Fframwaith cyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol – camau gweithredu’r Llywodraeth
Camau gweithredu Llywodraeth y DU:
- Ym mis Medi 2022, fe gyflwynodd yr Adran dros Fusnes, Egni a Strategaeth Ddiwydiannol Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio). Bydd y Bil yn diddymu cyfreithiau’r UE a ddargedwir sydd mewn grym ar hyn o bryd yn y DU, oni bai eu bod wedi eu cymhathu i gyfraith ddomestig y DU. Gallai hyn effeithio ar fframwaith gyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol.
- O fis Mehefin hyd fis Awst 2022, fe ymgynghorodd Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth ar ei gynnig i ddod ag adran 36 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i rym yng Nghymru a Lloegr. Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i berchenogion eiddo wneud addasiadau rhesymol i rannau cyffredin eiddo ar osod.
- Ym mis Gorffennaf 2022, fe ddiddymodd Llywodraeth y DU Gonfensiwn Cyngor Ewrop ar atal a mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig, a adwaenir fel Confensiwn Istanbul. Fe wnaeth Llywodraeth y DU gymalau cadw i erthygl 44(3), sy’n ymwneud ag awdurdodaeth alldiriogaethol a throseddoldeb ddeuol, ac erthygl 59, sy’n ymwneud â goroeswyr y mae eu statws preswylio yn dibynnu ar statws eu gŵr neu wraig, neu eu partner.
- Ym mis Mehefin 2022, fe gyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Bil Hawliau, sydd â’r nod o ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998 a chyflwyno deddfwriaeth sylweddol wahanol yn ei le. Cafodd y Bil ei oedi ar 7 Medi 2022. Mae’n bosibl y gwnaiff rhai o’i ddarpariaethau ddychwelyd mewn ffurf wahanol.
- Ym mis Mai 2022, fe gyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio, sydd â’r bwriad o fynd i’r afael ag anghydraddoldeb trwy lens ddaearyddol.
- Ym mis Mawrth 2020, fe dderbyniodd Deddf y Coronafeirws 2020 Gydsyniad Brenhinol mewn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19). Cafodd Lloegr ei llywodraethu gan gyfres o reoliadau coronafeirws er mwyn amddiffyn iechyd, a oedd yn cynnwys darpariaethau â goblygiadau sylweddol i gydraddoldeb a hawliau dynol, hyd fis Chwefror 2022.
- Ym mis Mehefin 2018, fe dderbyniodd Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 Gydsyniad Brenhinol. Mae’r Ddeddf yn cynnwys trefniadau sy’n newid y fframwaith gyfreithiol hawliau dynol trwy ddiddymu Siarter Hawliau Sylfaenol yr UE o gyfraith ddomestig.
Camau gweithredu Llywodraeth Cymru: Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 a Deddf Cydraddoldeb 2010 wedi eu cadw i Lywodraeth y DU. Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau o fewn Deddf Cydraddoldeb 2010 i greu is-ddeddfwriaethau a gall hefyd ddeddfu er mwyn ymgorffori hawliau dynol neu i ddarparu amddiffyniadau hawliau dynol ychwanegol mewn perthynas â materion sydd wedi eu datganoli.
- Ym mis Medi 2022, cychwynnodd Llywodraeth Cymru ei adolygiad o reoliadau Dyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Cymru, yn dilyn ymrwymiad yn ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol.
- Ym mis Mai 2022, fe ymrwymodd Llywodraeth Cymru mewn egwyddor i ymgorffori cyfraith hawliau dynol rhyngwladol i ddeddfwriaeth ddomestig, mewn ymateb i ymchwil ar gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru a gomisiynodd ym mis Ionawr 2020.
- Ym mis Mawrth 2021, daeth y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol, sydd â’r nod o fynd i’r afael ag anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol, i rym yng Nghymru.
- Yn 2020, fe gydsyniodd Llywodraeth Cymru i gymhwyso darpariaethau yn Neddf Coronafeirws 2020 i Gymru ac fe gyflwynodd Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cymru), a amlinellodd gyfyngiadau ar unigolion a busnesau.
- Yn 2020, fe ymatebodd Llywodraeth Cymru i argymhellion i adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar hawliau plant yng Nghymru, gan gynnwys ymrwymo i gyhoeddi diweddariad blynyddol o gynnydd yn erbyn argymhellion gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Cafodd yr adroddiad diweddaru cyntaf ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2021.
- Yn 2020, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau Sicrhau bod Hawliau’n Gweithio i Bobl Hŷn ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn cefnogi’r gofyniad ar awdurdodau cyhoeddus i roi ystyriaeth lawn i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Personau Hŷn o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
- Er nad yw wedi ei chyflwyno’n llawn eto, mae’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn nodi bod yn rhaid i berson sy’n gweithredu swyddogaethau o dan y Ddeddf roi ystyriaeth lawn i Gonfensiwn y Cenhedlodd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022