraeth y DU wedi rhoi pwerau i orfodi hawliau dynol i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn unol â’n pwerau mewn perthynas â chydraddoldeb. Mae hyn yn ein hatal rhag ymgymryd ag ymchwiliadau i achosion o dorri hawliau dynol, ymhlith cyfyngiadau eraill.